Eitem ar yr agenda
PROSES CYLLIDEB 2015/16
Ystyried
adroddiad gan y Pen Swyddog Cyllid sy'n rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r
gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 (copi’n amgaeedig).
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid, a oedd
yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16
a 2016/17, wedi ei ddosbarthu eisoes.
Roedd y Cyflwynodd y Cynghorydd J Thompson-Hill yr adroddiad a darparu
manylion y ddau weithdy cyllideb aelodau cyntaf a oedd wedi canolbwyntio ar y
cynigion a ohiriwyd o weithdai cyllideb blaenorol, a chafodd y cynigion a
argymhellwyd yn y gweithdai eu cymeradwyo gan y Cyngor ar 7 Gorffennaf. Roedd y
cynigion yn dod i gyfanswm o £650 mil ac yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd a
moderneiddio. Roedd cyfres arall o fesurau, gwerth £640 mil,
wedi’i gyflwyno i’r Cyngor yn amlinellu'r arbedion a gynhyrchir yn sgil
penderfyniadau rheoli o fewn gwasanaethau. Cymeradwywyd cynnig
arall a gyflwynwyd gan yr Aelodau, a gallai arbed hyd at £900 y flwyddyn.
an Ni chodwyd unrhyw bryderon ar ôl ystyried y
cynigion yn y Cydbwyllgor Ymgynghori Lleol.
Mae'r gweithdy cyllideb a gynhaliwyd ym mis Mehefin wedi canolbwyntio ar
gynllunio ariannol a rhagolygon economaidd, ac roedd wedi nodi ystyriaethau
cenedlaethol a fyddai'n effeithio ar gynllunio cyllideb y Cyngor. Rhagwelwyd y
byddai’r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2016/17 yn tua £8.8m, a hyd yma, roedd
cynigion gwerth cyfanswm o £4m wedi'u cymeradwyo. Roedd y lefel sylweddol
o ansicrwydd yn debygol o fodoli o ran y Setliad Llywodraeth Leol tebygol dros
y misoedd nesaf. Yn absenoldeb gwybodaeth fwy dibynadwy am y
Setliad, byddai angen i gynlluniau’r gyllideb barhau i ddatblygu cynigion i
gwmpasu amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd.
Roedd effaith cyhoeddiadau Cyllideb yr Haf ar weinyddiaethau datganoledig
yn aneglur, a chafodd adolygiad o wariant ei drefnu ar gyfer yr hydref a
fyddai'n llywio lefel y Grant Bloc i Gymru. Deallwyd y byddai
adolygiad ar lefel Llywodraeth Cymru pan fyddai manylion Setliad y Llywodraeth
Leol yn dod i'r amlwg. Roedd arwyddion yn awgrymu y bydd y Grant Bloc i
Gymru yn wastad yn nhermau arian parod ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ond byddai
penderfyniadau polisi yn llywio'r dyraniad rhwng y ddwy gyllideb fwyaf
arwyddocaol yng Nghymru, sef cyllideb llywodraeth leol a chyllideb iechyd. Oherwydd y ddau
adolygiad o wariant, byddai'r Setliad Drafft ar gyfer llywodraeth leol yn cael
ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Roedd cyfres o gyfarfodydd wedi eu cynnal gyda gwasanaethau i adolygu
cyllidebau ac i ystyried cynigion cyllideb newydd. Yn ystod
gweithdy mis Mehefin ystyriwyd amlinelliad o rai o'r cynigion sy'n dod i'r
amlwg, a byddai’r rhain yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod yr haf. Roedd ffurflen
wedi cael ei rhoi i Aelodau er mwyn eu helpu i gyflwyno unrhyw gynigion i'w
hystyried, a hyd yma, cafodd chwech o gynigion eu cyflwyno a’u hasesu.
Byddai cynigion cyllideb a nodwyd yn cael eu mireinio a’u cyflwyno i'r
gweithdy cyllideb ym mis Hydref 2015, gyda'r bwriad o gyflwyno rhai ohonynt i'r
Cyngor eu cymeradwyo ym mis Rhagfyr. Byddai'r gweithdy ym
mis Rhagfyr yn canolbwyntio ar gynigion terfynol i gydbwyso'r gyllideb, a
byddai'r cofnodion ffurfiol yn cael eu cymryd ym mhob gweithdy cyllideb yn y
dyfodol. Byddai'r holl gynigion sy’n dod i'r amlwg yn cael
eu hasesu gan yr adran Gyllid i benderfynu ar effaith y gyllideb debygol yn
2016/17. Cafodd y siart proses cyllideb diweddaraf ei gynnwys fel Atodiad 1, a
chafodd manylion am y broses ymgynghori eu cynnwys yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr ansicrwydd o ran cyllideb y DU i Gymru, ac
awgrymodd y gallai fod angen mwy o Weithdai i ystyried unrhyw oblygiadau, a
rheoli unrhyw risgiau canlyniadol, yn dilyn cyhoeddi'r setliad. Amlinellodd y
Cynghorydd Thompson-Hill y broses, gan gynnwys amserlenni, a dywedodd yn sicr y
gallai Gweithdai Cyllideb ychwanegol gael eu galw yn ôl yr angen. Nododd bwysigrwydd ystyried barn yr Aelodau, y
mewnbwn gan wasanaethau ac adborth yn dilyn ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn ystod y
drafodaeth a ddilynodd, cytunodd y Pwyllgor y dylid galw Gweithdy Cyllideb yn
ystod, neu ar ôl, yr ail wythnos ym mis Medi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham ynghylch darparu sicrwydd y byddai
cynigion cyllideb 2015/16 yn cael eu cyflwyno, esboniodd y Cynghorydd
Thompson-Hill bod adroddiadau rheolaidd ar gynnydd darpariaeth cynlluniau’r
flwyddyn gyfredol wedi cael eu cyflwyno i'r Cabinet bob mis. Cadarnhaodd fod
73% o'r arbedion a nodwyd eisoes wedi eu cyflawni heb unrhyw broblemau mawr, ac
na fyddai unrhyw effaith andwyol ar gyllideb 2016/17.
Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch ffigurau presenoldeb isel mewn
Gweithdai ac awgrymodd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i amseriad cyfarfodydd,
a'r posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd gyda'r nos. Cyfeiriodd yr HLHRDS at
ganlyniad yr arolwg a wnaed, a ofynnodd am farn yr Aelodau ar gynnal
cyfarfodydd gyda'r nos. Cytunodd i godi'r mater gydag Arweinyddion Grwpiau
a chyfleu’r pryderon a fynegwyd gan yr Aelodau ynghylch ffigyrau presenoldeb
isel.
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol: -
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf.
(b)
yn cytuno bod Gweithdy
Cyllideb yn cael ei drefnu ym mis Medi, 2015, ac
(c)
yn gofyn i'r HLHRDS
gyfleu’r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch ffigurau presenoldeb isel
yn y Gweithdai Cyllideb i Arweinwyr y Grwpiau.
(GW, RW i Weithredu)
Dogfennau ategol: