Eitem ar yr agenda
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16
Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid sy'n rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 (copi’n amgaeedig).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid adroddiad (a
gylchredwyd o flaen llaw) a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r
gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17.
Rhoddodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill, gyda chymorth y Prif Gyfrifydd,
grynodeb manwl o’r adroddiad. Roedd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:-
·
Cyflwynwyd y cynnydd diweddaraf o ran y broses o osod y
gyllideb i Weithdy Cyllideb yr Aelodau ar 14 Rhagfyr 2105. Amlinellwyd y
gwahanol gynigion a ystyriwyd i sicrhau arbedion.
·
Cyhoeddwyd cyllideb drafft a Setliad
Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn ddiweddarach eleni o
ganlyniad i amseru Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd hyn
wedi ei gynnwys yn y broses cynllunio’r gyllideb ac wedi arwain at gyflwyno
pecyn o gynigion i’w cymeradwyo yn Rhagfyr. Roedd y pecyn yn dod i gyfanswm o
£1.2m ac yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd ac addasiadau technegol, ond nid
oedd yn cynnwys cynigion i dorri ar wasanaethau na chynyddu taliadau.
·
Roedd goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer
2015/16 wedi ei grynhoi yn yr adroddiad, gyda’r Setliad yn llawer gwell na’r
disgwyl.
·
Roedd adroddiad i’r Cyngor yn Rhagfyr wedi manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf ac roedd tybiaethau’n dangos bod bwlch o £2m, yn y
gyllideb o hyd. Darparwyd manylion yng ngweithdy’r gyllideb ac roedd crynodeb
wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.
·
Hefyd roedd manylion am y newidiadau i werth y Setliad, a
oedd yn caniatáu cynnig i ostwng lefel y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor
o 2.75% i gyfartaledd o 1.5%, wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.
·
Roedd y tybiaethau hyn wedi arwain at sefyllfa ariannol
gadarnhaol o £480k, gyda’r Setliad ar gyfer 2016/17 yn well na’r disgwyl am un
flwyddyn. Darparwyd tabl yn crynhoi sefyllfa cynllunio’r gyllideb ar gyfer y
dyfodol. Amlinellwyd manylion y risgiau, ynghyd â’r camau i’w gweithredu er
mwyn eu lliniaru.
·
Ni fyddai Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei
gyhoeddi tan fis Mawrth. Fodd bynnag, roedd sicrwydd wedi ei roi na ddylid
gweld unrhyw symudiad negyddol rhwng gwerthoedd y Setliad Drafft Dros Dro a’r
un Terfynol Byddai cyllideb derfynol
Llywodraeth Cymru’n cael ei chyflwyno i’r Senedd ar 8 Mawrth.
·
Roedd y broses Rhyddid a Hyblygrwydd wedi dod i ben drwy
osod cyllideb 2016/17. Byddai’r gwaith o fonitro perfformiad y gyllideb yn
parhau i gael ei adrodd i’r Cabinet, gyda’r Grŵp Tasg a Gorffen Torri’r
Brethyn yn monitro effaith penderfyniadau’r gyllideb.
·
Cadarnhawyd y byddai proses gyllidebol newydd yn cael ei
datblygu ar gyfer 2017/18.
·
Cyflwynwyd cam terfynol y broses gyllidebol ddwy flynedd
Rhyddid a Hyblygrwydd. Mwyafrif helaeth yr arbedion, dros 80%, oedd
effeithlonrwydd neu arbedion moderneiddio gan arwain at effaith lai sylweddol
ar wasanaethau i’r cyhoedd.
·
Eglurwyd mai nod y broses gyllidebol oedd sicrhau bod y
Cyngor yn darparu cyllideb gytbwys. Roedd yn debygol y byddai gostyngiad i
gyllid ALl yng Nghymru’n parhau yn y tymor canolig, gyda phenderfyniadau
cyllidebol yn dod yn anos ac yn galw am amser paratoi hirach.
Amlinellodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr amserlenni ar gyfer y broses
adrodd ar y gyllideb a gofynnodd am arweiniad ynglŷn â phryd i gyflwyno
adroddiadau ar gyfer y dyfodol. Teimlai’r Cadeirydd y byddai o fudd pe bai’r
broses bresennol o gynnwys eitem fusnes safonol ar gyfer proses y gyllideb ar
bob rhaglen y Pwyllgor, yn parhau, ynghyd â darparu Gweithdai Cyllideb i
Aelodau. Teimlai hefyd fod angen ymgynghori mwy â’r cyhoedd a chydnabu fod gwahanol
safbwyntiau ynglŷn â mabwysiadu proses ymgynghori newydd. Awgrymwyd a
chytunwyd i gysylltu â’r Grwpiau Gwleidyddol dan sylw er mwyn annog Aelodau i
gyflwyno eu barn a’u hawgrymiadau ynglŷn â’r broses gyllidebol. Mynegodd y
Cynghorydd S.A. Davies ei gefnogaeth i barhau â’r broses bresennol, a thynnodd
sylw at yr angen a phwysigrwydd archwilio’r mecanweithiau a fabwysiadwyd. Roedd
Mr P. Whitham yn cefnogi’r farn a fynegwyd ac awgrymodd y gallai peidio â
pharhau i sicrhau cynnydd beri risg gorfforaethol i’r Awdurdod.
Amlinellodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (HLHRDS) y materion a’r cyfyngiadau technegol posibl a
allai godi gyda’r sefyllfa ariannol o safbwynt datblygu Bil Llywodraeth Leol
(Cymru), ac uno Awdurdodau Lleol yn sgil hynny.
Awgrymodd Mr P. Whitham gan fod yr adroddiad yn cyflwyno cam terfynol y
broses gyllidebol ddwy flynedd Rhyddid a Hyblygrwydd, y dylid cynnal adolygiad
i ganfod nodau, cyflawniadau, llwyddiannau a’r gwersi a ddysgwyd o ran helpu i
sicrhau cynnydd yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Grŵp Tasg a
Gorffen Torri’r Brethyn a oedd yn monitro penderfyniadau’n gysylltiedig â’r
gyllideb a wnaed fel rhan o’r broses. Cyflawnwyd hyn drwy gasglu tystiolaeth ac
archwilio’r mecanweithiau a ddefnyddiwyd ac a fabwysiadwyd.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn a nodi cynnwys
yr adroddiad ar y diweddariad diweddaraf.
(b)
gofyn i’r Grwpiau
Gwleidyddol annog Aelodau i gyflwyno eu barn, a
(c)
chytuno bod adroddiad
diweddaru pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor fis Mawrth,
2015.
(RW, SG, GW i weithredu)
Dogfennau ategol: