Eitem ar yr agenda
Cofnodion
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 26 Ionawr 2016 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2016.
Materion yn
codi
Tudalen 8, Eitem
5 – Cadarnhaodd y Cynghorydd Alice Jones ei bod wedi derbyn ateb gan Simon Dean
o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r dystiolaeth o ofal gwael a roddwyd i rai
cleifion yr oedd wedi ei ddarparu.
Gofynnodd y
Cynghorydd Alice Jones hefyd am ddiweddariad ar ddyfodol Tawelfan yn ogystal â’r ddarpariaeth iechyd meddwl yn Ysbyty
Frenhinol Alexandra, y Rhyl.
Cadarnhaodd y
Prif Weithredwr bod diweddariad ynglŷn ag Ysbyty Frenhinol Alexandra wedi
ei roi i Aelodau yn dilyn cyfarfod diweddar gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr oedd wedi dod i’r canlyniad nad oeddynt yn barod i gychwyn y prosiect
gan nad oedd cynllun busnes prosiect yn ei le eto. Cadarnhaodd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr ymrwymiad i Ysbyty Frenhinol Alexandra ac roedd cyllideb wedi ei
dyrannu.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod
Swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bwriadu mynychu Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau ddydd Iau 25 Chwefror, 2016 er mwyn trafod datblygiad
yr Ysbyty Cymunedol yn y Rhyl a byddai Aelodau’n cael cyfle i ofyn cwestiynau
yn y cyfarfod hwnnw.
Tudalen 9 –
Nododd y Cynghorydd Eryl Williams bod y pwynt bwled cyntaf yn nodi bod amryw o
awgrymiadau wedi eu codi yn y sesiynau cyllid blaenorol. Mynegodd y Cynghorydd Williams farn y dylai’r
awgrymiadau fod wedi eu nodi er mwyn i Aelodau fod yn ymwybodol o beth oeddynt.
Tudalen 11 –
Ymholodd y Cynghorydd Eryl Williams ynghylch y swm o doriadau a ddisgwylir i’r
grantiau. Gofynnodd y Cynghorydd
Williams pe gallai’r aelodau dderbyn rhestr o’r holl grantiau a oedd yn mynd i
gael eu derbyn gan gynnwys y rheiny oedd yn mynd i gael eu torri.
Cadarnhaodd y
Prif Swyddog Cyllid y byddai crynodeb fanwl o’r adroddiad cyllido yn cael ei
gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.
Byddai’r grant gorfodi unigol yn cael ei leihau, a byddai lleihad hefyd
yn y grant gwella addysg. Doedd rhai
grantiau heb eu cyhoeddi eto.
Eglurodd y Prif
Weithredwr nad oedd y Cyngor eto wedi derbyn gwybodaeth am bob grant. Roedd posibilrwydd na fyddai rhai yn cael eu
cyhoeddi hyd nes y flwyddyn ariannol newydd.
Unwaith bydd yr holl wybodaeth wedi ei gasglu, caiff y wybodaeth ei
basio ymlaen at yr holl Aelodau.
Ategodd y
Cadeirydd bod y Cynghorydd Eryl Williams wedi cynnig bod yr holl Gynghorwyr yn
derbyn rhestr o grantiau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn ogystal ag unrhyw
doriadau sydd wedi eu cynnig. Cafodd hyn
ei eilio gan y Cynghorydd Martyn Holland.
Cododd pawb eu dwylo i gytuno â hynny’n unfrydol.
Nododd y Prif
Swyddog Cyllid bod cyllid grant wedi ei drafod yn y Gweithdy Cyllid ym mis
Tachwedd 2015 oedd yn cynnwys rhestr gyfredol o’r holl grantiau. Byddai’r rhestr grantiau yn cael ei
ddiweddaru a’i anfon at yr holl Gynghorwyr.
Tudalen 12, Eitem
8 – Nododd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nad oedd y drafodaeth ystyrlon a
gafwyd wedi cael ei hadlewyrchu’n gywir yn y cofnodion. Cynigiodd addasiad er mwyn adlewyrchu beth
oedd wedi cael ei ddweud yn Siambr y Cyngor ar y pwnc hwnnw.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
nad oedd y cyflwyniad a roddodd wedi ei gwblhau gan fod yr Aelodau wedi gofyn
i’r eitem gael ei gohirio er mwyn cael trafodaeth ddyfnach.
Eglurodd y
Cynghorydd Stuart Davies bod y Cyngor, yn y flwyddyn 2010, wedi trafod y dull o
gofnodi a fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer yr holl gyfarfodydd. Gan fod sylwadau yn cael eu derbyn gan
aelodau ynghylch y dull cofnodi, awgrymodd bod hyn yn cael ei ddadansoddi ar
gyfer diweddariad y byddai Aelodau’n ei ffafrio.
Cadarnhaodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod dull o gofnodi’r
Cyngor wedi ei gytuno arno yn 2010, ac o’r herwydd, byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mai 2016. Pe byddai
unrhyw newidiadau yn cael eu hargymell, byddent yn cael eu hymchwilio.
Ar y pwynt hwn
manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i holl glercod y cofnodion am eu
gwaith caled.
Tudalen 13 –
Gofynnodd y Cynghorydd Cefyn Williams am ddiweddariad yn dilyn y Rhybudd o
Gynnig a gyflwynwyd ynghylch yr Hawl i Brynu.
Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai’n
holi am ddiweddariad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau dros dro ynghylch yr achos
busnes.
PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr
2016 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
Dogfennau ategol: