Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 01/2015/0347/PR - TIR WRTH YMYL FRON DEG, FFORDD RHUTHUN, DINBYCH

Ystyried cais ar gyfer manylion edrychiad, gosodiad a maint yr 14 o anheddau a thirlunio a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio amlinellol 01/2014/0072 (Cais Materion a Gadwyd yn ôl) ar dir ger Fron Deg, Ffordd Rhuthun, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Bartley gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn Aelod Lleol].

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion ymddangosiad, gosodiad a maint 14 o anheddau a chyflwynwyd thirluniad safle yn unol ag amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio amlinellol 01/2014/0072 (Cais Materion a Gadwyd yn Ôl) ar dir wrth ymyl Fron Deg, Ffordd Rhuthun, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. S. Evans (Yn erbyn) - mynegodd bryderon am ddwysedd y datblygiad a llygredd golau.

 

Trafodaeth Cyffredinol – Roedd Y Cynghorydd Richard Davies (Aelod Lleol) yn rhannu'r pryderon a fynegwyd gan Mr. Evans ynghylch gor-ddwysau’r safle gan ei fod yn credu na fyddai'n gweddu i'r ardal.  Cyfeiriodd at hanes cynllunio yn ymwneud â 6 annedd ac roedd y cais presennol yn dangos cynnydd sylweddol i 14 o anheddau.  Mynegwyd pryderon pellach ynglŷn â ffens derfyn a materion perchenogaeth a threfniadau mynediad i Glwb Criced Dinbych.  Gan ystyried amgylchiadau lleol, roedd y Cynghorydd Davies o’r farn y byddai llai o dai yn fwy buddiol ar y safle.  Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ray Bartley (Aelod Lleol) hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd a gofynnodd lle byddai'r swm cymudol yn cael ei wario.

 

Crynhodd y Swyddog Cynllunio (DR) y rhesymau y tu ôl i'r argymhelliad i ganiatáu'r cais.  Roedd y Polisi RD1 Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn ceisio sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o dir, drwy gyflawni dwysedd isafswm o 35 annedd i bob hectar, oni bai bod amgylchiadau lleol yn pennu dwysedd is.  Byddai'r cais yn darparu 28 annedd i bob hectar ac roedd swyddogion yn ystyried hyn yn briodol o ystyried yr ardal leol. Fe gyfeiriwyd hefyd at gyd-destun safle Llywodraeth Cymru o ran cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai – fe eglurwyd, er bod Sir Ddinbych wedi clustnodi digon o dir ar gyfer tai, roedd cyflymder y datblygu yn araf ac felly roedd Sir Ddinbych yn disgyn yn is na'r targed 5 mlynedd. Yn yr achos hwn nid yw'r safle yn safle a glustnodwyd yn y CDLl, ond roedd wedi cael ei ystyried tra’n cyfrifo lefel y tir oedd ei angen ar gyfer tai.  Ymatebodd swyddogion hefyd i bryderon yr aelodau lleol, a chodwyd cwestiynau yn ystod trafodaeth gyffredinol gan aelodau eraill fel a ganlyn -

 

·         nid yw anghydfodau ynghylch ffiniau yn faterion cynllunio ond yn hytrach yn faterion sifil

·         nid oedd y cais yn cynnwys mynediad i'r Clwb Criced ac felly nid oedd wedi bod yn fater i’r swyddogion ei asesu

·         gellid rheoli goleuadau yn hawdd drwy amod i sicrhau na fydd unrhyw effaith andwyol, er y cydnabuwyd nad oedd unrhyw ystyriaethau arbennig yn y lleoliad hwn a fyddai'n gwarantu hynny

·         byddai unrhyw ofod agored a grëwyd ar y safle yn fach iawn, felly roedd swyddogion yn argymell gwario swm cymudol ar wella darpariaeth bresennol yn ward isaf Dinbych – roedd y cae chwarae agosaf tua hanner milltir i ffwrdd

·         roedd darpariaeth mannau agored ar gyfer datblygiadau tai yn cael eu hasesu ar sail achos wrth achos, ac nid oedd gosod amodau  yn yr achos hwn yn ystod y cyfnod cynllunio amlinellol yn ddewis priodol

·         roedd dwysedd y datblygiad wedi cael ei asesu yn erbyn polisi cynllunio cyfredol, ac roedd nifer yr anheddau yn llai na’r trothwy presennol, roedd swyddogion yn credu na fyddai’r dwysedd arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal, ac felly ni ystyriwyd hwy yn rhesymau dros wrthod.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 21

GWRTHOD - 2

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: