Eitem ar yr agenda
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n rhoi manylion am yr adolygiad ffurfiol ar Ebrill 2015 i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.
10.10 a.m. 10.45 a.m.
Cofnodion:
Cafodd copi gan y
Rheolwr Cynllunio Strategol, ar y diwygiad ffurfiol yn Ebrill 2015 i’r Gofrestr
Risg Corfforaethol (CRC) ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.
Cytunwyd ar y fersiwn a ddiweddarwyd yn ffurfiol o’r CRC mewn sesiwn
Friffio’r Cabinet. Roedd yn galluogi’r Cyngor i reoli tebygrwydd ac effaith y
risgiau roedd yn eu hwynebu drwy werthuso effaith unrhyw gamau lliniaru sy’n
bodoli’n barod, a chofnodi terfynau amser a chyfrifoldebau dros gamau pellach a
ddylai olygu rheolaeth fwy llym. Pwrpas y Gofrestr Risg Corfforaethol oedd
adnabod y digwyddiadau posibl yn y dyfodol a allai gael effaith andwyol ar
allu’r Cyngor i gyflawni ei amcanion, yn cynnwys ei Flaenoriaethau
Corfforaethol. Roedd y rheolaethau a’r camau a nodwyd yn allweddol ar gyfer
cyflawni’r Blaenoriaethau Corfforaethol.
Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol yr adroddiad a dywedodd fod yna rai mân newidiadau
i eiriad rhai o’r risgiau a restrwyd yn Atodiad 1, yn dilyn cyfarfod Briffio’r
Cabinet yn gynharach yn yr wythnos. Gan ateb cwestiynau’r Aelodau, adroddodd y
swyddogion fel a ganlyn:-
·o safbwynt risg DCC007 byddai’r 9% o’r
gweithlu oedd yn dal heb wneud modiwlau e-ddysgu diogelu data yn gwneud hynny eleni.
Yn gyffredinol aelodau o staff oedd y rhain nad oedd â mynediad hawdd at
gyfrifiaduron, felly byddai sesiynau dosbarth ayb. yn cael eu cynnig iddynt;
·
roedd geiriad DCC013 wedi’i newid bellach a’i ehangu o sefydliadau hyd
braich i gynnwys y gwasanaethau hynny yr oedd y Cyngor yn eu comisiynu gan
ddarparwyr eraill neu’n eu contractio allan i eraill i’w cyflwyno ar eu rhan
e.e. Civica. Byddai hyn yn fwy pwysig yn y dyfodol gan fod mwy o wasanaethau’n
debygol o gael eu contractio allan.
·
roedd tebygolrwydd risg DCC017 wedi’i ostwng bellach yn dilyn y
gostyngiad mewn swyddi yn yr Adran TGCh, ac ail-gynllunio gwaith yr Adran i
edrych yn fwy tuag allan. Byddai cyflwyno system e-bost Microsoft Outlook yn
raddol yn lle’r system Lotus Notes hefyd yn cyfrannu tuag at y gostyngiad yn y
sgôr risg;
·
dylai risg DCC019 gael ei gostwng erbyn diwygiad nesaf y Gofrestr Risg
oherwydd erbyn hynny dylai fod mwy o wybodaeth ar gael ar argaeledd arian
cyfatebol Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru ;
· mewn
ymateb i bryderon yr Aelodau am ostwng y sgôr risgiau anodd cael gwared arnyn
nhw o ‘tebygol’ i ‘posibl’, eglurodd y swyddogion fod y penderfyniad hwn wedi’i
wneud yn seiliedig ar yr wybodaeth fod strwythur rheoli newydd yn ei le bellach
o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ardal y sir, a bod y
ffaith fod Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau
Oedolion a Phlant) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar fwrdd BIPBC.
Felly roedd y risg na allai’r Cyngor asesu a chynllunio ar gyfer effaith bosibl
penderfyniadau’r Bwrdd Iechyd ar y Sir wedi gostwng;
·
gallai fod o fudd i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri’r Gôt yn ôl y
Brethyn’ fel rhan o’i waith, ystyried yr effaith ar wasanaethau yn sgil colli
sgiliau oherwydd toriadau’r gyllideb.
Yn ddiweddar
gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio edrych yn fanwl ar raglenni blaen gynllunio’r Cyngor er mwyn gallu
egluro wrth eu Pwyllgorau y materion pwysig a fyddai’n dod i’r fei yn y misoedd
nesaf. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, gofynnodd am i gofnodion y Grŵp
hwn fod ar gael yn hawdd mewn lleoliad hygyrch i’r Aelodau Etholedig i gyd.
PENDERFYNWYD
– fod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad:-
(a) yn amodol ar y sylwadau uchod, yn nodi’r pethau
a ddilëwyd, a ychwanegwyd ac a ddiwygiwyd yn y Gofrestr Risg Corfforaethol; ac
(b) yn gofyn i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen
‘Torri’r Gôt yn ôl y Brethyn’ asesu effaith yr ad-drefnu gwasanaethau sy’n
gysylltiedig ag effaith y gyllideb ar broffiliau’r gweithwyr gwasanaeth, yn
cynnwys eu sail sgiliau.
Dogfennau ategol:
- Corp Risk Report, Eitem 6. PDF 106 KB
- Corp Risk App 1, Eitem 6. PDF 70 KB
- Corp Risk App 2, Eitem 6. PDF 3 MB