Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 02/2016/0422/PF – TIR AR FFERM GLASDIR, RHUTHUN

Ystyried cais i ddymchwel ffermdy presennol a thai allan cysylltiedig, ac adeiladu ysgol newydd sy’n cynnwys dwy ysgol gynradd gyda gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys creu mynedfeydd newydd i gerbydau ac i gerddwyr, gwelliannau i lwybr troed presennol, parcio ar y safle gyda man gollwng teithwyr, ardaloedd chwarae a gemau y tu allan, cae chwarae, gerddi a llochesi bywyd gwyllt, tirlunio a ffensio o amgylch y terfyn, a gwaith draenio dŵr wyneb sy'n cynnwys draeniau hidlo a ffosydd cerrig ar dir ar Fferm Glasdir, Rhuthun (amgaeir copi).

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei fod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Pen Barras ac yn rhiant i blentyn yn yr ysgol.  Datganodd y Cynghorydd Huw Williams fuddiant personol oherwydd ei fod yn riant i blentyn sy’n mynychu Ysgol Pen Barras.  Datganodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fuddiant personol a rhagfarnol oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd y Prosiect ac yn Aelod Arweiniol dros gyflwyno'r cais. Gadawodd y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei ystyried.

 

Cyflwynwyd cais i ddymchwel ffermdy presennol a thai allan cysylltiedig, ac adeiladu ysgol newydd gyda dwy ysgol gynradd a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys creu mynedfeydd newydd i gerbydau ac i gerddwyr, gwelliannau i’r llwybr troed presennol, parcio ar y safle gyda mannau gollwng teithwyr, ardaloedd chwarae a gemau y tu allan, cae chwarae, gerddi a llochesi bywyd gwyllt, tirlunio a ffensio o amgylch y terfyn, a gwaith draenio dŵr wyneb yn cynnwys draeniau hidlo a ffosydd cerrig ar dir ar Fferm Glasdir, Rhuthun.

 

Dadl Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) yn cefnogi'r datblygiad i’r ysgol yn llwyr, er mwyn darparu amgylchedd dysgu rhagorol er budd plant lleol a oedd angen ei wneud ers peth amser.  Canmolodd y ddwy ysgol a oedd yn perfformio'n dda er gwaethaf amodau anodd yn y cyfleusterau presennol.  O ystyried lleoliad yr ysgol newydd arfaethedig, ceisiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nifer o sicrwydd ynghylch (1) materion priffyrdd a rheoli traffig - yn benodol nifer y traffig a thagfeydd, materion yn ymwneud â’r gylchfan a’r mynediad o Glasdir; (2) draenio dŵr a llifogydd o ystyried bod y datblygiad wedi ei leoli mewn parth llifogydd, a (3) sut mae pryderon cymdogion wedi cael sylw.  Croesawodd y Cynghorydd David Smith (Aelod Lleol) ddatblygiad yr ysgol hefyd, gan dynnu sylw at ddiffygion y cyfleusterau presennol a’r gwaith parhaus dros nifer o flynyddoedd er mwyn troi'r weledigaeth yn realiti.  Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg yr angen ar gyfer yr ysgolion newydd er mwyn darparu cyfleusterau addysgol modern, addas at y diben, ac fe adroddodd ar raglen moderneiddio addysg y Cyngor a gweledigaeth ar gyfer Sir Ddinbych.  Cyfeiriodd at 'Ddiwrnod Agored' ar gyfer trigolion lleol a oedd wedi cael eu cynnal i ddarparu manylion am y datblygiad a lleddfu pryderon, gan gynnwys llifogydd a phriffyrdd.

 

Ymatebodd Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd i'r cwestiynau a godwyd fel a ganlyn -

 

(1)  Priffyrdd – roedd gwaith wedi bod yn mynd ymlaen ers nifer o flynyddoedd ynghylch amrywiol opsiynau am briffordd.

(2)    Cyfeiriwyd at nifer o waith priffyrdd i’w cwblhau cyn defnyddio'r ysgol, gan gynnwys croesfan a reolir newydd ar Ffordd Dinbych a lledu'r llwybr troed ar ochr safle'r briffordd, a chreu gorchymyn am gyfyngiadau parcio gerllaw'r safle.  Mewn ymateb i awgrym Cyngor Tref Rhuthun y dylai cerbydau sy'n gadael y safle droi i'r chwith yn unig, cafodd yr opsiwn hwnnw ei ystyried fel rhan o'r asesiad trafnidiaeth a chanfuwyd iddo gael effaith andwyol ar gylchfan yr A525.  Roedd y maes parcio mawr a’r ardal gollwng a gynigiwyd o fewn y safle yn cydymffurfio â safonau parcio.  O ganlyniad, ystyriodd y swyddogion na fyddai'r cynigion yn cael effaith annerbyniol ar rwydwaith priffyrdd lleol - yn ogystal, byddai'r pwysau ar gefnffordd yr A494 yn cael ei iniaru gan y mesurau priffyrdd arfaethedig.  Ceisiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sicrwydd pellach bod effaith y farchnad da byw wedi cael ei ystyried a bod mesurau diogelwch digonol wedi eu cynnwys er mwyn sicrhau llwybr cerdded diogel i blant.  Eglurwyd mai ar benwythnosau oedd y brif broblem gyda'r farchnad wartheg a bod gwaith yn mynd rhagddo i weithio gyda nhw i wella rheolaeth safle, a chyfyngiadau parcio'n cael eu hystyried fel rhan o'r cynllun.  Ystyriwyd bod y mesurau a gyflwynwyd i ddiogelu cerddwyr ar y llwybr troed yn dderbyniol. Draeniad (gan gynnwys llifogydd) - adroddodd y swyddogion ar y gwaith modelu helaeth ar lifogydd a wnaed ar gyfer y cynllun a'r strategaeth ddraenio ar gyfer y safle, ac ymhelaethwyd ar y mesurau sy'n cael eu cyflwyno i ddiogelu rhag llifogydd, gan gynnwys mesurau cadw dŵr ar y maes chwaraeon, byndio ychwanegol i ddargyfeirio llifddwr a chodi’r ysgol i dir uwch – darparwyd sicrwydd bod llawer o waith amlasiantaeth wedi cael ei wneud i baratoi ar gyfer y cais, a bod y cynllun rheoli llifogydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer yr ardal gyfan ac nid dim ond safle datblygu’r ysgol

(3)  Amwynder Preswyl - cyfeiriwyd at gyfoeth ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymgynghori ar y datblygiad arfaethedig, ac roedd yn dyst i’r broses honno mai dim ond dau lythyr yn gwrthwynebu a ddaeth i law o ystyried maint y cynllun - cafwyd trafodaethau gyda’r trigolion hynny a chafodd camau eu cymryd i liniaru eu pryderon, gan gynnwys cael gwared ar ddwy ffenestr o ddrychiadau allweddol ac ychwanegu byndiau a rhwystrau acwstig gyda thirlunio ychwanegol.  Y farn oedd na fyddai'r cynigion yn cael effaith annerbyniol ar amwynder preswyl a dylid sylweddoli bod y tir wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad yr ysgol.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young sicrwydd ynghylch cynnal a chadw'r dyfrffyrdd, gan amlygu'r angen am ymrwymiad i gyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Stuart Davies at amwysedd blaenorol yn yr ardal hon, yn enwedig yn dilyn llifogydd Ystâd Glasdir yn 2012, gan gynghori ei fod wedi ei sefydlu mai'r tirfeddiannwr oedd yn gyfrifol.  Teimlai ei bod yn hanfodol dangos yn glir o fewn y broses pwy oedd yn gyfrifol, yn enwedig o ystyried digwyddiadau’r gorffennol a bod y datblygiad arfaethedig mewn parth llifogydd.  Tra'n cydnabod pryderon aelodau, cynghorodd swyddogion nad oeddent yn faterion cynllunio i'w hystyried gyda'r cais ac awgrymwyd mai'r pwyllgor craffu perthnasol oedd yn y sefyllfa orau i graffu ar drefniadau cyfrifoldeb a chynnal cyrsiau dŵr yn yr ardal.  Dywedodd y swyddogion hefyd fod y wybodaeth dechnegol, yr ymatebion ymgynghorai statudol a’r ddogfen lliniaru llifogydd, yn dangos y gallai'r datblygiad fynd yn ei flaen.  Rhoddwyd sicrwydd hefyd bod deialog parhaus rhwng y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r datblygwr tai yng Nglasdir ynghylch nodweddion lliniaru llifogydd yn yr ardal.

 

Ymatebodd swyddogion i gwestiynau a godwyd yn ystod trafodaeth bellach gan nodi’r canlynol -

 

·         byddai ffens ddiogelwch o amgylch y safle a reolir gan yr ysgol

·         roedd gwaith i godi’r tir wedi'i ddisgrifio yn yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd a'i gynnwys o fewn yr amodau fel y nodir ar dudalennau 54 a 55 o'r adroddiad

·         roedd yswiriant ymbarél yn cwmpasu portffolio asedau ac eiddo'r Cyngor, ac

·         o ystyried y cyfarwyddebau y tu allan i'r broses gynllunio ar gyfer ymdrin â rhywogaethau gwarchodedig, bu i swyddogion rybuddio rhag awgrym y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i ddileu'r amod yn ymwneud â rhoi'r gorau ar unwaith i waith pe gwelir unrhyw Fadfallod Dŵr Cribog (fel y manylir yn y papurau atodol) - yn lle hynny, rhoddodd swyddogion sicrwydd y byddent yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau perthnasol i sicrhau deialog barhaus a lliniaru unrhyw risg o oedi

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: