Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD PROSIECT RHEOLEIDDIO MEYSYDD CARAFANAU YN WELL

Ystyried adroddiad gan yr Hyfforddai Graddedig: Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) sy'n gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnydd hyd yma a chymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer y camau nesaf a gynllunnir.

10:45am – 11:30am

 

 

 

Cofnodion:

Dosbarthwyd adroddiad gan y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad dilynol i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Ebrill 2015.  Roedd yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma a’r camau nesaf a oedd yn cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gwella a Moderneiddio Busnes, yn ogystal â diweddariad ar elfen Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y prosiect.  Roedd yn darparu gwybodaeth ar gynnydd y prosiect oherwydd bod y cyfrifoldeb am gyrchu data wedi’i aseinio i’r Gwasanaeth Gwella a Moderneiddio Busnes.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio at ganlyniadau’r prosiect peilot, a chadarnhawyd bod y cyfrifoldeb am agweddau corfforaethol y prosiect wedi’u trosglwyddo i’r Gwasanaeth Gwella a Moderneiddio Busnes.  Y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd oedd yn gyfrifol am gynhyrchu gweithdrefn reoliadol a fyddai’n nodi’r opsiynau rheoliadol ar gyfer rheoli’r defnydd preswyl anawdurdodedig o garafanau gwyliau o safbwyntiau cynllunio a thrwyddedu.  Er y byddai rhai o gerrig milltir y prosiect yn cael eu cyflawni gan wasanaethau gwahanol, byddai’n cael ei gynnal fel un prosiect unigol.

 

Rhoddwyd crynodeb o’r cynnydd hyd yma i’r Pwyllgor o ran nodi maint y broblem, fel y cafodd ei amlinellu yn yr adroddiad.  Darparwyd amlinelliad o’r camau nesaf i dargedu a rheoleiddio defnyddwyr gwasanaeth, gan ddefnyddio’r Gofrestr Etholiadol a gweithio gyda pherchenogion safleoedd carafanau.  Roedd rhestr gynhwysfawr o’r holl safleoedd carafanau gwyliau sydd yn y Sir, a charafanau gwyliau unigol, wedi’u cynnwys yn Adran 2 Atodiad 1.  Roedd pum carreg filltir allweddol arall wedi’u nodi ar gyfer y prosiect, yn cynnwys:-

 

·                     Cynnal ymarfer mapio o leoliadau a lwfansau safleoedd carafanau gwyliau gan y Gwasanaeth Cynllunio a Thrwyddedu, fel y’i nodir yn Atodiad 3.

·                     Datblygu system prosesu data er mwyn gallu adrodd ar y defnydd a wneir gan ‘breswylwyr’ carafanau gwyliau o’r gwasanaeth, o’r data a gasglwyd hyd yma.  Roedd hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad 4, a oedd wedi’i eithrio rhag datgeliad cyhoeddus yn unol â pharagraff 13 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

·                     Cynnal dadansoddiad ac ymarfer mapio o’r canlyniadau defnydd gwasanaeth.

·                     Cynhyrchu strategaeth gorfforaethol ar garafanau.

·                     Datblygu gweithdrefn reoliadol a chynllun gweithredu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, amlinelliad o’r amcanion i leihau nifer y bobl sy’n byw mewn carafanau gwyliau yn gorfforaethol, drwy atal mynediad at y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu gan y Cyngor yn y ffynhonnell.  Amlygodd yr angen i reoleiddio’r ddarpariaeth, ac y byddai’n bosibl gwneud hynny drwy weithio gyda chymdeithasau carafanau a pherchenogion parciau carafanau, ac roedd gwaith manwl eisoes wedi’i wneud ar hyn.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau ynglŷn â chynnwys preswylwyr ar safleoedd carafanau ar Gofrestrfeydd Etholiadol mewn mwy nac un ardal, a’r goblygiadau ariannol posibl o fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd.  Rhoddodd y Pennaeth Gwella a Moderneiddio Gwasanaethau amlinelliad o’r dulliau a fyddai’n cael eu defnyddio drwy’r wybodaeth a gasglwyd i olrhain defnyddwyr gwasanaeth sy’n byw mewn carafanau.  Mewn ymateb i awgrym gan y Cadeirydd y dylai gwybodaeth o’r fath fod ar gael ar bob un o breswylwyr yn y Sir, esboniodd y CD:ECA bod hyn yn cael ei gyflawni drwy’r system CRM a oedd yn paru pobl yn erbyn cyfeiriadau a’r defnydd a wneir o wasanaethau.

 

Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod y mater sy’n cael ei ystyried yn fater corfforaethol, a phwysleisiodd y manteision o fynd i’r afael â’r materion drwy brosiect corfforaethol a thrwy gytuno ar strategaeth orfodi briodol.  Cyfeiriwyd at y ddeddfwriaeth bresennol a nododd yr angen i nodi cwantwm y broblem, a fyddai’n helpu i ganfod atebion a chyflwyno dull gweithredu cydgysylltiedig.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau, rhoddodd y swyddogion fanylion o’r broses ymchwilio a’r ymarfer mapio a fabwysiadwyd ar gyfer safleoedd carafanau mwy a llai.  Rhoddwyd manylion y costau cyfredol a’r goblygiadau ariannol yn y dyfodol i’r Pwyllgor, a phwysleisiodd y Pennaeth Gwella a Moderneiddio Gwasanaethau bwysigrwydd a manteision creu system gywir i liniaru’r costau yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd yr HBIM eu bod yn rhagweld y byddai cerrig milltir y prosiect yn cael eu cyflawni ac y byddai pob un o’r cynhyrchion sylfaenol yn cael eu cyflawni erbyn diwedd 2015.  Roedd yn rhagweld y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor erbyn diwedd yr hydref, a fyddai’n nodi’r strategaeth a’r weithdrefn reoliadol a fyddai’n cael eu defnyddio yn y dyfodol.  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, mynegodd y Pwyllgor eu cefnogaeth lawn i’r gwaith a oedd yn cael ei wneud, a’r camau nesaf arfaethedig a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn:-

 

(a)  derbyn yr adroddiad

(b)  nodi cynnydd y prosiect hyd yma

(c)   cymeradwyo’r camau nesaf arfaethedig sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chytuno i dderbyn adroddiad pellach ar gynnydd yn ystod Hydref 2015.

 

Dogfennau ategol: