Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 45/2015/0468/PO - HEN SAFLE PEIRIANNEG A DYLUNIO THORPE, FFORDD DERWEN, Y RHYL

Ystyried cais i ddatblygu 0,29ha o dir drwy ddymchwel uned ffatri segur ac adeiladu eglwys a chanolfan gymunedol (cais amlinellol gan gynnwys mynediad) ar Hen Safle Peirianneg a Dylunio Thorpe, Ffordd Derwen, Y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0,20ha o dir drwy ddymchwel uned ffatri segur ac adeiladu eglwys a chanolfan gymunedol (cais amlinellol gan gynnwys mynediad) ar Hen Safle Peirianneg a Dylunio Thorpe, Ffordd Derwen, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. M. Gilbert (O blaid) – Gwnaeth ddadlau’r ddwy sail a argymhellir dros wrthod (1) Risg Llifogydd - Amlygodd ddau gais cynllunio diweddar a gymeradwywyd ar neu ger y safle heb unrhyw wrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a (2) Colli Tir Cyflogaeth - byddai'r cynnig yn arwain at 11 o swyddi llawn amser ac 13 o swyddi rhan amser o'r cychwyn cyntaf.  Tynnodd sylw hefyd at fanteision cymunedol ar gyfer yr ardal.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Amlinellodd y Rheolwr Datblygu (PM) y cais ac atgoffodd yr aelodau fod cais tebyg wedi ei wrthod yn 2013 oherwydd pryderon ynghylch addasrwydd y safle.  Ymatebodd i sylwadau a wnaed gan y siaradwr cyhoeddus ac ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i'r argymhelliad i wrthod gan ddadlau y byddai'r cynigion yn arwain at golli tir cyflogaeth yn ei ystyr draddodiadol heb i broses farchnata barhaus o 1 flwyddyn gael ei chynnal i ddangos nad oedd modd cadw’r safle bellach at ddibenion cyflogaeth a oedd yn groes i bolisïau cynllunio.  O ran perygl llifogydd adroddodd ar fesurau lliniaru a gymerwyd o ran y datblygiad tai diweddar ger y safle.  Byddai'r defnydd arfaethedig o’r safle yn golygu newid categori datblygiad o ‘llai agored i niwed’ i ‘agored iawn i niwed’ ac ar ôl ystyried yr ymateb llawn a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru roedd gan swyddogion amheuon yn hynny o beth.

 

Ar ôl ystyried cryfder teimladau'r cyhoedd a’r cyfoeth o gefnogaeth leol i'r prosiect ac o ystyried y manteision cymunedol, siaradodd y Cynghorwyr Pat Jones a Pete Prendergast (Aelodau Lleol) o blaid y cais.

 

Trafododd y pwyllgor rinweddau'r cais ac ystyriaethau cynllunio perthnasol.   Nodwyd, pan oedd y cais blaenorol wedi ei wrthod roedd y pwyllgor wedi bod yn awyddus i safleoedd eraill gael eu harchwilio ac adroddodd y Cynghorydd Brian Blakeley, er gwaethaf ymdrechion gorau nid oedd unrhyw safleoedd amgen addas wedi eu darganfod.  Cydnabu'r Aelodau fanteision cymunedol prosiect o'r fath, ond trafodwyd a oedd safle'r cais yn addas ar gyfer y defnydd arfaethedig ac roedd barn gymysg yn hynny o beth.  Roedd y ffaith fod y safle yn wag yn destun pryder i'r aelodau a gwnaeth y rheiny o blaid y cais ddadlau y byddai cymeradwyo’r cais yn rhoi defnydd da i’r safle ac yn creu rhywfaint o gyflogaeth a darparu cyfleuster cymunedol mawr ei angen.  Gwnaethant hefyd ddadlau nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu'r cais a gellid cyflwyno mesurau lliniaru llifogydd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon yn hynny o beth.  Fodd bynnag, nodwyd na fyddai'r datblygiad yn creu swyddi traddodiadol a chytunodd yr aelodau eraill gyda swyddogion nad oedd y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi PSE 2 a PSE 3 y Cynllun Datblygu Lleol o ran diogelu safleoedd cyflogaeth.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw safleoedd eraill a ddyrannwyd ar gyfer defnydd cyflogaeth yn yr ardal.  O ystyried yr angen am dir cyflogaeth allweddol yn y Rhyl teimlai rhai aelodau y dylai'r cais dim ond gael ei ystyried os oedd y safle wedi ei farchnata yn unol â PSE 3 ac os oedd tystiolaeth yn dangos ei fod yn anaddas ar gyfer defnydd cyflogaeth.  Roedd y newid categoreiddio ar gyfer defnydd o ddiwydiant ysgafn i adeilad cyhoeddus yn destun pellach o bryder i rai a oedd yn teimlo nad oedd y cynnig yn bodloni profion cyfiawnhad TAN 15 o ran perygl llifogydd.  Mynegwyd amheuon hefyd ynglŷn â maint y safle mewn perthynas â'r datblygiad; problemau parcio posibl a'i leoliad ar safle diwydiannol.

 

 Cynnig - gwnaeth y Cynghorydd Pete Prendergast gynnig, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn groes i argymhelliad y swyddogion, ar y sail y byddai'r cais yn darparu cyfleusterau cymunedol mawr eu hangen gyda rhywfaint o gyflogaeth wedi’i gynhyrchu o ganlyniad i’r gweithgareddau cymunedol hynny ac o gofio y gellid lliniaru pryderon llifogydd.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 7

GWRTHOD - 14

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 a.m.) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: