Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL EICH LLAIS
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi
trosolwg o'r adborth a gafwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir Ddinbych 'Eich
Llais' yn ystod y cyfnod 01.04.14 – 31.03.15.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Prif Reolwr Cymorth Busnes, a oedd yn rhoi trosolwg
o’r adborth a gafwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir Ddinbych ‘Eich Llais’
yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 214 i 31 Mawrth, 2015, wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol.
Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a oedd yn cynnwys trosolwg
o faint a math yr adborth a dderbyniwyd yn ystod 2014/15 er mwyn galluogi'r
Pwyllgor i gytuno bod gan y cyngor system gadarn yn ei lle ar gyfer ymdrin ag
adborth cwsmeriaid. Roedd hefyd yn rhoi gwybodaeth am Adroddiad
Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r llythyr ategol.
Eglurwyd
bod y cyfrifoldeb am gwynion corfforaethol wedi ei drosglwyddo oddi wrth y
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg at y Prif Reolwr - Cymorth Busnes, a'r
tîm a oedd yn rheoli cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Eglurodd
y Prif Reolwr Cymorth Busnes bod yr adroddiad wedi cynnal ei ffurf, fel y
cytunwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor, a gwahoddodd sylwadau’r Pwyllgorau o ran
a oedd y wybodaeth a ddarparwyd yn briodol ac yn ddigonol i alluogi'r Pwyllgor
i sicrhau bod y broses yn gadarn ac yn addas i'w diben.
Roedd crynodeb o'r adroddiad a'r Penawdau ar gyfer 2014/15, Atodiad 1, yn
cynnwys: -
·
Cofnodwyd cyfanswm o 411 o gwynion - gostyngiad o 19% o
gymharu â chyfanswm y flwyddyn flaenorol o 510 cwyn. Roedd newidiadau yn y modd
y cofnodwyd cwynion yn rhannol gyfrifol am hyn.
·
Y perfformiad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn oedd bod
91% o gwynion cam 1 wedi derbyn ymateb o fewn terfynau amser Eich Llais. Nid oedd hyn yn
cyrraedd y targed corfforaethol o 95%.
·
Y perfformiad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn oedd bod
84% o gwynion cam 2 wedi derbyn ymateb o fewn terfynau amser Eich Llais. Nid oedd hyn yn
cyrraedd y targed corfforaethol o 95%.
·
Cynyddodd y nifer o
gwynion a ddeliwyd yn llwyddiannus â nhw ar gam 1 i 93%.
·
Cofnodwyd cyfanswm
o 708 o gwynion - gostyngiad o 5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol lle cafwyd
749 cwyn.
·
Cofnodwyd cyfanswm
o 76 o awgrymiadau - cynnydd o 13% o'i gymharu â chyfanswm y flwyddyn flaenorol
o 67 o awgrymiadau.
Cadarnhawyd bod 29 o gwynion wedi eu gwneud i'r Ombwdsmon yn ystod 2014/15
a oedd yn uwch na chyfartaledd Awdurdodau Lleol Cymru, fel y nodwyd yn Atodiad
2. Roedd un adroddiad Adran 21 wedi'i gyhoeddi ynghylch ymchwiliad Amddiffyn
Oedolion Diamddiffyn. Roedd Atodiad 3 yn rhoi crynodeb o'r gŵyn.
Roedd dwy
gŵyn bod Aelodau wedi torri eu cod ymddygiad wedi cael ei wneud yn ystod
2014/15. Roedd y ddwy gŵyn wedi eu cau yn dilyn ystyriaeth gychwynnol, fel
y nodwyd yn Atodiad 4.
Amlygodd Mr P.
Whitham bwysigrwydd ymgorffori manylion tueddiadau yn yr adroddiad, a darparu
cymariaethau yn ymwneud a gwybodaeth bresennol a gwybodaeth flaenorol.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd J.A. Davies, cadarnhawyd bod nifer y canmoliaethau a
dderbyniwyd bob blwyddyn yn uwch na nifer y cwynion, a chydnabuwyd y gellid
hefyd dysgu gwersi o'r ganmoliaeth a dderbyniwyd.
Mynegodd y
Cadeirydd bryder ynghylch elfen bosibl o ddyblygu gwaith gan fod y mater hwn
wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, ac awgrymodd y
dylid ystyried pa un yw'r dull adrodd mwyaf priodol. Darparodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol fanylion Cylch Gorchwyl y Pwyllgor, ac eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democratiaeth y byddai'r Pwyllgor yn
gofyn am sicrwydd bod y system yn cael ei monitro’n gadarn ac yn briodol.
Cytunodd y
Pwyllgor y byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor
Archwilio Perfformiad, a chytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democratiaeth y dylid diwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn unol â hynny. Cyfeiriwyd at yr eitem, Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol – Diweddariad i’r Cylch Gorchwyl, a oedd wedi’i chynnwys ar
raglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor i'w ystyried yng nghyfarfod mis Tachwedd.
Awgrymodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democratiaeth y byddai'n briodol, pe
bai’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn canfod tuedd a oedd yn fater
corfforaethol yn hytrach na mater gwasanaeth, i’r mater gael ei gyfeirio, gan
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio, i'r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol i’w ystyried. Cytunodd yr Aelodau y
dylid gofyn i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau
Archwilio ddarparu nodyn briffio blynyddol ar dueddiadau yn ymwneud â chwynion
a dderbyniwyd.
Cyfeiriodd
Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, AV at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
a oedd yn cynnwys darparu sicrwydd a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Roedd y rhain yn cynnwys llawer o feysydd ac yn
ymgorffori'r broses gwyno.
Yn dilyn
trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad.
(b)
yn cytuno y byddai
adroddiadau yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad,
ac y dylid diwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn unol â hynny.
(c)
yn cytuno y dylai
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio gyfeirio
unrhyw duedd a ganfuwyd, a oedd yn fater corfforaethol yn hytrach na mater
gwasanaeth i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i’w ystyried, ac
(d)
yn gofyn i'r GCIGA
ddarparu nodyn briffio blynyddol ar dueddiadau yn ymwneud â chwynion a
dderbyniwyd.
(TW, COG, GW i Weithredu)
Dogfennau ategol: