Manylion y mater

Manylion y mater

PENODI AELODAU'R PANEL APELIADAU ADDYSG ANNIBYNNOL.

Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Lleol hysbysebu a phenodi aelodau i’r Panel Apeliadau Addysg Annibynnol. Bydd aelodau'r panel yma yn gwrando ar apeliadau gan rieni mewn perthynas â Derbyniadau a Gwaharddiadau. Pob 3 blynedd mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol hysbysebu am aelodau newydd i’r panel a’u penodi. D Mae’r adroddiad yma yn amlinellu rôl aelodau’r panel ac yn ceisio cael cymeradwyaeth gan yr Aelod Arweiniol ar gyfer cymeradwyo aelodau lleyg newydd i’r panel.

Math o benderfyniad : Non-key

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Notice of proposed decision first published: 28/09/2021

Angen Penderfyniad: 28 Hyd 2021 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau

Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Mae cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Addysg wedi derbyn y wybodaeth  ddiweddaraf ynglŷn â’r ceisiadau gan y cyhoedd i ddod yn Aelodau o’r Panel. Buasai wedi bod yn anaddas i unrhyw aelod o’r Awdurdod Derbyn neu Gefnogaeth Cwsmeriaid ac Addysg fod yn rhan uniongyrchol o’r broses recriwtio, gan fod rhaid i aelodau'r panel, oherwydd eu natur, fod yn annibynnol o'r Awdurdod Derbyn.

 

Gwahoddwyd swyddogion o’r gwasanaeth Addysg i fynychu’r diwrnod hyfforddiant a gynhaliwyd ar 29 a 30 Ebrill 2021.

 

Dosbarthwyd copi o'r adroddiad yma i’r ymgyngoreion gofynnol cyn ei roi gerbron yr Aelod Arweiniol.

 

Ni chynhaliwyd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb. Derbyniwyd ceisiadau gan bob unigolyn a wirfoddolodd i ymuno â’r panel.

 

Penderfyniadau