Eitem ar yr agenda
RISK MANAGEMENT OF WELL-BEING OF FUTURE GENERATIONS ACT
I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi’n amgaeedig) ar y
newidiadau sydd eu hangen yn y ffordd y rheolir risg yn y Cyngor.
Cofnodion:
Roedd
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad, oedd yn egluro’r
newidiadau a fynnir yn y modd y mae’r Cyngor yn rheoli risg o ran Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi ei gylchredeg
ymlaen llaw.
Darparodd y
Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad grynodeb manwl o’r adroddiad.
Eglurodd er mwyn cydymffurfio â'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol mae
angen i'r Cyngor adolygu'r ffordd y mae'n rheoli risg, ac roedd yr adroddiad yn
archwilio rhai o'r materion mae’r newid hwn yn eu codi ar gyfer y Cyngor, ac yn
ystyried ei effaith bosibl ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Roedd Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynnwys newidiadau pellgyrhaeddol i'r ffordd
y mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal ei fusnes, a byddai angen iddo yn y dyfodol
ddangos sut y mae'n cyfrannu at y saith nod trwy gyhoeddi amcanion Lles
blynyddol. Yn fwy sylfaenol fyddai’r disgwyliad y byddai’r Cyngor yn newid y
ffordd y mae'n gwneud penderfyniadau trwy gymryd i ystyriaeth y pum Egwyddor
Datblygu Cynaliadwy: Hirdymor, Atal, Integreiddio, Cydweithredu, Cynnwys.
Rhoddodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad grynodeb o bob un o’r pum Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a
gynhwyswyd yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at yr her o ran rheoli risg, gyda
risgiau’n cael eu rhannu’n rhai ‘gweithredol’ tymor byr a rhai ‘strategol’
hirdymor. Roedd manylion yn ymwneud â rheoli risgiau penodol, ynghyd â’r camau
lliniarol a’r opsiynau a weithredwyd i liniaru’r risgiau cymhleth, wedi eu
hamlinellu yn yr adroddiad.
Rhoddwyd cadarnhad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio
a Pherfformiad bod y Cyngor yn hyderus bod eu proses risg weithredol gyfredol
yn addas i’r diben. Sut bynnag, y dasg fwy fyddai dechrau datblygu’r offerynnau
a’r technegau a fyddai’n helpu i fodelu'r broses yn y dyfodol yn well.
Roedd y Cyngor yn gweithio gydag Awdurdodau
partner i ddatblygu dull o asesu effaith, ac roeddynt hefyd yn treialu gwaith
gwydnwch yn y gymuned y bwriedir iddo hybu meddwl hirdymor ac ymgysylltiad
adeiladol mewn perthynas â phroblemau a rennir. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y byddai
gwaith pellach yn cael ei ddatblygu wrth ddechrau defnyddio'r pum Egwyddor
Datblygu Cynaliadwy.
Mynegwyd pryder gan y Cynghorydd S.A. Davies
bod y Ddeddf wedi ei gweithredu a’i phenderfynu gan Lywodraeth Cymru.
Cwestiynodd ei ffiniau, ei dulliau a lefel yr ymgysylltiad â’r cyhoedd ynghyd
â’r disgwyliadau o’r Ddeddf. Eglurodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad bod sawl agwedd a gofynion y Ddeddf yn cael sylw gan y Cyngor ar
hyn o bryd, a bod Aelodau Etholedig eisoes yn ymgysylltu â’r gymuned leol a’r
cyhoedd yn gyffredinol. Cyfeiriodd at bwysigrwydd archwilio dulliau o gryfhau’r
gymuned, ynghyd ag archwilio ymagweddau eraill o ran gwneud penderfyniadau,
gyda golwg ar sicrhau lefel o welliant ar gyfer cenedlaethau i’r dyfodol.
Eglurodd y Cynghorydd H.H. Evans ei bod yn
anochel y byddai’r Ddeddf yn cael ei chyflwyno ac y byddai’n bwysig canfod
lefel y pwyslais y dylid ei roi ar ei datblygu. Cyfeiriodd at sawl maes y
byddid yn cael eu dylanwadu gan y Ddeddf, gyda chyfeiriad penodol at Addysg a
Diogelu, ac amlygodd yr angen i wneud y gorau o’r agweddau cadarnhaol sydd wedi
eu hymgorffori yn y Ddeddf. Mynegodd y farn na fyddai ymgysylltu’n tanseilio
rôl Aelodau ac mai Cynllun Corfforaethol y Cyngor fyddai’r dylanwad fyddai’n
gyrru pethau yn eu blaenau ar gyfer yr Awdurdod, gan ystyried egwyddorion
arweiniol y nodau o fewn y Ddeddf.
Cytunodd y Cadeirydd â’r barnau a fynegwyd gan
gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru o ran yr angen i edrych ar y darlun
ehangach a’r angen am newid meddylfryd, wrth beidio â chael ein gyrru gan
fiwrocratiaeth. Mewn ymateb i gwestiwn gany Pwyllgor, eglurwyd, os oedd y
Cyngor yn anwybyddu neu’n methu â mynd i’r afael â gofynion y Ddeddf,
yna gallant fod yn agored i’w herio yn y dyfodol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod y
Ddeddf yn cyfeirio at weithredu neu gymryd camau rhesymol, ac os ystyriwyd bod
camau gweithredu cyfiawn wedi eu cymryd, yna ni fyddai achos i weithredu.
Roedd y Cynghorydd P.C. Duffy wedi amlygu
pwysigrwydd cynllunio ymlaen er budd cenedlaethau’r dyfodol, ynghyd ag asesu
unrhyw risgiau cysylltiedig, a mynegodd y farn y gallai cyflwyno rhagor o
astudiaethau peilot fod yn fanteisiol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd H.H. Evans at y
buddion posibl y gellid eu cyflawni drwy fonitro gweithredu gan gyrff a
sefydliadau eraill ynghyd ag asesu lefel yr ymrwymiad. Awgrymodd y dylid
defnyddio’r Ddeddf fel cyfrwng i wella darpariaeth gwasanaeth gydag adnoddau
cyfyngedig, ac y dylid ymgorffori’r Ddeddf o fewn y broses benderfynu.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyfeiriwyd at
dreialu gwaith o ran gwydnwch yn y gymuned gyda’r bwriad o feddwl am broblemau
a rennir o safbwynt hirdymor ynghyd â mynd ati i ymgysylltu mewn modd adeiladol (People to People yn Llangollen). Eglurwyd yr
ymgymerwyd â’r cynllun yn Llangollen a bu’r ymateb yn gadarnhaol iawn. Mewn
ymateb i gais i swyddogion, cytunwyd y dylid cyfleu canlyniad y prosiect i’r
Cadeirydd ac yna ei anfon ymlaen i Aelodau’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD – derbyn a
nodi’r adroddiad.
(AS i Weithredu)
Dogfennau ategol: