Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD AGGCC

Ystyried adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol (copi ynghlwm) sy'n nodi'r materion allweddol sy'n codi o werthusiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn 2013-14.

 

 

Cofnodion:

Copi o adroddiad wedi’i ddosbarthu’n flaenorol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n nodi'r materion allweddol sy'n codi o werthusiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn 2013-14.  Mae copi o'r gwerthusiad llawn wedi ei gynnwys fel Atodiad I.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Hugh Morgan, Rheolwr Ardal ar gyfer AGGCC (RHAAGGCC), a’r Prif Reolwr - Cymorth Busnes i'r cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwerthusiad perfformiad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol gan gynnwys meysydd cynnydd, meysydd i'w gwella a risg.  Bob blwyddyn mae AGGCC wedi cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol pob Awdurdod Lleol.  Mae'r gwerthusiad yn cwmpasu ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys: adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad a chynlluniau ar gyfer gwella yn ei ardal awdurdod lleol; gwaith rheoleiddio’r AGGCC; a barn archwilwyr ac arolygwyr eraill.   Mae'r gwerthusiad yn cael ei gymedroli i sicrhau dull cyson, tryloyw a chymesur.

Mae gwerthusiad o Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych wedi amlygu bod eglurder a ffocws yn yr adroddiad sy'n amlinellu'r cyfeiriad ar gyfer gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych ac yn arbennig y canlynol:

 

·                  mae tystiolaeth amlwg o gymryd ymagwedd strategol i ateb yr heriau demograffig

·                 mae'r Cyngor wedi gweithredu modelau arloesol o ymarfer a datblygu partneriaethau integredig

·                 mae tystiolaeth o archwilio amlwg yn enwedig drwy heriau gwasanaeth a thrwy wrando ar farn pobl gan danseilio’r rhaglen moderneiddio

·                 ymrwymiad cryf a blaen gynllunio o ran yr iaith Gymraeg

·                 mae perfformiad y gwasanaeth yn gryf

 

Mae nifer o feysydd penodol i'w gwella wedi cael eu nodi yn yr adroddiad.  Bydd cynnydd y Cyngor mewn perthynas â'r rhain yn cael eu trafod yn ystod cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Uwch Dîm Rheoli a'r AGGCC.  Y meysydd ar gyfer camau dilynol gan yr AGGCC y flwyddyn nesaf yw:

·                     Effaith newidiadau i isadeiledd POVA (Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn)

·                     Sefydlu dull ymchwil trylwyr i gael gafael ar ac i ymateb i farn plant, pobl ifanc a'u teuluoedd

·                     Gwella ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal

 

Mae  Atodiad II yn rhoi trosolwg o'r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn y gwerthusiad perfformiad, ac yn rhoi gwybodaeth ar sut oedd y Cyngor yn ymateb i'r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella.

Mae’r meysydd sydd angen gwelliant yn unol â hunanasesiad y Cyfarwyddwr ac wedi cael eu hymgorffori yn y Cynlluniau Busnes Gwasanaeth ar gyfer 2014-15. Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu monitro yn ffurfiol bob chwarter gan y gwasanaethau, ac adroddir ar lawer o elfennau ddwywaith y flwyddyn i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad a’r Cabinet gan eu bod yn ffurfio rhan o'r Cynllun Corfforaethol.  Hefyd, mae gan bob gwasanaeth Her Perfformiad Gwasanaeth blynyddol sy'n archwilio cynnydd yn erbyn Cynlluniau Busnes Gwasanaethau.

Gwnaed cynnydd sylweddol yn erbyn y meysydd i'w gwella a amlygwyd yn  adroddiad gwerthuso perfformiad 2011-12.  Fodd bynnag, cydnabyddir nad yw cynnydd wedi bod mor sylweddol ag y rhagwelwyd mewn perthynas â pherfformiad sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal.  Mae'n bwysig tynnu sylw at y gwelliannau sylweddol sydd wedi cael eu gwneud ers yr arolygiad gyda 100% o lwyddiant mewn meysydd allweddol.

 

Cyflwynodd yr RHAAGGCC a chrynhoi Adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGGCC ac amlygwyd y pwyntiau amlycaf canlynol: -

 

-                  Cydnabuwyd bod y Cyngor wedi cymryd rhan mewn cynllun moderneiddio strategol pum mlynedd, a bod y newidiadau sylweddol sy'n deillio wedi’u nodi a bod y darpariaeth gwasanaeth yn cael ei ail-lunio.

-                  Roedd lefel dda o graffu drwy'r broses Herio Gwasanaeth.

-                  Nodwyd meysydd o gryfder, a thri maes allweddol oedd angen eu gwella wedi'u nodi: -

(i)              Y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gwrando ac yn ymateb, cyfeirio at y data a gasglwyd.

(ii)             Pryderon sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal, gan gyfeirio'n benodol at feysydd iechyd ac addysg.

(iii)            Diogelu plant ac oedolion yn arbennig.  Cyfeirio at Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA).

-                  Cylch gwaith AGGCC mewn perthynas â POVA, a datblygiadau’r polisi perthnasol yn unol â hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ddatblygiadau, ac eglurodd fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru wedi gofyn am adolygiad sylfaenol o'r prosesau diogelu oedolion yng Nghymru, a byddai'r grŵp yn gyfrifol am archwilio’r broses adrodd yn y dyfodol agos.  Cyfeiriwyd at gyfraith achos a oedd wedi ehangu cwmpas y ddeddfwriaeth a chynyddu maint y gwaith i Gynghorau gyda mewnlifiad sylweddol o achosion.  Pwysleisiodd ei fod yn agwedd sylfaenol mewn gofal cymdeithasol i amddiffyn y rhai a oedd fwyaf agored i niwed ac i sicrhau nad oedd unrhyw golli rhyddid oni bai bod hynny o fewn eu diddordeb gorau.  Mae pob cartref yn Sir Ddinbych wedi’u gwneud yn ymwybodol o'r dyfarniad ac mae hyfforddiant ychwanegol wedi’i ddarparu i staff fel aseswyr lles gorau. 

 

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai'r Bwrdd Diogelu Oedolion yn cyflwyno adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor Archwilio, a bod cyfarfodydd misol i drafod hyfforddiant lefel 6.  Cadarnhaodd y Pennaeth Archwiliad Mewnol y byddai Archwiliad Mewnol yn ymgymryd â’r gwaith o lunio adroddiad eang ei gwmpas ar drefn Diogelu Corfforaethol i'w gyflwyno i'r Pwyllgor. 

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i gwestiwn gan y Cynghorydd S.A.  Davies ac eglurodd eu bod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy'r grant cronfa gofal canolraddol, i gynorthwyo gyda mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol.

 

Amlygodd y Cadeirydd y meysydd sydd angen eu gwella sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a’r angen am gynnydd a phwysigrwydd monitro'r gwaith a wnaed.  Cyfeiriodd at y gostyngiad sylweddol yn nifer y cymwysterau a gyflawnwyd gan blant sy'n derbyn gofal, ac o’r pwysigrwydd i sicrhau bod yr ymchwil a wnaed yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol yr anawsterau i gael gafael ar farn pobl ifanc.  Pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â hwy mewn modd derbyngar ac esboniodd bod mecanweithiau wedi eu cyflwyno i fodloni'r gofynion hyn.  Eglurodd y CGC bod perfformiad yn bwysig, ond byddai hyn yn mynd y tu hwnt i ofynion plant unigol a'u hamgylchiadau unigol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yn gofyn am eglurhad ar y datganiad bod "y llwybr a'r canlyniadau i bobl sydd ddim yn bodloni'r trothwy ar gyfer gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn eglur", fe eglurodd Mr Morgan (AGGCC) y bu ymgais i ganfod neu gasglu tystiolaeth o sut y mae sylw yn cael ei roi i anghenion penodol yr unigolion, ac arsylwi a yw ymchwil digonol wedi’i wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn ac os bydd yr unigolion wedi cael eu cyfeirio at ddarparwyr gwasanaeth eraill am gefnogaeth a chymorth.  Eglurodd y CGC y bu cyfluniad newydd o wasanaeth ac amlinellodd y gweithdrefnau monitro a gyflwynwyd.

 

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democratiaeth i gwestiynau gan y Cadeirydd ar lefel  gwaith  y Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn perthynas â Gorchmynion Gofal, gan adlewyrchu ar oblygiadau'r gwaith a wnaed gan y Tîm Cymorth i Deuluoedd.  Eglurodd y CGC y gallai'r broses o gymryd plentyn i ofal gael ei ystyried fel methiant o ran cymdeithas a byddai'n bwysig i helpu i atal camau o'r fath.  Amlygodd Mr P. Whitham y cyfeiriad a wnaed at hylifedd plant sy'n derbyn gofal ond mynegodd bryder ynghylch y diffyg darpariaeth niferoedd dan sylw, cadarnhaodd y Prif Reolwr, Cefnogi Busnes bod y ffigurau ar gael. 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'n bwysig monitro'r gwaith a nodwyd yn Atodiad 1 a oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn enwedig meysydd perfformiad yn ymwneud ag iechyd ac addysg plant sy'n derbyn gofal.  Eglurodd y CGC fod y camau a nodwyd yn cael eu monitro o fewn y Cynllun Busnes, y broses Herio Gwasanaeth yn ogystal ag ymddangos yn Adroddiad Blynyddol y CGC a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio perthnasol a'r Cyngor.

 

Ar gais y Cadeirydd, fe gytunodd y CGC i ddosbarthu e-bost at yr holl Aelodau yn manylu ar y drafodaeth yn y cyfarfod, a’u hysbysu bod y Panel Rhiant Corfforaethol yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Aelodau ychwanegol.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)            derbyn y gwerthusiad AGGCC a'r adroddiad cynnydd cysylltiedig gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a nodi ei gynnwys.

(b)            nodi’r materion a'r pryderon a amlygwyd gan yr Aelodau, a

(c)            CGC i anfon e-bost i'r holl Aelodau yn eu hysbysu bod y Panel Rhiant Corfforaethol yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Aelodau ychwanegol.

    (NS i Weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: