Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR RANNU PRYDERON
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
(copi’n amgaeedig) ar y Adroddiad Blynyddol ar Rannu Pryderon.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a oedd yn
darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithredu’r polisi yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf cyn ac ar ôl mabwysiadu’r Polisi a adolygwyd yn ddiweddar wedi’i
ddosbarthu o’r blaen.
Roedd yr adroddiad
wedi ei gyflwyno yn unol â Pholisi Rhannu Pryderon y Cyngor, a oedd yn cynnwys
gofyniad bod y Swyddog Monitro yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol o leiaf unwaith y flwyddyn ar weithrediad y Polisi ac unrhyw
newidiadau mewn ymarfer a gyflwynwyd o ganlyniad i bryderon a godwyd o dan y
Polisi.
Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo Polisi Rhannu Pryderon wedi'i ddiwygio a'i
ddiweddaru yn ddiweddar a oedd yn cynnwys gofyniad, o leiaf bob blwyddyn, y
dylai’r Swyddog Monitro, mewn fformat dienw adrodd ar weithrediad y Polisi ac
unrhyw newidiadau i ymarfer a gyflwynwyd o ganlyniad i bryder a godwyd o dan y
Polisi hwn.
Roedd yr adroddiad yn mynd i'r afael â phryderon a godwyd o dan y polisi
ers 1 Ebrill 2015 hyd yma. Roedd Atodiad 1 yn nodi natur y pryderon hynny a
sut yr oeddent wedi derbyn sylw.
Bu dau o bryderon a godwyd o dan y Polisi yn ystod y cyfnod dan sylw. Roedd y cyntaf
yn ymwneud â datgeliad anawdurdodedig o wybodaeth gyfrinachol oherwydd nad oedd
y wybodaeth wedi ei chadw'n ddiogel. Gwnaed newidiadau i'r
arfer o fewn yr Adran dan sylw i sicrhau bod y risg o ddigwyddiad o'r fath yn
cael ei leihau yn y dyfodol. Roedd yr ail bryder yn ymwneud â honiadau a wnaed
gan gyn-weithiwr mewn perthynas ag arferion sy'n ymwneud â rheoli llety gofal
ychwanegol. Roedd ymchwiliad wedi cael ei gynnal ond ni wnaed
penderfyniad ynglŷn â’r canlyniad eto. Nid oedd unrhyw batrwm
na thema wedi deillio o'r pryderon a godwyd.
Roedd
y Polisi diwygiedig, ynghyd â Pholisïau eraill cysylltiedig â gweithiwr a
gytunwyd arnynt, wedi cael eu fformatio ac wedi eu cyfieithu’n ddiweddar. Byddai'r tudalennau mewnrwyd
AD newydd yn cael eu lansio erbyn diwedd mis Gorffennaf, ac fel rhan o'r
lansiad y bwriad oedd i ganolbwyntio ar hyrwyddo polisïau newydd gan gynnwys y
Polisi Rhannu Pryderon newydd. Byddai Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol yn hyrwyddo'r Polisi o fewn eu
gwasanaethau cleient mewn cyfarfodydd rheoli a byddai rheolwyr yn derbyn
gwybodaeth yn uniongyrchol.
Roedd
AD yn edrych ar y posibilrwydd o gael cyflwyniad y Polisi mewn fformat e-ddysgu
i godi ymwybyddiaeth. Byddai ymwybyddiaeth o'r
Polisi ymhlith staff ac eraill yn allweddol i'w lwyddiant, a'r gobaith oedd y
byddai lansiad cydgysylltiedig yn cyflawni hyn. Byddai’r Polisi Rhannu Pryderon yn cynorthwyo’r Blaenoriaethau
Corfforaethol drwy helpu i foderneiddio'r Cyngor drwy sicrhau bod rheolwyr a gweithwyr
yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau yn unol â deddfwriaeth ac arfer da. Eglurwyd y byddai
trefniadau rhannu pryderon cadarn yn helpu i gefnogi llywodraethu da ar draws y
Cyngor.
Yn absenoldeb Polisi Rhannu Pryderon cadarn ac effeithiol a Gweithdrefn yr
oedd gweithwyr a thrydydd partïon sy’n ymgysylltu â'r Cyngor yn gyfarwydd â
hwy, byddai perygl na fyddai pryderon ynghylch camarfer yn dod i sylw'r Cyngor. Roedd yn
hanfodol bod gweithwyr yn deall y byddent yn cael eu diogelu pe baent yn codi
pryder gyda’r gred resymol bod eu hadroddiad wedi ei wneud er budd y cyhoedd.
Eglurodd yr HLHRDS y
byddai'r partneriaid busnes AD yn hyrwyddo'r Polisi o fewn eu gwasanaethau eu
hunain, a byddai cynnwys y Polisi Rhannu Pryderon yn cael ei drosi i fformat
e-ddysgu er mwyn galluogi mynediad ar gyfer ei ddefnyddio fel ymarfer
ymwybyddiaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan Mr P. Whitham, rhoddodd yr HLHRDS gadarnhad y byddai'r Polisi Rhannu
Pryderon yn berthnasol i drydydd partïon, cyrff allanol, ymgynghorwyr a byddai
ar gael i gontractwyr a staff asiantaeth. Eglurodd
y byddai'r Polisi yn cael ei roi ar y Rhyngrwyd a fyddai'n berthnasol i unrhyw
un sy'n gweithio i, neu gyda'r Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad
gan y Cadeirydd, eglurwyd na fyddai'n orfodol i gwblhau pro-forma wrth godi
pryderon. Cytunodd yr HLHRDS y gallai crynodeb o’r
materion a godwyd gael ei gynnwys mewn Adroddiadau Blynyddol Rhannu Pryderon yn
y dyfodol a allai gynnwys manylion neu eglurhad ar gyfer mynd ar drywydd
materion a godwyd neu beidio.
Darparodd yr HLHRDS
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd E A Jones ynghylch yr agwedd risg i'r
Awdurdod mewn perthynas â chamymddwyn. Amlygodd
y Cynghorydd Jones agweddau cadarnhaol y Polisi Rhannu Pryderon o ran gwella
enw da'r Cyngor, a darparu amddiffyniad i unigolion a'u lles.
PENDERFYNWYD:-
(a)
bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr Adroddiad Rhannu
Pryderon a bod
(b)
crynodeb o’r materion a godwyd yn
cael ei gynnwys mewn Adroddiadau Blynyddol Rhannu Pryderon yn y dyfodol, yn
cynnwys eglurhad ar gyfer mynd ar drywydd materion a godwyd neu beidio.
(GW i weithredu)
Dogfennau ategol: