Manylion y mater

Manylion y mater

AIL ADOLYGIAD O'R DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL: DATGANIAD CYDWEITHIO IS-RANBARTHOL

Bu i Gyngor Sir Ddinbych (CSDd ) gefnogi Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh 2) ar 26 Ionawr 2021. Mae DTRh 2 yn rhagweld y galw am agregau yn y dyfodol er mwyn i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) allu cynllunio datblygiad mwynau mewn modd rheoledig a chymesur. Mae’n darparu argymhellion strategol i bob ACLl o ran eu dosraniadau, ac yn dynodi tebygolrwydd unrhyw ddyraniadau newydd allai fod angen eu gwneud yn y CDLl nesaf, er mwyn diwallu’r galw a ragwelir yn y dyfodol drwy gydol cyfnod perthnasol y cynllun.

 

Er diben cynllunio mwynau’n strategol, mae DTRh 2 yn nodi set o is-ranbarthau yng Nghymru sydd wedi’u seilio ar nifer o ffactorau, megis math o fwynau, patrymau cyflenwi, symud cyn lleied ag sy’n bosib ar yr agregau neu feysydd marchnad neilltuol. Mae Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam yn llunio is-ranbarth ‘Gogledd Ddwyrain Cymru’, ac mae Siroedd Conwy, Gwynedd, Ynys Môr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’u grwpio fel is-ranbarth ‘Gogledd Orllewin Cymru’.

 

Mae DTRh 2, gweler paragraff 1.27, yn cyflwyno’r gofyniad ar bob ACLl ym mhob is-ranbarth i baratoi Datganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol (DGIS), sydd nid yn unig yn sicrhau bod y dosraniadau isranbarthol cyffredinol, fel y’u nodir yn y ddogfen ar gyfer pob sir gyfansoddol, yn cael eu bodloni, ond eu bod hefyd yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth hanfodol i ddangos y bydd y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd (neu sydd ar ddod) yn cyflenwi’r angen a aseswyd yn wrthrychol am fwynau dros gyfnod y cynllun. Bydd unrhyw Ddatganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol yn ystyriaeth gynllunio faterol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

Math o benderfyniad : Non-key

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Notice of proposed decision first published: 22/04/2021

Angen Penderfyniad: 22 Mai 2021 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Mae DTRh 2 a’r cydweithio rhwng awdurdodau wedi cael eu trafod yn helaeth mewn sawl un o gyfarfodydd y Grŵp Cynllunio Strategol ym mis Hydref 2020, Tachwedd 2020 a Mawrth 2021. Gwahoddwyd Aelodau i fynegi eu barn ar sawl fersiwn o’r cytundeb, gan gynnwys yr opsiwn i wrthod unrhyw fath o gydweithio rhwng awdurdodau.

 

Penderfyniadau

Dogfennau