Eitem ar yr agenda
HAMDDEN CLWYD CYF – ADOLYGU’R GWERSI A DDYSGWYD
Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(copi’n amgaeedig), sy'n adolygu'r amgylchiadau yn ymwneud â Gwasanaethau
Hamdden Clwyd.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd
a Chymunedol wedi ei ddosbarthu eisoes.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Uchelgais Economaidd a Chymunedol yr adroddiad a oedd yn adolygu'r amgylchiadau
a arweiniodd at Hamdden Clwyd Cyf yn rhoi'r gorau i fasnachu yn 2014, a nodi'r
gwersi a ddysgwyd er mwyn lleihau'r risg o amgylchiadau tebyg rhag digwydd yn y
dyfodol.
Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi adolygu'r
trefniadau ar gyfer llywodraethu a monitro perfformiad sefydliadau hyd braich. Roedd yr
adroddiad yn nodi'r canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion o'r adolygiad a
gomisiynwyd gan y Cabinet, a osodwyd o fewn yr argymhellion a wnaed gan y
Pennaeth Archwilio Mewnol er mwyn gwella llywodraethu cyffredinol o sefydliadau
hyd braich. Roedd llinell amser o hanes Hamdden Clwyd Cyf wedi
cael ei amlinellu yn yr adroddiad adolygu.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Uchelgais Economaidd a Chymunedol ar y dechrau nid oedd y gwaith papur
cyfreithiol yn sefydlu Hamdden Clwyd Cyf wedi trin sut i ddelio â sefyllfaoedd
problemus, a bu absenoldeb clir o ddisgwyliadau perfformiad ac eglurder.
Roedd y penderfyniad gwreiddiol i sefydlu Hamdden Clwyd Cyf wedi cael ei
seilio ar arfarniad o opsiynau yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau allweddol. Fodd bynnag,
daeth yr adolygiad i'r casgliad na chafodd hyn ei ddilyn drwodd i'r
ddogfennaeth ffurfiol yn sefydlu'r cwmni neu ei berthynas â'r Cyngor, ac roedd
hyn wedi cyfrannu at wendidau yn y trefniadau monitro ac archwilio a’i gwneud
yn anodd i'r Cyngor i reoli ei berthynas â'r Cwmni. Teimlwyd bod
trefniadau archwilio a monitro wedi cael eu drysu a bod llwybrau adrodd lluosog
yn debygol o fod wedi cyfrannu at ddiffyg dilyniant.
Amlinellodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y
rheswm pam fod y Cwmni wedi bod yn destun cymaint o archwilio sy'n gwrthdaro.
Esboniodd fod y trefniadau hyd braich ac yn wir y
gwasanaeth Hamdden yn ei gyfanrwydd wedi cael ei basio o gwmpas yr Awdurdod ar
sawl achlysur yn ystod cyfnod amser y cwmni, a oedd wedi golygu sawl Pennaeth
Gwasanaeth gwahanol â chyfrifoldeb drosto ac o ganlyniad yn gorfod adrodd i'r
gwahanol Bwyllgorau Archwilio. Mynegodd y
Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y farn fod y problemau wedi deillio
o'r testun a’r cyfrifoldeb yn dilyn Penaethiaid a Chyfarwyddwyr yn adrodd i
wahanol Bwyllgorau Archwilio. Teimlai y byddai'r
trefniadau archwilio newydd yn sicrhau nad oedd hyn yn digwydd yn y dyfodol gan
nad oeddent yn seiliedig ar gyfarwyddiaeth, a byddai rhaglenni yn cael eu
monitro a'u trafod gan Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion.
Yn fwy diweddar o fewn y Cyngor mae dulliau mwy cadarn o
ddatblygu achosion busnes a rheoli prosiectau a risg yn golygu ei bod yn
annhebygol y byddai amgylchiadau tebyg yn codi rŵan. Mae rheoli risg
wedi’i ymgorffori yn fwy cadarn o fewn y Cyngor ac mae canolbwyntio cliriach ar
reoli perfformiad yn arferol bellach. Nododd yr adolygiad fod y berthynas gyda
Hamdden Clwyd Cyf wedi’i rheoli’n fwy cadarn yn y camau diweddarach hyn, gyda
monitro rheolaidd ar waith a chamau gwella wedi’u nodi a’u dilyn ymlaen. Roedd
y penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet ym mis Ionawr a Mawrth 2014 wedi’u
hysbysu i raddau helaeth o ganlyniad i’r dull mwy cadarn hwn. Pwysleisiwyd bod
y system Archwilio gyfredol yn lleihau risgiau posibl a bod y Grŵp
cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion yn darparu modd o reoli unrhyw ddyblygu, nad
oedd ar gael yn y gorffennol, a bod hyn yn darparu rheolaeth ychwanegol yn y
system.
Eglurodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol bod argymhellion ar
gyfer gwelliannau pellach wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad adolygu a oedd yn
gysylltiedig ag adolygiad cyffredinol y Pennaeth Archwilio Mewnol o drefniadau
cyffredinol ar gyfer sicrhau bod sefydliadau hyd braich yn cael eu llywodraethu
a’u perfformiad yn cael ei fonitro’n briodol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i wella
trefniadau goruchwylio, archwilio a monitro’r Cyngor, gan
osgoi dibyniaeth ar gyfarwyddwyr a benodwyd i’r bwrdd gan y Cyngor fel yr unig
ddull o lywodraethu ac enwebu pwyllgorau perthnasol yn y Cyngor i ystyried
trefniadau llywodraethu a pherfformiad perthnasau hyd braich o’r fath.
Teimlai'r Cadeirydd y dylai'r materion sy'n deillio o'r trafodaethau a'r
casgliadau fod yn canolbwyntio ar y dyfodol. Fodd bynnag, teimlai y
byddai'n bwysig ystyried llinell amser y digwyddiadau a’r gwersi a ddysgwyd.
Diolchodd y Cynghorydd P.C. Duffy i'r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a
Hamdden am y gwaith a wnaeth. Mynegodd
bryder na fu dim cynllun busnes ystyrlon na chytundeb prydles yn ei lle ar y
dechrau, a chyfeiriodd at y diffyg archwilio, ymyrraeth neu wiriadau mewn
perthynas â pherfformiad dros gyfnod hir o amser.
Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd i gwestiynau oddi wrth
Aelodau ac eglurodd mai’r agwedd gyllido o’r cytundeb a wnaed oedd yr agwedd
fwyaf amhriodol o'r ddogfennaeth.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Uchelgais Economaidd a Chymunedol yr ymddengys nad oedd unrhyw linellau
cyfrifoldeb clir, a thra mynegwyd pryderon roedd y Pwyllgorau priodol yn
ymddangos i fod yn fodlon ar sicrwydd a gafwyd ynglŷn â gweithrediad y
Cwmni. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Aelodau,
amlinellodd yr anawsterau yr oedd Cyfarwyddwyr y Bwrdd a benodwyd gan y Cyngor
yn eu hwynebu. Roedd yr adolygiad wedi cynnwys argymhellion i
wella trefniadau goruchwylio, archwilio a monitro’r Cyngor er mwyn osgoi
dibyniaeth ar gyfarwyddwyr bwrdd a benodwyd gan y Cyngor fel yr unig ddull o
lywodraethu ac enwebu Pwyllgorau perthnasol o fewn y Cyngor i ystyried
llywodraethu a pherfformiad perthnasau hyd braich fel y cyfryw. Eglurodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol fod yna fanteision i benodi
Cynghorwyr fel Cyfarwyddwyr ar Fyrddau Cwmnïau hyd braich, fodd bynnag, nid ar
gyfer monitro agweddau perfformiad a chyllid Cwmni yn unig. Teimlodd y
Cynghorydd H.Ll. Jones, Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth,
Hamdden ac Ieuenctid, y gallai’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio gyfrannu at y broses o archwilio Cwmnïau hyd braich. Cyfeiriwyd at rolau a chyfrifoldebau Cynghorwyr,
Cyfarwyddwyr y Bwrdd ac Aelodau'r Cabinet. Amlygodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol bwysigrwydd yr angen i reoli unrhyw wrthdaro o ran
buddiannau a allai godi, a chyfeiriwyd at ddyletswydd statudol Cyfarwyddwyr
Cwmnïau.
Amlinellwyd yr anawsterau a gafwyd gan swyddogion wrth fynd i'r afael â'r
problemau a brofwyd gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden, a
chyfeiriwyd yn arbennig at agwedd wleidyddol y broses. Rhoddodd hefyd fanylion y goblygiadau a'r
canlyniadau a ddeilliodd o'r argymhellion yn Adroddiad Archwilio Cymru 2008.
Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cadeirydd, cytunodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol i ddarparu manylion am y meini
prawf a'r broses ar gyfer asesu’r gwerth rhent ardrethol a masnachol ar gyfer
adeiladau megis Canolfan Nova, Prestatyn.
Cymeradwyodd y Pwyllgor gais gan y Cadeirydd ar gyfer cyflwyno adroddiad i
gyfarfod mis Mai 2015 o'r Pwyllgor i gynnwys:-
·
Atgyfnerthu rôl Aelodau Etholedig ar Fyrddau Cwmnïau hyd
braich a chynnwys y gwaith a wnaed gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd a Phennaeth Archwilio Mewnol mewn perthynas â Cwmnïau hyd braich.
·
Y gwaith a wnaed gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, i
gynnwys y fframwaith i’w gweithredu ym mis Gorffennaf 2015, gyda diweddariad am
weithredu’r argymhellion y cytunwyd arnynt.
·
Diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol ar rôl Aelodau
ar Fyrddau Cwmnïau hyd braich perthnasol.
Amlygodd yr Aelodau hefyd yr angen am ddarparu hyfforddiant i Aelodau mewn
perthynas â Chwmnïau hyd braich. Amlygodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden
yr angen i enwebeion i'r Byrddau perthnasol feddu ar y set sgiliau
angenrheidiol a'r ddealltwriaeth i ddiwallu ac ymgymryd â gofynion y swydd.
Cyfeiriodd
y Cadeirydd at bwysigrwydd atgyfnerthu’r angen i sicrhau rôl y Pwyllgorau
Archwilio perthnasol o ran monitro Cwmnïau hyd braich. Cytunodd y Pwyllgor fod y mater hwn yn cael ei
gyfeirio at y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion i'w ystyried.
PENDERFYNWYD - yn amodol
ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:
(a)
derbyn ac
yn nodi cynnwys yr adroddiad.
(b)
cytuno
bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Mai 2015 o’r Pwyllgor, yn cynnwys
yr wybodaeth a'r manylion y gofynnwyd amdanynt gan Aelodau.
(IB a GW i Weithredu)
Dogfennau ategol: