Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SAC - 2015/16
Derbyn adroddiad
a chyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru (copi ynghlwm) ar yr Adroddiad Gwella
Blynyddol 2015/16.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (GB) (CSAC) yr adroddiad
ac eglurodd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol mewn fformat
newydd a fyddai'n cynnwys pedwar adroddiad yn ymdrin â:-
-
Gwydnwch ariannol
-
Trefniadau ar gyfer Trawsnewid
-
Trefniadau llywodraethu
-
Archwiliad sy’n seiliedig ar risg o Drefniadau
Corfforaethol
Fe eglurodd fod yr adroddiad wedi cael ei lunio ar adroddiad perfformiad y
Cyngor yn seiliedig ar waith a wnaed gan Reoleiddwyr eraill megis AGGCC, Estyn
a gwaith Swyddfa Archwilio Cymru a gwaith a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn
ymwneud â chraffu, llywodraethu a gwytnwch ariannol a threfniadau ar gyfer
darparwyr gwasanaeth amgen.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint rhoddodd Gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru
grynodeb fanwl o bob un o'r meysydd canlynol o fewn Adroddiad Gwella Blynyddol
Swyddfa Archwilio Cymru 2015/16:-
·
Cyfranwyr Asesu Perfformiad
·
Canfyddiadau Asesu Perfformiad
·
Defnyddio adnoddau
·
Llywodraethu
·
Casgliadau cyffredinol
Eglurodd Gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru mai’r casgliad cyffredinol
oedd bod gan y Cyngor drefniadau rheoli ariannol ac archwilio cadarn, ac yn
parhau i wneud cynnydd o ran cyflawni gwelliannau yn y rhan fwyaf o'i feysydd
blaenoriaeth, ac roedd hyn wedi cyflwyno neges gadarnhaol iawn.
Ategodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio,
yn gyffredinol roedd yr adroddiad wedi bod yn dda iawn. Serch hynny, fe
dynnodd sylw at dri maes lle mae materion wedi cael eu hamlygu:-
-
Materion AGGCC yn ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol:-
·
Roedd trefniadau ar gyfer diogelu oedolion diamddiffyn
wedi cael eu cwestiynu mewn perthynas â rheoli'r broses a chadernid y
gweithdrefnau a fabwysiadwyd. Er ei bod wedi ei nodi nad yw defnyddwyr
gwasanaethau wedi cael eu rhoi mewn perygl, cyflwynwyd trefniadau i fynd i'r
afael â'r pryderon a amlygwyd a byddai'r rhain yn cael eu profi gan AGGCC. Cafodd yr
aelodau wybod bod y safonau cenedlaethol ar gyfer derbyn atgyfeiriadau wedi ei
fabwysiadu erbyn hyn.
·
Fe ystyriwyd fod lefel y ddarpariaeth Gofal Cartref yn
foddhaol. Fodd bynnag, gellid trafod cyflogi swyddogion
monitro ychwanegol os bydd yr adolygiad, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, yn
dynodi camau o'r fath.
-
Presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd Archwilio:-
·
Amlinellodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r
Gwasanaethau Democrataidd (HLHRDS) y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r pryderon
a amlygwyd, a oedd wedi cael eu derbyn. Eglurodd fod newidiadau
strwythurol wedi cael eu harchwilio er mwyn cynorthwyo â phresenoldeb Aelodau
mewn cyfarfodydd, megis adolygu’r
Cyfansoddiad, ffurfio Gweithgor i edrych ar amser a hyblygrwydd lleoliad,
defnyddio dirprwy Aelodau a chael gwared ar gyfyngiadau eraill.
-
Trefniadau Ariannol:-
·
Eglurodd y HPPB bod nifer o fodelau cyflwyno llwyddiannus
gwahanol wedi cael eu datblygu, ac ymagwedd gorfforaethol wedi ei baratoi er
mwyn asesu a chymeradwyo'r datblygiad gyda'r bwriad o ddeall costau ac
effeithiau priodol.
·
Cyfeiriwyd at incwm y gwasanaeth a'r prosesau codi tâl
blaenorol, a datblygu a chyflwyno Cofrestr Corfforaethol Ffioedd a Thaliadau. Mae'r Pennaeth
Archwilio Mewnol a’r Uwch Archwilydd yn cydnabod bod gwelliannau wedi'u nodi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham,
cadarnhaodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio y byddai'r meysydd o bryder
a amlygwyd yn cael ei gynnwys yng Nghofrestrau Risg y Gwasanaeth perthnasol.
Mynegodd y Cynghorydd J.A. Davies ei siom, er
iddo gael ei nodi bod y broses archwilio’n gweithio'n dda roedd pryderon yn
parhau yn ymwneud â'r asiantaethau gofal, ac roedd hi'n cwestiynu os oedd nifer
digonol o asiantaethau gofal. Eglurodd y Pennaeth Gwella Busnesa
Moderneiddio nad oedd y pryderon a godwyd yn ymwneud â safon y gofal a
ddarperir, ond at y ffordd y mae'r asiantaethau gofal a darparu trefniadau
gofal cartref yn cael eu monitro a'u rheoleiddio. Amlinellodd Gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y broses a fabwysiadwyd
a'r meysydd a archwiliwyd wrth asesu perfformiad archwilio.
Mewn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd mewn
perthynas â rhwydwaith o gynghorau cydweithredol a chomisiynu modelau
cydweithredol a'r angen am strategaeth hirdymor, eglurodd Gynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru bod ymagwedd gwasanaeth wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, eglurodd y
Cadeirydd y byddai Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2015/16
yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn i'w ystyried, cyn ei gyflwyno i'r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i’w drafod.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.
(AS i weithredu)
Dogfennau ategol: