Eitem ar yr agenda
ARCHWILIAD MEWNOL O GYNLLUN AMDDIFFYN GORLLEWIN Y RHYL CAM 3
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) ar yr adroddiad
Archwilio Mewnol diweddar ar y prosiect Amddiffynfeydd Arfordirol a gafodd sgôr
sicrwydd 'Isel'.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, a
oedd yn nodi'r adroddiad Archwiliad Mewnol diweddar ar y prosiect Amddiffyn
Arfordirol a gafodd sgôr sicrwydd 'Isel', eisoes wedi'i ddosbarthu.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad
cynnydd Archwilio Mewnol ar gyfer pob cyfarfod a oedd yn cynnwys manylion yr
adroddiadau Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd. Roedd y rhain fel rheol
yn adroddiadau sicrwydd 'Uchel' neu 'Canolig'. Fodd bynnag, pan fydd
adroddiad sgôr sicrwydd ‘Isel’ neu ‘Na’ yn cael ei gyhoeddi, roedd y Pwyllgor
yn derbyn adroddiad, yn rhan o’i raglen i sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o’r
sefyllfa ac yn cael cyfle i drafod y gwelliannau i’w gweithredu gyda’r rheolwr
perthnasol. Roedd yr adroddiad
Archwilio Mewnol llawn wedi’i gynnwys yn Atodiad 1.
Eglurodd yr Uwch Archwilydd fod archwiliad cymhleth a oedd wedi'i wneud
wedi canolbwyntio'n bennaf ar agwedd caffael y prosiect. Roedd rhestr wirio
archwilio contractau wedi cael ei lunio gyda chyfraniad gan y Gwasanaeth
Caffael Cydweithredol sy'n ymwneud â'r meysydd canlynol:-
·
Pwyllgor Llywodraethu
·
Cyn-dendro
·
Cyllido
·
Tendro
·
Rheoli’r contract
Cadarnhaodd yr Uwch Archwilydd nad y cylch gorchwyl
oedd rhoi sylwadau ar lwyddiant Cam 3 cynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y
Rhyl, ac esboniwyd mai dyma oedd y prosiect cyntaf i gael ei adolygu gan
ddefnyddio'r rhestr wirio. Cyfeiriodd at y materion canlynol a meysydd a
amlygir yn y Cynllun Gweithredu, Atodiad 1, a oedd yn cynnwys:-
-
Yr angen i ystyried hanes y
rhaglen waith, a oedd yn cynnwys Camau 1 a 2, a dau gontract sydd wedi cynyddu
cymhlethdod yr archwiliad.
-
Diffyg argaeledd cadarnhad ysgrifenedig o amserlen
Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith amddiffyn rhag llifogydd, a oedd wedi'i
gwblhau yn ôl-weithredol ar ddiwedd yr adolygiad.
-
Nid oedd modd cael dogfennau
contract gyda’r prif gontractwr tan Awst 2015, gan godi pryderon yn ymwneud â
sylwadau cytundebol.
-
Materion corfforaethol wedi eu
hamlygu mewn perthynas â rôl y cyllid, caffael a materion cyfreithiol.
Darparodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol (HHES) yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r prosiect:-
-
Roedd Sir Ddinbych wedi
cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i amddiffyn nifer sylweddol o gartrefi ar
gyllideb resymol a rhad gan ddefnyddio datrysiad arloesol i fynd i'r afael â'r
problemau a wynebir.
-
Manylwyd ar y deunyddiau a
ddefnyddiwyd a oedd wedi ei nodi gan Sir Ddinbych.
-
Roedd y rhaglen waith wedi ei
wneud mewn tri cham hylaw mawr. Roedd gwaith wedi cychwyn yng Ngorllewin y Rhyl, ac nid Splash Point,
gan fod Camau 1 a 2 wedi cael ei nodi fel meysydd risg uchel.
-
Cafwyd cadarnhad er bod fframwaith Asiantaeth Cefnffyrdd wedi cael ei
ddefnyddio, ni chawsant eu cynnwys yn y broses gaffael
-
Roedd y gwaith a wnaed yn
Nwyrain y Rhyl yn gynllun dros dro i ddarparu diogelwch ar gyfer yr ardal, a
byddai cynllun llawer mwy yn cael ei gynnal.
-
Cafodd manylion yn ymwneud â'r
broses dendro eu darparu, cyfeiriwyd yn benodol at dderbyn a llofnodi
contractau. Hysbyswyd yr aelodau bod caffael nawr yn digwydd yn electronig a
thynnwyd sylw at y ffaith fod yr agwedd amseru o’r broses yn hanfodol mewn
perthynas â chychwyn y gwaith.
Amlinellodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol
a’r Gwasanaethau Democrataidd bwysigrwydd ac amseriad agwedd amseru’r broses
ddogfennaeth, a chadarnhawyd, er bod llythyrau o fwriad yn dal i gael eu
defnyddio, nid oeddynt yn cymryd lle contract ffurfiol. Eglurodd Pennaeth y Gyfraith,
Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd ei bod yn bwysig i sicrhau nad yw
gwaith yn cychwyn ar y safle cyn cwblhau'r broses gaffael electronig.
Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Caffael sicrwydd y
byddai'r CPR diwygiedig yn mynd i'r afael â'r materion o bryderon a godwyd, a
Phennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai
cyfranogiad cynnar y Gwasanaethau Cyfreithiol a Chaffael yn hanfodol yn y
dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd cytunodd yr
Aelodau, yn dilyn y dyddiadau cwblhau a nodwyd ym mis Hydref, 2016, y dylai
adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Ionawr, 2017 mewn
perthynas â Chynllun Amddiffyn Arfordir Rhyl.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi
adroddiad yr Archwiliad Mewnol.
(b)
yn cadarnhau'r gweithrediad effeithiol y Cynllun
Gweithredu, o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt, a
(c)
chytuno bod adroddiad
cynnydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2017.
(SP, IB, LH i Weithredu)
Dogfennau ategol: