Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL: 2015/16

Ystyried adroddiad gan y Pen Reolwr: Cymorth i Fusnesau (copi ynghlwm) i alluogi'r Aelodau i archwilio’r adroddiad drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant), y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn galluogi'r Aelodau i graffu ar yr adroddiad drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol nad oedd darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i drigolion y sir, a newid  moderneiddio’r gwasanaethau hynny, yn destun cyfyngiadau cyllidebol yn unig.  Mae gofynion y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn golygu bod angen nifer o newidiadau i'r ffordd y cafodd gwasanaethau eu cyflwyno yn y gorffennol. Yn y dyfodol byddai mwy o bwyslais ar gefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd ag y bo modd, gydag ymagwedd fwy rhagweithiol, ataliol, ymyrryd at ddarparu gwasanaeth yn hytrach na chreu diwylliant o  ddibyniaeth ar wasanaethau math gofal preswyl. 

 

Yn ei rôl yn Gyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, manylodd ar gynnwys ei hadroddiad, gan bwysleisio, er bod yr adroddiad yn ei henw, roedd y gwaith a grynhowyd oddi mewn yn ffrwyth y gwasanaeth gofal cymdeithasol cyfan.  Mynegodd ddiolch arbennig i Bennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Leighton Rees a ymddeolodd yn ddiweddar, ac i’r Pennaeth Addysg, Karen Evans am eu holl ymdrechion i baratoi'r ffordd ar gyfer uno Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau Plant a sicrhau trosglwyddiad mor esmwyth i un Gwasanaeth Plant ac Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth yr Aelodau:

 

·       bod ei hadroddiad ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gyflwyno mewn fformat diwygiedig er mwyn cydymffurfio â newidiadau deddfwriaethol a darparu fframwaith newydd er mwyn mesur perfformiad gofal cymdeithasol;

·       roedd yn ofynnol i'r Cyfarwyddwr ddynodi cryfderau a gwendidau'r Gwasanaeth yn yr adroddiad, ac amlinellu cynlluniau i gryfhau'r gwendidau a nodwyd;

·       roedd y Gymraeg yn bwysig i'r Gwasanaeth a derbyniwyd fod darparu gwasanaethau trwy gyfrwng dewis iaith y defnyddwyr gwasanaeth yn egwyddor ganolog o wasanaeth gofal cymdeithasol da; ac

·       roedd ei ffocws ar wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chadw pobl yn annibynnol am gyn hired ag y bo modd. Gwella ansawdd bywydau yw’r nod yn y pendraw, osgoi'r angen am wasanaethau statudol am gyhyd ag y bo modd yn amodol ar sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaethau.

 

Llongyfarchodd yr Aelodau waith yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ymdrechu i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i oedolion.  Fodd bynnag, roedd ganddynt bryderon mewn perthynas â gwasanaethau tebyg ar gyfer plant, yn enwedig gan fod Twf wedi ei dynnu'n ôl.  Wrth ymateb i'r pryderon hyn, dywedodd y Cyfarwyddwr mai dim ond yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roedd Twf yn gweithredu yn y gogledd erbyn hyn.  Roedd Dechrau'n Deg yn brosiect blynyddoedd cynnar arall oedd yn cael ei fygwth gan doriadau cyllid.  Serch hynny, roedd Sir Ddinbych yn hyderus y byddai ei ddull o ran dwyn  Gwasanaethau Addysg a Phlant ynghyd yn cynorthwyo gydag ymgorffori sgiliau ieithyddol drwy gydol addysg y blynyddoedd cynnar, addysg prif ffrwd a gwasanaethau ieuenctid.

 

Wrth ymateb i bwyntiau eraill a godwyd gan Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr:

 

·       mewn perthynas â'r adolygiad o wasanaethau gofal i oedolion yn fewnol, byddai'r manylion y gofynnodd y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet amdanynt mewn perthynas â phob sefydliad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio cyn gynted ag y bo modd, unwaith y byddai’r gwaith a’r dadansoddi sydd ei angen yn cael ei gwblhau. Roedd yn debygol na fyddent yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu gyda'u gilydd, ond rhagwelir y byddai pob un yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr;

·       bod angen cydbwysedd yn yr adroddiad rhwng cyfleu negeseuon pwysig a chynnwys y lefel briodol o fanylder, h.y. gwybodaeth am nod adolygiad darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn fewnol yn y dyfodol a’r nifer o bobl sy’n defnyddio  gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor o gymharu â gwasanaethau preifat/annibynnol. Roedd y wybodaeth olaf ar gael am ddim i’r cyhoedd yn nogfennau eraill y cyngor sydd wedi’u cyhoeddi;

·       bu cydweithrediad rhagorol ar bob lefel yn ystod y gwaith i ddod â'r Gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd at ei gilydd fel un gwasanaeth. Roedd staff yn y ddau wasanaeth wedi bod yn hynod gadarnhaol am yr uno ac ar lefel strategol, roedd yr Aelodau Arweiniol a’r Arweinydd yn rhan o gyfarfodydd rheolaidd gyda’r bwriad o sicrhau uno llyfn;

·       roedd hi’n ymwybodol o erthyglau diweddar yn y wasg mewn perthynas â chynnydd yn nifer yr hunanladdiadau ymhlith y boblogaeth o ddynion ifanc yn y Gogledd a'r pryderon a godwyd gan Grwner Ei Mawrhydi mewn perthynas ag achosion unigol. Roedd gan Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws y rhanbarth hefyd bryderon o ran y digwyddiadau hyn ac roeddynt yn sefydlu bwrdd i archwilio mynediad i wasanaethau iechyd meddwl aciwt. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru (LlC) wrthi’n adolygu darpariaeth iechyd meddwl acíwt ar draws Cymru, a bod y Cyfarwyddwr a chydweithwyr wedi cyfarfod â swyddogion LlC yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar i drafod eu pryderon am y ddarpariaeth iechyd meddwl yn y rhanbarth. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithredol gwasanaethau Iechyd Meddwl newydd yn ddiweddar. Mae dadansoddiad cychwynnol o'r achosion o hunanladdiad ymhlith dynion ifanc yn dangos nad oedd gan yr unigolion broblemau iechyd meddwl tymor hir, ond roeddynt yn fwy tebygol o fod wedi wynebu sefyllfa “argyfwng” yn syth cyn lladd eu hunain yn hytrach na dioddef o broblem iechyd  meddwl;

·       roedd oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai i gartref defnyddwyr gwasanaeth yn dueddol o ddigwydd pan fo angen pecynnau gofal cymhleth iawn oherwydd iechyd a/neu anghenion gofal defnyddwyr gwasanaeth. Nid yw'r broblem hon yn unigryw i Sir Ddinbych, mewn gwirionedd, mae gan Sir Ddinbych un o'r cyfraddau oedi wrth drosglwyddo gofal isaf yng Nghymru;

·       mi chafodd unrhyw gyfeiriadau penodol eu cynnwys yn yr adroddiad drafft ar ddarpariaeth gofal ychwanegol posibl yn ardal Dyffryn Dyfrdwy gan fod tai gofal ychwanegol yn yr ardal benodol yma o’r sir yn nodwedd o'r Cynllun Corfforaethol cyfredol. Serch hynny, petai Aelodau'n dymuno, gellir cyfeirio at gyfleusterau gofal ychwanegol arfaethedig yn ardal Corwen.

 

Cyn diwedd y drafodaeth, dywedodd y Swyddogion wrth symud ymlaen, roedd angen brys am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Gofal Iechyd i weithio'n agos gyda'i gilydd i ddod o hyd i ateb ar sut i integreiddio Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn effeithiol.   Nid am ddibenion ariannol yn unig, ond i ateb y galw yn y dyfodol, a oedd oherwydd newidiadau demograffig, yn alw cynyddol ar y ddau wasanaeth.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r Cyfarwyddwr am ei adroddiad manwl a:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y  Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2015/16 i'w gyflwyno i'r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

 

 

Dogfennau ategol: