Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, RUSSELL HOUSE, RHYL

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na rhai sy’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw  faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 185 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 16eg Gorffennaf 2012 (copi’n amgaeëdig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 16eg Gorffennaf 2012.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir.

 

 

5.

FFRWD WAITH ADFYWIO GORLLEWIN Y RHYL pdf eicon PDF 135 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu nodau ac amcanion y Strategaeth, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision.

                                                                                                          10.35 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd o ran cyflawni Ffrwd Waith Adfywio Gorllewin y Rhyl yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Er mwyn cyflawni'n effeithiol, roedd gwaith Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen wedi ei drefnu mewn ffrydiau gwaith:-

 

·                    Ardal Adfywio Gorllewin y Rhyl

·                    Twristiaeth a’r Llain Arfordirol

·                    Manwerthu a Chanol y Dref

 

Roedd Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn barhad o’r gwaith parhaus yng Ngorllewin y Rhyl dan Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru. Amlinellwyd amcanion a manteision y Prosiect yn yr adroddiad, ynghyd â chyfrifoldebau Bwrdd y Prosiect Gwella ar gyfer cyflawni’r prosiect. Esboniodd Rheolwr y Rhaglen y byddai delio â’r materion a oedd wedi bodoli ers amser maith yn yr ardal yn helpu creu argraff fwy cadarnhaol o’r dref yn gyffredinol a thrwy hynny gael manteision adfywio mwy pell-gyrhaeddol. Trwy greu cymuned mwy cytbwys byddai’r prosiect yn lleihau amddifadiad yn yr ardal, sef un o ganlyniadau allweddol y flaenoriaeth. Byddai hefyd yn hybu hyder y sector preifat yn y Rhyl ac yn ysgogi buddsoddiad pellach yn y sector preifat a hyder trwy greu swyddi newydd, cyfleoedd busnes a hybu twristiaeth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i gydnabod a delio â’r gwendidau a adnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei Hadroddiad Gwella Blynyddol ar y Cyngor, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012, a nododd fylchau ym mecanwaith a chefnogaeth y Cyngor tuag at y Rhaglen.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen yr aelodau at yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig a oedd yn manylu sut byddai’r prosiect yn cael effaith uniongyrchol ar y Blaenoriaethau Corfforaethol newydd arfaethedig, y costau tebygol a’r ffrydiau ariannu, y risgiau a adnabuwyd mewn perthynas â’i gyflawni, a’r cyfathrebu a’r gwaith ymgynghori a ymgymerwyd gyda’r gymuned yn yr ardal. Pwysleisiwyd  bod y cyllid wedi ei ddyrannu’n benodol ar gyfer Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, ac na ellid ei ddefnyddio y tu allan i’r Rhyl nac ar brosiectau amgen. Cyfeiriwyd at Floc 1, y Parc Trefol, a oedd yn golygu gweddnewid yr ardal yn ardal werdd. Mynegwyd pryder y gallai’r cyfnod ar ôl cwblhau’r prosiect fod â goblygiadau ariannol mewn perthynas â chynnal a chadw’r man gwyrdd, a byddai angen delio â hyn gyda’r datblygwyr gan y byddai opsiynau posibl a chyfrifoldebau yn elfen allweddol yn y broses o ddylunio a chynllunio. Hysbyswyd yr Aelodau bod canllawiau cynllunio atodol drafft wedi eu cyhoeddi a oedd yn amlinellu datblygiad yr ardal yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd Rheolwr y Rhaglen bod cytundeb wedi ei lunio, gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alun yn unig, y byddai pobl a oedd yn byw yn ardal y prosiect yn cael lefel o flaenoriaeth mewn perthynas â’r rhestr dai, er mwyn delio ag amserlenni.    

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd J.M. Davies bwysigrwydd yr angen i newid syniad pobl ledled y DU ynglŷn â’r Rhyl, ac arwyddocad cael atyniad mawr i’r dref i ddenu ymwelwyr i’r Rhyl.  Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen bod gwaith wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i ddelio â hyn trwy annog buddsoddiad sector preifat i’r dref a chafwyd peth llwyddiant arwyddocaol eisoes gyda lefel uchel o diddordeb o’r tu allan eisoes yn cael ei dangos yn y dref. Esboniodd bod Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda’i phartner strategol Alliance Leisure i geisio mapio digwyddiadau priodol a darparu cyfleusterau ar gyfer nawr ac i’r dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys y posibilrwydd o ailddatblygu a disodli’r Heulfan.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

FFRWD WAITH MANWERTHU A CHANOL Y DREF pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu cynnydd o ran gweithredu’r Ffrwd Waith, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision.

                                                                                                       11.10 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar Ffrwd Waith Manwerthu a Chanol Tref y Rhyl yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu cynnydd o ran gweithredu Ffrwd Waith Manwerthu a Chanol y Dref yn y Strategaeth, ei goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision. Roedd cynnydd y ffrwd waith wedi ei fonitro gan Fwrdd Rhaglen Cymdogaethau a Lleoedd y Rhyl yn Symud Ymlaen. Cyfeiriwyd yn benodol at y prosiectau allweddol canlynol au harwyddocad:

 

Ø      Ailwampio’r Orsaf Bysus.

Ø      Penodi Rheolwr Canol y Dref.                            

Ø      Datblygiad Swyddfa Bee and Station.

Ø      Costigans.

Ø      Marchnad y Rhyl.

Ø      Prosiectau a gweithgareddau eraill.

 

Esboniwyd mau ffrwd waith canol y dref oedd un o’r rhai a oedd wedi ei diffinio leiaf o ran cyfeiriad a strategaeth gyffredinol. Pwysleisiwyd yr angen i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer canol y dref ac amlinellwyd agwedd bosibl tuag at y strategaeth ar gyfer Canol Tref y Rhyl yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y ffaith y byddai’r ffrwd waith yn cefnogi cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol newydd arfaethedig Datblygu’r Economi Lleol a’n Cymunedau, gan mai prif nod y ffrwd waith oedd cynyddu nifer ymwelwyr â chanol y dref a chreu mwy o gyfleoedd busnes a swyddi yn y sector twristiaerth. 

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod nifer o feysydd gwasanaeth yn chwarae rhan yn y cynlluniau, yn amrywio gyda natur y prosiect. Roedd meysydd gwasanaeth allweddol a oedd yn cael mewnbwn rheolaidd ac yn chwarae rhan yn y cynlluniau adfywio yn cynnwys y Gwasanaethau Hamdden, Parth Cyhoeddus, Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio. Pwysleisiwyd, er mwyn cael canol y dref a oedd yn llwyddiannus, bod angen cydnabod a delio â nifer o faterion a risgiau, ac roedd y rhain wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i wella’r farchnad gyflogaeth bresennol yn yr ardal a sicrhau bod datblygu’r prosiectau yn cynnwys rhagolygon gwaith ar gyfer trigolion lleol yn y gymuned. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen at ddatblygiad arfaethedig safle’r Honey Club, y rhagwelwyd y byddai’n darparu rhwng 30 a 40 swydd yn yr ardal. Hysbysodd y Pwyllgor bod Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda’r datblygwr, ac yn parhau i weithio gyda’r mudiad partner Strategaeth Dinas y Rhyl, a oedd yn darparu hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau a oedd eu hangen i ddiwallu gofynion cyflogaeth buddsoddwyr. Cyfeiriwyd at y datblygiad manwerthu newydd ym Mhrestatyn a sefydliad academi sgiliau manwerthu newydd ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith. Byddai darpar weithwyr lleol yno yn cael eu hyfforddi i gael y sgiliau a’r cymwysterau hanfodol yn barod ar gyfer gwaith posibl yn y dyfodol. Cytunodd yr Aelodau gyda’r farn a fynegwyd y dylai effaith ailddabtlygu yn y Rhyl a Phrestatyn fynd gyda’r cynllun adfywio ar gyfer gweddill y Sir.

 

Cyfeiriwyd at yr effaith andywol bosibl ar y Rhyl yn deillio o adleoli siop Marks and Spencer i Brestatyn. Cytunodd yr Aelodau ei bod yn hanfodol annog manwerthwyr allweddol i fuddsoddi yn y Rhyl, er mwyn galluogi i’r dref ddod yn lleoliad manwerthu pwysig ac yn atyniad i ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal. Pwysleisiwyd hefyd y byddai angen i unrhyw ddatblygiad neu fuddsoddiad o’r fath fod yn gynaliadwy er mwyn sicrhau cyflawniad hirdymor yr amcanion ar gyfer yr ardal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cytunodd y swyddogion y byddai pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r argraff negyddol a grëwyd gan ddiffyg staff ar Orsaf y Rhyl ar adegau gwahanol, yn enwedig gyda’r nos, yn cael eu cyfleu i Network Rail. 

 

Tra bod haeddiant i gynnig trethi busnes  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

FFRWD WAITH TWRISTIAETH A’R LLAIN ARFORDIROL pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu cynnydd o ran gweithredu’r Ffrwd Waith, gan gynnwys unrhyw lithriant yn erbyn yr amserlen a’r gyllideb, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision.

                                                                                                           11.55 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar weithredu’r Ffrwd Waith Twristiaeth a'r Llain Arfordirol yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd y Llain Arfordirol o Harbwr Foryd i Splash Point wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau twristiaeth yn y Rhyl ers amser. Yr agwedd oedd adeiladu ar enw’r Rhyl fel cyrchfan i’r teulu ac amlinellwyd manylion cynigion i’r dyfodol a ffocws byrdymor ar gyfer y Pwyllgor. Roedd cynnydd ar y ffrwd waith yn cael ei fonitro gan Fwrdd Rhaglen Cymdogaethau a Lleoedd y Rhyl yn Symud Ymlaen.

 

Cyfeiriwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig at y prosiectau allweddol a oedd yn rhan o’r ffrwd waith hon, sef:

·        Ailwampio Sinema Apollo.

·        Gwaith Gwarchod y Glannau yn y Rhyl.

·        Harbwr Foryd a’r Bont – a oedd yn cynnwys pont i gerddwyr a beicwyr, sgwâr cyhoeddus, adeilad ar y cei a muriau cei newydd.

·        Ailwampio’r Honey Club.

·        Ocean Plaza.

·        Tŵr Awyr y Rhyl.

·        Prosiectau a gweithgareddau eraill.

·        Cynlluniau i’r Dyfodol.

 

Byddai’r ffrwd waith hon yn cyfrannu tuag at y Flaenoriaeth Gorfforaethol newydd arfaethedig, Datblygu’r Economi Lleol a’n Cymunedau, a phrif amcan y rhaglen yw cynyddu nifer ymwelwyr a chreu mwy o gyfleoedd busnes a swyddi yn y sector twristiaeth. Nid oedd gan y ffrwd waith twristiaeth gyllideb benodol, gyda chyllid wedi ei ddyrannu i brosiectau penodol, gan ddefnyddio yn bennaf ffynonellau ariannu allanol, ac roedd y gwaith yn cael ei fonitro yn ôl prosiect. Roedd mewnbwn rheolaidd a chyfraniad tuag at at y cynlluniau adfywio yn cael eu derbyn gan y Gwasanaethau Hamdden, Parth Cyhoeddus, Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, er mwyn creu economi twrisitaeth cryfach a delio â delwedd negyddol y Rhyl, y byddai angen cydnabod a delio gyda nifer o faterion a risgiau, a amlinellwyd yn yr adroddiad.

           

Cyfeiriwyd at yr adroddiad a gynhwyswyd fel Atodiad 4, a oedd yn rhoi gwybodaeth ar sefyllfa bresennol a dyfodol Tŵr Awyr y Rhyl.  Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen grynodeb o’r adroddiad a thrafododd yr Aelodau y 3 prif opsiwn, a oedd yn cynnwys:-

 

Opsiwn 1 – Ailwampio ac adsefydlu fel reid.

Opsiwn 2 – Tynnu i lawr a symud ymaith.

Opsiwn 3 – Cadw’r strwythur ar gyfer defnydd newydd.

 

Roedd strwythur y tŵr yn gadarn a oedd yn rhoi opsiwn i’w gadw. Opsiwn 3, i gadw’r strwythur ar gyfer defnydd newydd, oedd yr Opsiwn a argymhellwyd gan y swyddogion yn y adroddiad, a rhagwelwyd y byddai hyn yn ffurfio sylfaen adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref 2012. Gofynnwyd i Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl nodi pa un o’r opsiynau manwl, neu opsiynau amgen, yr oeddynt hwy yn eu hystyried fel y rhai mwyaf priodol ar gyfer y tŵr. Cyfleodd y Cynghorydd W. Mullen–James y farn a fynegwyd gan Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl, yn ei gyfarfod y noson flaenorol, ac esboniodd bod y Grŵp o blaid Opsiwn 1.

 

Trafodwyd y materion canlynol mewn perthynas ag opsiynau ar gyfer y tŵr i’r dyfodol:-

 

·        Ni ellid cyfiawnhau’r goblygiadau ariannol arfaethedig ar gyfer adfer y tŵr fel reid weithredol ­gan y byddai'n anodd llunio achos busnes o blaid yr opsiwn hwn

·        Dylid ystyried defnyddiau eraill ar gyfer y tŵr a chael opsiynau i gael cytundebau noddi

·        Dylid gofyn am farn trigolion y Rhyl o ran defnyddio’r tŵr yn y dyfodol.

·        Dylid ystyried hysbysebu ar gyfer cyflenwi reid olwyn fawr, o bosibl ger y Marine Lake, fel y lleolir mewn atyniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.

                                                                                                          12.30 p.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu, yn adolygu’r Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Hysbysodd y Cydgysylltydd Craffu yr Aelodau bod ymatebion i faterion a godwyd mewn cyfarfodydd blaenorol wedi eu cynnwys yn y Brîff Gwybodaeth a ddosbarthwyd ymlaen llaw.

 

Hysbyswyd yr Aelodau, oherwydd prinder amser, na fu modd cynnwys Canolfan Ddydd Hafan Deg ar rhestr y daith o gwmpas safleoedd allweddol. Fodd bynnag, gallai’r Aelodau ymweld â Hafan Deg trwy drefnu gyda’r swyddog mewn gofal.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol fel y manylwyd yn Atodiad 1. Ar ôl rhoi sylw i’r nifer gorau o eitemau i’w trafod ar y rhaglen mewn cyfarfod, cytunodd yr Aelodau gynnwys y newidiadau canlyniadol ym Mlaenraglen y Pwyllgor:-

 

-  Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd ar Ffrydiau Gwaith Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen i’r Pwyllgor yn chwarterol.

 

- Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau gymryd cyfrifoldeb am graffu ar gytundeb tenantiaid a llawlyfr drafft newydd Sir Ddinbych, gan fod yr Aelodau’n teimlo bod yr eitem yn fwy addas i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Cymunedau. Cytunodd y Pwyllgor y dylid dosbarthu adroddiad ymgynghorol yn gofyn am sylwadau a barn yr Aelodau.

 

            Gweithgor Gostyngiadau yn y Gwasanaeth Bws – roedd y Gweithgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi cyfarfod ar 2il Awst 2012 ac roedd copi o nodiadau’r cyfarfod wedi ei gynnwys fel Atodiad 4 i’r adroddiad. Roedd canfyddiadau ac argymhellion y Gweithgor i’w hadrodd i’r Cabinet ar 25ain Medi, 2012.

 

Penodi Cynrychiolwyr y Pwyllgor ar Grwpiau a Byrddau’r Cyngor – cytunodd yr Aelodau bod y Cynghorydd W. Mullen-James yn cael ei phenodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol, gyda’r Cynghorydd H.O. Williams yn cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd ar y Grŵp. Yn absenoldeb y Cynghorydd Mullen-James byddai’r Cynghorydd Williams yn mynychu’r cyfarfod a oedd wedi ei drefnu ar 8fed Hydref 2012.

 

Cyfeiriodd y Cydgysylltydd Craffu at Atodiad 1 y Brîff gwybodaeth a oedd yn cynnwys datganiad ar Gyd-ddarpariaeth Addysg Seiliedig ar Ffydd. Esboniodd hefyd bod sesiynau wedi eu trefnu ar 17eg a 27ain Medi, 2012 i roddi gwybodaeth i’r Aelodau ar Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor. Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr Adroddiad Gwybodaeth, Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod  Cyhoedd, Prosiectau Seilwaith Mawrion: Strategaeth Gyfathrebu (Dogfen Ddrafft). Gofynnwyd i’r Aelodau anfon unrhyw farn neu sylwadau ar y strategaeth ddrafft at y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy. 

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, ar ôl cais mewn cyfarfod blaenorol, bod strategaeth ddrafft wedi ei datblygu i ddelio â phroblem baw cŵn yn y Sir. Esboniwyd bod Gweithdy wedi ei drefnu ar gyfer yr holl Gynghorwyr, ac y byddai’n cael ei gynnal ar 7fed Tachwedd, 2012. 

 

Ar ôl trafodaeth bellach, fe:-

 

BENDERFYNWYD:-

 

(a)  yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r Flaenraglen Waith fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad, a

(b)  penodi’r Cynghorydd W. Mullen-James yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol gyda’r Cynghorydd H.O. Williams yn cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

                                                                                                           13.00 p.m.

 

Cofnodion:

­Esboniodd y Cynghorydd W. Mullen-James nad oedd wedi medru mynychu cyfarfod Bwrdd Rhaglen Cydweithredu Conwy a Sir Ddinbych ar 12fed Medi 2012 oherwydd ei bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.