Eitem ar yr agenda
Rhaglen Waith Archwilio
Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
10.55 a.m. – 11.05 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd copi o ‘ffurflen o gynnig gan Aelod’ wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 ac
roedd manylion y ffurflen wedi’u darparu gan y Cydlynydd Archwilio. Ni fydd unrhyw eitemau'n cael eu
cynnwys ar raglen gwaith i’r dyfodol heb lenwi ‘ffurflen gynnig ar gyfer
archwilio' a derbyn cymeradwyaeth i'w gynnwys ar y rhaglen gan y Pwyllgor neu’r
GCIGA. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio y
byddai cymorth i lenwi’r ffurflenni ar gael os oes angen. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3, ac
roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar a’r cynnydd
gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 4.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:-
Gan fod yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi mynychu sesiwn Friffio’r Cyngor ar 16
Mawrth 2015 i drafod cynllun tair blynedd y Bwrdd gyda’r holl Gynghorwyr,
penderfynwyd ei bod ychydig yn gynnar gwahodd cynrychiolwyr BIPBC i’r Pwyllgor
ar 30 Ebrill i drafod cynnydd hyd yn hyn. Cytunodd
yr Aelodau y dylid gohirio’r cyfarfod gyda chynrychiolwyr y Gwasanaeth Iechyd
tan 17 Medi 2015, gyda’r 3 Medi fel dyddiad amgen os oedd angen.
Cytunodd yr
Aelodau y dylid penodi’r Cynghorydd J.Butterfield fel cynrychiolydd y pwyllgor
ar Grŵp Herio’r Gwasanaeth Addysg. Roedd Atodiad 5 yn
cynnwys y rhestr ddiweddaraf o gynrychiolwyr archwilio ar y Grwpiau Herio
Gwasanaethau.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a
chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:-
30 Ebrill 2015:-
Eglurodd y Cydlynydd Archwilio bod Prif Swyddog Cefn Gwlad: Gwasanaethau
Warden wedi nodi na fyddai’n gallu mynychu’r cyfarfod a drefnwyd ar 30 Ebrill
2015 i gyflwyno adroddiad ar Gyd-Bwyllgor yr AHNE, a chytunwyd y dylid canslo’r
cyfarfod. Cytunodd y
Pwyllgor y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ar gyfer naill ai’r 14 neu’r 21 Mai
2015, yn dibynnu ar argaeledd y rhai sydd angen bod yn bresennol, er mwyn
ystyried adroddiad ar Gyd-Bwyllgor yr AHNE. Cytunwyd hefyd y dylid
gwahodd cynrychiolwyr o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a
Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i’r cyfarfod i drafod eu rôl i gefnogi
cymunedau i dderbyn gwasanaethau a chyllid pan fydd gwasanaethau anstatudol y
Cyngor yn cael eu tynnu’n ôl. Mewn
ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, darparwyd fanylion ynglŷn ag Aelodaeth
Partneriaeth Arfordirol y Rhyl i’r Pwyllgor.
30 Gorffennaf 2015:-
- Eglurodd y
Cydlynydd Archwilio bod cais gan swyddog i’r Pwyllgor ystyried adroddiad ar
Glwstwr Cymunedau’n Gyntaf Sir Ddinbych wedi’i gymeradwyo a’i drefnu ar y
rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 30 Gorffennaf 2015.
Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio, ar 19 Chwefror
2015, wedi ystyried Papur Gwyn diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Ddatganoli,
Democratiaeth a Darpariaeth – Diwygio Llywodraeth Leol: Pŵer i Bobl Leol. Roedd Pennod 8 y Papur Gwyn ‘Cryfhau Rôl
Adolygu’, yn gosod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer archwilio, a darparodd y
cydlynydd archwilio grynodeb byr o’r trafodion.
Byddai'r Adroddiad Blynyddol ar weithgareddau’r Pwyllgorau Archwilio yn
ystod y flwyddyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod blynyddol y Cyngor ym mis Mai. Roedd ymarfer
gwerthuso Archwilio wedi’i gyflawni ac roedd holiadur drafft wedi’i gylchredeg
i aelodau archwilio, ac i grŵp ehangach gan gynnwys yr holl Gynghorwyr ac
aelodau'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Gofynnodd y Cydlynydd
Archwilio bod yr holiaduron yn cael eu dychwelyd cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD - yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn
Atodiad 1 yr adroddiad.
Dogfennau ategol:
- FWP Report, Eitem 6. PDF 135 KB
- FWP App 1, Eitem 6. PDF 165 KB
- FWP App 2, Eitem 6. PDF 157 KB
- FWP App 3, Eitem 6. PDF 126 KB
- FWP App 4, Eitem 6. PDF 67 KB
- FWP App 5, Eitem 6. PDF 47 KB