Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 07/2015/0414/PFT - TYFOS, LLANDRILLO, CORWEN

Ystyried cais i godi tyrbin gwynt gydag uchder tŵr tyrbin o 30.5 metr (48.01 metr i flaen y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiol yn Nhyfos, Llandrillo, Corwen (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol gan ei fod wedi mynychu cyfarfodydd ‘Grŵp Pylon the Pressure’.  Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol gan mai’r siaradwr cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon oedd Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbedr DC ac roedd ef hefyd yn aelod o’r cyngor hwnnw.]

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno i godi un tyrbin gwynt gydag uchder tŵr tyrbin o 30.5 metr (48.01 metr i flaen y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiol yn Nhyfos, Llandrillo, Corwen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. A. Jedwell (Yn erbyn) - esboniodd y byddai lleoliad y tyrbin yn ymwthiol ac yn niweidiol i'r dirwedd a byddai'n cael effaith andwyol ar yr economi ymwelwyr a thrigolion cyfagos.

 

Ms S. Jones (o blaid) - manylodd gysylltiadau'r teulu â'r fferm dros bedair cenhedlaeth a'r angen i arallgyfeirio’r fferm er mwyn sicrhau hyfywedd y busnes ar gyfer y genhedlaeth nesaf.  Byddai'r cynllun yn caniatáu i fuddsoddiad gael ei wneud ar y fferm a oedd yn darparu cyflogaeth a chefnogaeth i fusnesau lleol eraill.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio (IW) yr adroddiad a'r angen i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhinweddau arallgyfeirio fferm yn erbyn yr effaith leol a lledaeniad cynyddol o dyrbinau.  Yn yr achos hwn, roedd swyddogion yn argymell bod y cais yn cael ei wrthod.

 

 Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams (Aelod Lleol) at y penderfyniad anodd i'w wneud a'r angen i aelodau ffurfio eu barn eu hunain.  Roedd yn teimlo y byddai'r effaith weledol yn fychan iawn o ystyried y lleoliad a oedd y tu allan i'r AHNE ac ardaloedd Parc Cenedlaethol.  Yn ystod y drafodaeth pwysleisiwyd pwysigrwydd y diwydiant ffermio ynghyd â rôl ffermio i gadw a gwella harddwch naturiol y tirlun.  Tynnwyd sylw at y trafferthion sy'n wynebu'r gymuned ffermio, gan gynnwys colli cymorthdaliadau fferm a'r angen ar gyfer prosiectau arallgyfeirio er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.  Nododd yr aelodau fod y safle y tu allan i ffiniau tirweddau statudol ac sy’n bwysig yn genedlaethol ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad gan Gydbwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Gyfoeth Naturiol Cymru.  Wrth ystyried effaith gronnus bosibl nododd yr aelodau y byddai cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyrbinau yn y dyfodol yn cael ei dynnu'n ôl a fyddai'n debygol o arwain at lai o geisiadau.  O ganlyniad, mynegwyd llawer o gefnogaeth i'r prosiect arallgyfeirio ar y fferm oedd yn destun y cais.

 

Roedd ymateb Swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau fel a ganlyn:-

 

·         ystyriodd y swyddogion y byddai'r tyrbin yn ychwanegu at y lledaeniad cynyddol o ddatblygiadau gwynt yn yr ardal yn arwain at effaith gronnol annerbyniol ar y dirwedd – roedd effaith gronnus yn ystyriaeth cynllunio perthnasol

·          Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi sylwadau yn bennaf ar ardaloedd statudol ac yn tueddu i ohirio i'r awdurdod lleol ar effaith ar y dirwedd leol fel yn yr achos hwn

·         byddai'r tyrbin yn cael ei leoli y tu allan i Ardal Chwilio Strategol dynodedig ar gyfer datblygu ffermydd gwynt, ac

·         tynnu sylw at yr angen i ystyried ystyriaethau cynllunio perthnasol ac ystyriaethau nad ydynt yn bersonol wrth benderfynu ar y cais.

 

Cynnig - Trwy roi sylw dyledus i'r effaith ar y tirlun/gweledol, materion twristiaeth ac effaith cronnus posibl, roedd y Cynghorydd Cefyn Williams yn credu bod yr achos dros arallgyfeirio ar ffermydd yn gorbwyso pryderon cynllunio eraill a chynigiodd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y cais yn cael ei ganiatáu.   Dywedodd y swyddogion pe bai aelodau'n penderfynu caniatáu'r cais, y dylai amodau cynllunio sy’n cael eu cymhwyso ar gyfer y caniatâd gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w cymeradwyo.

 

PLEIDLAIS:

 CANIATÁU - 14

GWRTHOD - 6

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD, yn groes i argymhelliad y swyddogion, ar fanteision arallgyfeirio ffermydd, a bod amodau cynllunio i gael eu cymhwyso i'r caniatâd yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w cymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: