Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PARTNERIAETH CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG

I ystyried adroddiad (copi yn amgaëdig) gan yr Arweinydd Tîm Datblygu Busnes ac Economi (De) am sefyllfa bresennol dull partneriaethol Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r Cynllun Datblygu Gwledig (2007-2013).  Yn ogystal darperir gwybodaeth ynglŷn â’r cynlluniau arfaethedig o ran cyllid datblygu gwledig ar gyfer y cyfnod 2014 - 2020. 

9:35am – 10:15am

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) ac esboniodd fod y Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) 2007–2013 presennol – a oedd wedi ei ymestyn ac a fyddai nawr yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014 – wedi denu tua £4.8m i ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Roedd £1.5m o hyn ar gyfer prosiectau Echel 3, wedi’u hanelu at wella safon byw mewn ardaloedd gwledig a hybu arallgyfeirio.

 

Bu’r CDG presennol yn gofyn am gydweithio agos rhwng cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint drwy’r Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd. Byddai’r CDG arfaethedig ar gyfer 2014–2020 yn berthynas weithio dridarn yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd.

 

Ni chafodd ardal Diserth ei chynnwys yn y CDG yn flaenorol, ond roedd sylwadau llwyddiannus yn golygu y byddai’n cael ei chynnwys yng Nghynllun 2014–2020.

 

Yn ystod y cyfarfod, dosbarthwyd map o’r Sir yn dangos dosbarthiad arian (a’r rhestr brosiectau) o dan y CDG.  Dangosodd bod y gyllideb wedi’i dyrannu’n weddol gyfartal ar draws y sir.  Fodd bynnag, gan fod ardal Rhuddlan a Bodelwyddan wedi ymuno â’r CDG presennol yn hwyrach, nid oedd hi wedi elwa o’r Cynllun i’r un graddau â gweddill yr ardal.  Byddai mwy o weithredu’n cael ei gynllunio yn ardal Rhuddlan/Bodelwyddan er mwyn iddi elwa o’r CDG newydd maes o law.

 

Clywodd y Pwyllgor bod Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gyfrifol am ddosbarthu arian grant i fusnesau o dan Cynllun 2007–2013, tra bod Cadwyn Clwyd (y Grŵp Gweithredu Lleol) wedi dyrannu bwrsariaethau.

 

Roedd nifer o brosiectau twristiaeth a bwyd-amaeth wedi elwa o dan y cynllun presennol, a bu prosiectau cymunedol yn elwa hefyd.  Gyda’r Cynllun presennol yn dod i ben rhagamcanwyd tanwariant o 1% i 2%.  Roedd hyn yn lefel dderbyniol o danwariant ar gyfer rhaglen o’r fath, a chyfradd llawer is na nifer o gynlluniau datblygu gwledig eraill.

 

Roedd cyfradd enillion y Cyngor o waith y CDG yn yr ardal yn dangos enillion o £4 ar gyfer pob £1 a gyfrannwyd gan yr Awdurdod mewn prosiectau. Er gwaetha’r ffaith bod y cynllun presennol yn dod i ben ar ddiwedd 2014, nid oedd y CDG 2014-2020 a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru (LlC) wedi’i gymeradwyo eto.  Disgwyliwyd y byddai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ym mis Chwefror 2015, unwaith i LlC dderbyn cadarnhad ynghylch cyllid CDG gan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau mi wnaeth yr aelodau arweiniol a’r swyddogion :

 

·        Cynghori bod y CDG presennol wedi cynnwys trawstoriad da o brosiectau ar draws y Sir;

·        Ateb cwestiynau ar brosiectau penodol ac ymrwymo i ddarparu rhagor o wybodaeth am brosiect Amgueddfa Llangollen;

·        Esbonio sut y mesurwyd canlyniadau prosiectau a sut y bu gan Swyddfa Archwilio Cymru’r pŵer i berfformio gwiriadau dirybudd ar weinyddiaeth y cynllun yn lleol;

·        Amlinellu’r broses ymgynghori a gyflawnwyd fel rhan o baratoi’r CDG newydd ar gyfer 2014-2020;

·        Cadarnhau y byddai gan y CDG newydd bwyslais mwy ar fynd i’r afael â thlodi ac adfywiad economaidd, yn enwedig adfywio cymunedau eithriedig/anodd eu cyrraedd.  Byddai’r cynllun newydd yn disgwyl i brosiectau a gyflwynwyd am ystyriaeth fod wedi ymchwilio a sicrhau arian cyfatebol ar gyfer y prosiectau cyn derbyn cyllid CDG.  Byddai angen i unrhyw gyllid newydd o dan y CDG newydd ddenu o leiaf 20% mewn arian cyfatebol o ffynonellau eraill;

·        Cadarnhau mai Cadwyn Clwyd fyddai’r corff gwneud penderfyniadau unwaith eto ynghylch dyfarnu arian i brosiectau, â chynrychiolydd o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau yn eistedd ar y corff dyfarnu;

·        Cynghori (o gofio bod cyllid llywodraeth leol yn lleihau bob blwyddyn) y dylai aelodau lleol, drwy Grwpiau Ardal yr Aelodau a'r Cynlluniau Tref ac Ardal, glustnodi prosiectau â blaenoriaeth uchel neu rai dymunol y gallai elwa o gyllid CDG, ac adnabod ffynonellau arian cyfatebol ychwanegol i ariannu’r prosiectau hyn. 

Roedd hi eisoes yn adnabyddus bod cymunedau o fewn Sir Ddinbych yn gymwys i elwa o ffynonellau arian eraill e.e. Cymunedau yn Gyntaf, arian cymunedol o brosiectau isadeiledd mawr/ynni gwynt.  Gallai agwedd gydlynol tuag at gynllunio a darparu prosiectau arfaethedig wneud yn fawr o’r elw a ddaw ohonynt ar gyfer y cymunedau mewn cwestiwn, sicrhau cynaladwyedd hirdymor a chefnogi uchelgais y Cyngor i ddatblygu’r economi leol yn ogystal â chyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol.  Dylid nodi hefyd na fyddai pob prosiect yn gydnaws â blaenoriaethau’r Cyngor;

·        Nodi bod Cynllun 2014-2020 hefyd yn cynnwys gwelliannau arfaethedig o fewn yr AHNE;

·        Byddai aelodau Archwilio o gynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i fynychu’r dathliad i nodi diwedd CDG 2007-2013.

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

(i) yn amodol ar y sylwadau uchod, nodi’r arferion da yr adnabuwyd wrth ddarparu rhaglen bresennol cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn Sir Ddinbych wledig ac i weithredu’r arferion hynny lle’n briodol yn ystod y cyfnod y rhaglen newydd; ac

(ii) y dylid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor i’w ystyried yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2015 yn amlinellu’r cynlluniau cyllid allanol sydd ar gael i gymunedau lleol, fel rhan o gynlluniau/cyllidau llywodraeth Ewrop neu fel ad-dalu ar gyfer prosiectau isadeiledd mawr, a sut y gellir eu cydlynu orau ag arian llywodraeth leol er mwyn i gymunedau lleol wneud yn fawr o’r elw.

 

Dogfennau ategol: