Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2015/16
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar ddarparu
Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 2 2015/16.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 2 2015/16.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi
diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 ar ddiwedd chwarter 2 o 2015/16.
Roedd yr adroddiad perfformiad yn darparu crynodeb
o ran sefyllfa pob canlyniad yn y Cynllun ynghyd â dadansoddiad o’r eithriadau
allweddol. Roedd yr holl ganlyniadau wedi’u gwerthuso fel derbyniol neu well ac roedd
eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda
materion allweddol wedi’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod. O ran y Gofrestr Prosiectau Corfforaethol nid oedd unrhyw brosiect â statws
'Coch' a dim ond tri phrosiect oedd â statws derbyniol 'Oren' gyda'r holl
brosiectau ar y trywydd cywir. Cynghorwyd y Cabinet bod adroddiad Chwarter 2 wedi’i ystyried gan y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad lle y codwyd materion yn ymwneud â system filio
newydd Nwy Prydain ac is-ddeddfau baw cŵn.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol -
·
Presenoldeb
disgyblion mewn ysgolion – roedd y ffigyrau blynyddol diweddaraf (hyd at fis
Ebrill 2014) yn dangos bod perfformiad 0.1% yn is na'r lefel dderbyniol o
93.7%. Er bod y dangosydd hwn yn flaenoriaeth ar gyfer gwella nid oedd yn faes
pryder penodol.
·
Canran
yr achosion agored o blant ar y gofrestr amddiffyn plant sydd â gweithiwr
cymdeithasol dynodedig – er mwyn darparu sicrwydd ar ddiddymu’r dangosydd hwn
cynghorwyd yr Aelodau bod y fframwaith canlyniadau yn newid yn unol â gofynion
Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac roedd y dangosydd yn cael ei
ddisodli gan gyfres o ddangosyddion a fyddai'n cofnodi data mewn dull sy'n fwy
ystyrlon - byddai'r gwasanaeth yn debygol o barhau i fonitro'r dangosydd
penodol hwn nes y sefydlir y dangosyddion newydd.
·
Arolwg
Preswylwyr – cynghorwyd yr Aelodau bod y data o arolwg 2013 ac y byddai’r
canlyniadau sy’n deillio o arolwg 2015 gan adlewyrchu’r safbwyntiau diweddaraf
ar gael ar gyfer yr adroddiad chwarterol nesaf. Cytunwyd y byddai cymhariaeth o ganlyniadau'r ddau
arolwg yn yr adroddiad hwnnw.
·
Allyriadau
Carbon – ni ellir cynhyrchu gwybodaeth ar hyn o bryd oherwydd problem fawr gyda
system filio newydd Nwy Prydain yr oeddent yn ceisio ei datrys. Nid problem Sir Ddinbych yn unig oedd hon
gan ei bod yn effeithio ar nifer o awdurdodau lleol ac awgrymwyd y dylid
ystyried ceisio cefnogaeth gan CLlLC ac LGA i godi'r mater gyda'r Gweinidogion
Ynni. Roedd y Cyngor am newid ei ddarparwr ynni o fis Ebrill 2016 beth bynnag.
Cyfeiriwyd hefyd at waith y Cyngor i leihau ei allyriadau carbon a chytunodd
Pennaeth Cyllid, Asedau a Thai i ddosbarthu nodyn briffio yn egluro’r sefyllfa
bresennol o ran y system filio a’r camau a gymerir er mwyn lleihau ôl troed
carbon y Cyngor.
·
Datblygu’r
Economi Leol – amlygodd yr Arweinydd newidiadau i gefnogaeth a chyllid
Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau newydd a’r pryderon ynglŷn â’r model
newydd arfaethedig yr oedd yn credu y gallai amharu ar dwf busnes yn Sir
Ddinbych. Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus ymhellach ynglŷn â sut yr oedd cefnogaeth
Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn newid a darparodd sicrwydd bod y Cyngor
yn gweithio’n agos gyda darparwyr cyngor a chymorth busnes eraill er budd
busnesau lleol.
Canmolodd y Cabinet natur gadarnhaol yr adroddiad
perfformiad a thrafod y dull gorau o gyfleu’r neges i’r cyhoedd a chynhyrchu
cyhoeddusrwydd cadarnhaol. Roedd yr Aelodau o blaid dull rhannu gwybodaeth mewn rhannau er mwyn
sicrhau cyflenwad rheolaidd o wybodaeth ynglŷn â’r perfformiad rhagorol a
gwaith da a buddsoddiad ehangach mewn meysydd eraill ac ar brosiectau mawr. Awgrymwyd hefyd y gellir ail-hyrwyddo
llwyddiant prosiectau a gwblhawyd yn flaenorol, megis Datblygu Harbwr y Rhyl. Cytunodd y Cynghorydd Hugh Irving i godi’r
mater gyda’r Tîm Cyfathrebu.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni
Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 2 2015/16.
Dogfennau ategol:
- CORPORATE PLAN PERFORMANCE REPORT Q2, Eitem 5. PDF 84 KB
- CORPORATE PLAN - APPENDIX v1, Eitem 5. PDF 3 MB