Manylion y mater
CYFLWYNO FFIOEDD AR GYFER DARPARU CYNWYSYDDION GWASTRAFF AC AILGYLCHU: PENDERFYNIAD DIRPRWYEDIG AELOD ARWEINIOL
Cyflwynwyd y
cynnig o arbed £40,000 drwy adfer costau llawn y ddarpariaeth biniau olwynion
yn ystod y broses o osod cyllideb 2021/22, a byddai hynny’n cael ei gyflawni
drwy godi tâl am gynwysyddion gwastraff domestig newydd ac ychwanegol. Cynigir gweithredu’r newid hwn cyn gynted ag
y bydd hynny’n ymarferol er mwyn i’r Gwasanaeth gyflawni’r arbedion y cytunwyd
arnynt.
Mae Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) yn
galluogi awdurdod lleol i ddiffinio’r math o fin y dylid ei ddefnyddio i gyflwyno
gwastraff domestig, ac i ofyn i’r preswylydd dalu am y bin. Nid oes raid i breswylwyr nad oes ganddynt
fin ar eu cyfer eu hunain yn unig (h.y. os ydynt yn rhannu cyfleusterau
cymunol) dalu am y biniau, ond mae’n rhaid i’r biniau gael eu darparu gan gwmni
rheoli’r eiddo, y datblygwr, y landlord neu’r darparwr tai, a gellir adfer y
gost hon gan y preswylwyr drwy dâl gwasanaeth.
Bydd pob cynhwysydd gwastraff newydd a ddarperir
gan y cyngor fel rhan o gyflwyniad y dull casglu gwastraff newydd yn cael eu
darparu’n rhad ac am ddim.
Math o benderfyniad : Non-key
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Notice of proposed decision first published: 20/10/2021
Angen Penderfyniad: 20 Tach 2021 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Pobl yr ymgynghorir â hwy
Cyflwynwyd y cynnig i godi tâl am finiau i Fwrdd y Gyllideb, ac fe’i
cymeradwywyd ganddo, cyn ffurfio rhan o’r pecyn cynigion arbedion a gyflwynwyd
i Weithdy Aelodau fel rhan o'r broses o osod cyllideb y Cyngor ar gyfer
2021/22. Mae pob ymgynghoriad hanfodol wedi’u cynnal yn unol â’r broses
gytunedig ar gyfer Penderfyniad Dirprwyedig gan yr Aelod Arweiniol.
Penderfyniadau