Eitem ar yr agenda
YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AM HERIAU A AMLYGWYD YN ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2013-14
Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr: Cefnogi Busnes sy'n ceisio barn yr Aelodau
ar y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd yn Adroddiad
Perfformiad Blynyddol 2013-14 (copi yn amgaeëdig).
11.35 a.m. – 12.05 p.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Prif Reolwr: Cefnogaeth Fusnes, a oedd yn darparu
diweddariad ar yr heriau a nodwyd yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2013/14, wedi’i gylchredeg cyn
y cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad
i’r Aelodau gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn nodi’r cynnydd a
wnaed hyd yn hyn i fynd i’r afael â meysydd a amlygwyd yn Adroddiad Blynyddol
2013/14, oedd yn canolbwyntio ar wella perfformiad, neu ymdrin â phwysau newydd
a nodwyd yn ystod y flwyddyn gyfredol. Er bod perfformiad yn
gwella yn y mwyafrif o’r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad y llynedd, roedd lle
i wella.
Roedd y rhesymau dros berfformiad sy’n is na'r targed mewn meysydd megis
nifer yr ymweliadau statudol i blant sy’n derbyn gofal a chanran y plant sy’n
derbyn gofal oedd wedi newid ysgol un neu fwy o weithiau wedi’u dogfennu’n dda.
Nid oedd yr ystadegau sylfaenol yn darparu’r darlun
cyflawn, a oedd yn llawer mwy cadarnhaol gan ei fod yn well am ddiwallu
anghenion y plant na’r angen i’r Awdurdod ddiwallu targedau. Roedd gofal
cymdeithasol yn faes cymhleth iawn, gan fod yn rhaid parchu anghenion a hawliau
dynol unigolion. Er enghraifft, ni fyddai’n bosibl cyflawni cyfradd
asesu 100% ar gyfer yr holl ofalwyr gan nad oedd pawb yn ystyried eu hunain fel
‘gofalwr’ er eu bod yn cyflawni rôl ‘gofalwr’ e.e. priod neu bartner, rhiant
neu blentyn. Mewn
achosion o’r fath roedd yn rhaid parchu dewis neu ffafriaeth unigol. Roedd Adran y
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg ac ysgolion i
gefnogi plant a nodwyd fel rhai sydd â rôl ‘gofalwr’ yn y cartref. Roedd hefyd yn
bwysig deall bod y Cyngor yn cefnogi gofalwyr nid yn unig fel unigolion ond ymagwedd
gymunedol gyfan o rôl y gofalwr.
Pwysleisiwyd er bod LlC yn hynod awyddus i hyrwyddo’r defnydd o Daliadau
Uniongyrchol a Chronfeydd Gwasanaeth Unigol roeddent yn cymryd llawer o amser,
yn gymhleth a biwrocrataidd i’w gweinyddu. Roedd rhai awdurdodau
yn Lloegr wedi dewis peidio â darparu’r dewisiadau hyn, nid oedd unrhyw awgrym
y byddai dewis peidio yn opsiwn yng Nghymru. Roedd y swyddogion yn
gweithio gyda theuluoedd ac unigolion i’w hyrwyddo, fodd bynnag roedd yn bwysig
deall nad oedd taliadau uniongyrchol neu gronfeydd gwasanaeth unigol yn addas
ar gyfer pob unigolyn.
Roedd Dyfarniad y Goruchaf Lys ym mis Mawrth 2014 o ran colli rhyddid yn
achosi pwysau enfawr ar Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a’i gyllideb, gyda
staff yn derbyn hyfforddiant i ymdrin â chynnydd enfawr yn nifer y ceisiadau o
golli rhyddid. Er mwyn lliniaru unrhyw risg, a godwyd i risg lefel
uchel ar gyfer yr Awdurdod ac o ganlyniad roedd wedi’i gynnwys ar y Gofrestr
Risg Gorfforaethol, cynhaliwyd ymarfer i asesu nifer posibl y ceisiadau y
gellir eu derbyn. Roedd canfyddiadau’r ymarfer hwn wedi arwain at 10
ymarferydd ychwanegol yn derbyn hyfforddiant i gynnal yr asesiadau. Roedd hyn yn
amlwg yn rhoi pwysau ar gyllidebau ac adnoddau cyfyngol. Disgwylir canllawiau
LlC ynglŷn ag asesiadau colli rhyddid, yn y cyfamser roedd y Cyngor yn
gweithio yn unol â’r gyfraith wrth gynnal asesiadau.
Roedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a
Rheoleiddwyr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn
gweithio gyda LlC i lenwi’r bwlch hwn cyn gynted ag y bo modd. Fodd bynnag,
roedd y mater wedi’i gymhlethu ymhellach yn ddiweddar oherwydd y cyflwynwyd her
gyfreithiol i benderfyniad y Goruchaf Lys yn Lloegr. Felly annhebygol
fyddai unrhyw gyhoeddiad ynglŷn â chanllawiau cyn y gwneir penderfyniad ynglŷn â'r her
gyfreithiol. Mewn ymateb i bryderon yr aelodau ynglŷn â’r
risgiau i’r Awdurdod o ganlyniad i’r dyfarniad, cynghorodd Bennaeth yr Adain
Archwilio Mewnol, fel archwilwyr allanol, roedd ei dîm yn ystyried y risg fel
rhan o risg gyffredinol mewn perthynas â Diogelu Corfforaethol. Eglurwyd i’r
Aelodau hefyd y byddai adroddiad cynnydd pellach ynglŷn â’r holl feysydd a
amlygwyd yn yr adroddiad cyfredol yn cael ei gynnwys fel rhan o Adroddiad
Perfformiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2014/15,
fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2015.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:
PENDERFYNWYD – yn
amodol ar y sylwadau uchod, y dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd a
wnaed hyd yn hyn i ddelio â’r heriau a amlygwyd yn Adroddiad Perfformiad
Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2013/14.
Dogfennau ategol:
- Social Services Report 260215, Eitem 9. PDF 85 KB
- Social Services Report 260215 - App, Eitem 9. PDF 90 KB