Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDRAFFT AR GYFER SAFLEOEDD CARAFÁN YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) sy’n gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar opsiynau ar gyfer rheoleiddio carafán y sir yn fwy effeithiol.

10.50am – 11.30am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn crynhoi canfyddiadau'r Grŵp Prosiect a sefydlwyd i geisio datblygu strategaeth i reoli safleoedd carafannau gwyliau ar draws y sir yn well. Ynghlwm wrth yr adroddiad ceir arfarniad opsiynau drafft ar gyfer y strategaeth, sydd â’r teitl 'Cofnodion, Rheoleiddio ac Ôl-effeithiau'. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer safleoedd carafannau gwyliau yn yr ardal, sef i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu yn unol â'r caniatâd statudol perthnasol a bod strategaethau clir ar waith i fynd i'r afael â meddiannaeth breswyl heb awdurdod o garafannau gwyliau gan gynnwys rheoleiddio safleoedd sefydledig a sicrhau gorfodaeth effeithiol mewn safleoedd eraill. Mae pryder cyffredinol, yn lleol ac yn genedlaethol, ers cryn amser ar p'un ai yw gweithredwyr safleoedd carafannau gwyliau yn cydymffurfio’n llawn â'r amodau cynllunio a thrwyddedu sy’n ymwneud â’r safleoedd. Er mwyn gwybod faint o waith sydd angen ei wneud ar y maes yma, sefydlwyd Grŵp Prosiect i edrych ar ddiffyg cydymffurfio â rheolau cynllunio a thrwyddedu. Dewisodd y Grŵp bum safle carafannau gwyliau, o wahanol feintiau mewn gwahanol rannau o'r sir, a chasglu rhywfaint o wybodaeth ragarweiniol ar eu gweithrediadau er mwyn mesur nifer yr achosion o dorri cyfyngiadau gwyliau. Yn dilyn hyn, cafodd y cyfeiriadau eu croesgyfeirio gyda gwybodaeth a gedwir ar gronfeydd data gwasanaethau'r Cyngor i ganfod a oes unrhyw gais am wasanaeth neu fudd-daliad wedi ei gyflwyno o'r safleoedd hyn. Byddai ceisiadau o’r fath o bosibl yn golygu bod amodau rheoleiddio yn cael eu torri ar y safleoedd hyn.

 

Cadarnhaodd y swyddogion bod yr wybodaeth a gasglwyd o'r ymarfer wedi arwain at fwy o gwestiynau nag atebion. Mae gan adrannau’r Cyngor gyfoeth o wybodaeth a chofnodion y gellid eu defnyddio ar gyfer croesgyfeirio neu at ddibenion tystiolaeth e.e. cofnodion cynllunio a thrwyddedu, gwasanaethau cymdeithasol a chofnodion ynglŷn ag addysg, budd-daliadau, treth y cyngor a cheisiadau tocyn bws. Drwy ddefnyddio gwybodaeth o'r fath mae swyddogion wedi cyhoeddi nifer o Orchmynion Tramgwyddo Rheolau Cynllunio i berchnogion safleoedd yn eu hysbysu bod y Cyngor yn amau bod eu safle yn cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl parhaol. O ganlyniad, mae rhai perchnogion wedi gwirfoddoli i weithio gyda'r Cyngor i sicrhau y cedwir at yr amodau yn y dyfodol. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal gydag eraill gyda'r bwriad o sicrhau cydymffurfiad ac osgoi camau gorfodaeth. Serch hynny, mae un perchennog wedi ei alw i lys ynadon ddechrau 2015 oherwydd diffyg cydymffurfio.

 

Yn seiliedig ar lwyddiant y prosiect peilot, mae swyddogion yn awyddus i barhau â'r gwaith hwn. Er bod sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau rheoleiddio yn dod â budd i’r Cyngor a’r diwydiant twristiaeth lleol, gall cymryd camau gorfodaeth yn erbyn perchnogion gael ôl-effaith ar y Cyngor h.y. gorfod canfod cartref newydd i breswylwyr diamddiffyn os yw safleoedd yn cael eu cau ac ati. Serch hynny, teimlai'r aelodau bod manteision cymryd camau gorfodaeth a chymhwyso’r rheoliadau yn llym yn fwy na’r risg sy'n gysylltiedig â bod yn hunanfoddhaol. Mae preswylio’n anghyfreithlon mewn carafannau gwyliau yn dreth ar wasanaethau cyhoeddus lleol, boed yn awdurdod lleol, gwasanaeth iechyd neu’n wasanaeth cyhoeddus arall, gan nad y carafannau hyn yw eu preswylfa barhaol (ac felly nid oes yn rhaid i’r preswylwyr dalu treth y cyngor).

 

Er bod aelod o Gynulliad Cymru wedi cyflwyno Mesur Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru) i’r Cynulliad, roedd yn ymddangos bod diffyg parodrwydd ar hyn o bryd i ddeddfu’r Mesur hwnnw fel darn o ddeddfwriaeth sy'n sefyll ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, gellir gwireddu rhai agweddau ar y Mesur drwy ddiwygio’r ddeddfwriaeth bresennol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, bu i’r Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd):

·         amlinellu natur gymhleth polisïau ac arferion codi tâl ar safleoedd carafannau a’r diffiniad deddfwriaethol o 'garafán' a 'gwyliau' ac ati;

·         gadarnhau y byddai'n rhoi gwybod i'r aelodau am ganlyniad y cyfarfod gyda pherchennog un o safleoedd carafannau mwyaf y sir;

·         gadarnhau bod y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn awyddus i barhau â'r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma gan y prosiect peilot ac i ymestyn hyn ymhellach;

·         ddweud y byddai hunanreoleiddio yn chwarae rôl allweddol i sicrhau cydymffurfiaeth, fodd bynnag, efallai y bydd angen camau gorfodaeth mewn rhai achosion ac y gallai hynny fod yn anodd oherwydd adnoddau ariannol a dynol prin yn sgil y cyfyngiadau cyllidebol;

·         ddweud ei fod yn ceisio arweiniad gan yr aelodau ar y ffordd gorfforaethol ymlaen o ran sicrhau bod safleoedd carafannau yn y Sir yn cael eu rheoleiddio’n well ac ar y ffordd fwyaf effeithiol o symud y prosiect peilot yn ei flaen h.y. trwy sefydlu grŵp lefel uchel i yrru'r prosiect yn ei flaen ac i gadw momentwm;

·         gadarnhau fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi nodi problem diffyg cydymffurfio tebyg yn ei ardal ond nad ydynt, hyd y gwyddai, wedi gwneud penderfyniad ynghylch y mater.

 

Awgrymodd yr aelodau, yn ychwanegol at y cofnodion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, y gallai defnyddio'r cofnodion canlynol at ddibenion croesgyfeirio/casglu data fod yn ddefnyddiol:

·         Cofnodion ceisiadau am fathodynnau glas

·         cysylltu â’r Bwrdd Iechyd i rannu gwybodaeth ynghylch nifer y cleifion sydd ar eu cronfeydd data (yn ganolog a chyda meddygfeydd) sydd wedi nodi safle carafán yn y sir fel eu cyfeiriad;

·         gwirio’r 'Gofrestr Etholwyr' eto, ac unrhyw gronfa ddata arall y Cyngor, i sicrhau nad yw’r strydoedd/rhodfeydd a ddefnyddir yn cyfeirio mewn gwirionedd at 'strydoedd' ar safleoedd carafannau gan fod gan rai o'r safleoedd mwy 'strydoedd' ar safle (efallai bod yr arfer hwn yn cuddio gwir nifer y preswylwyr parhaol heb awdurdod);

·         cysylltu, o bosibl, â chwmnïau ffonau symudol a darparwyr teledu lloeren i sefydlu a ydynt yn darparu gwasanaethau i breswylwyr ar safleoedd carafannau penodol.

 

Yn ystod y drafodaeth bu i’r aelodau:

·         bwysleisio’r angen i weithio gyda gweithredwyr safleoedd carafannau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau cynllunio a thrwyddedu. Fodd bynnag, roeddent hefyd yn cydnabod y cymorth gwerthfawr a ddarperir gan y safleoedd yn y blynyddoedd diwethaf i ailgartrefu’r rheiny a effeithiwyd arnynt gan y llifogydd;

·         bwysleisio'r angen i ddarparu neges glir i berchnogion safleoedd carafannau gwyliau na fyddai'r Cyngor yn goddef diffyg cydymffurfio â chyfarwyddiadau cynllunio a thrwyddedu ac, os nad yw perchnogion yn fodlon gweithio gyda'r Cyngor i reoli eu safleoedd yn effeithiol, y byddai’r Awdurdod cymryd camau gorfodaeth;

·         gefnogi awgrym yr Aelod Arweiniol bod achos yn cael ei gyflwyno ar gyfer cefnogaeth swyddog ychwanegol, dan y fenter 'gwario i arbed', i fwrw ymlaen â'r prosiect a sicrhau cydymffurfiaeth yn y maes hwn;

·         godi pryderon ynghylch na fyddai’r wybodaeth ychwanegol, sy’n cael ei gasglu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ar gael mewn pryd i lunio'r adroddiad ar gyfer y cam yma o’i ddatblygiad; a

·         gofyn i holl adrannau'r Cyngor i hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fel mater o drefn os ydynt yn derbyn cais am wasanaeth neu fudd-dal gan unigolyn sydd wedi nodi safle carafannau fel ei gyfeiriad.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl ar yr adroddiad a'r arfarniad opsiynau:

 

Penderfynwyd:

i) yn amodol ar y sylwadau uchod, a dilyn y trywydd ymholi a awgrymwyd, cymeradwyo cynhyrchiad terfynol dogfen y Strategaeth;

ii) gofyn i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, ar y cyfle cyntaf posibl, i gyflwyno achos busnes i'r Tîm Gweithredol Corfforaethol yn manylu ar gynigion i gael swyddog i fwrw ymlaen â’r prosiect ‘Rheoleiddio Safleoedd Carafanau yn Well'; a

(iii) bod adroddiad cynnydd ar ddatblygiad y Strategaeth, a’r pwyntiau uchod, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2015.

 

 

 

Cyn i’r cyfarfod ddod i ben, dywedodd y Prif Weithredwr bod cyllid ychwanegol o oddeutu £113 miliwn wedi ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru yn Natganiad mis hydref Canghellor y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y byddai oddeutu £70 miliwn ohono’n cael ei ddyrannu i'r Gwasanaeth Iechyd. Fodd bynnag, nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ynghylch gweddill yr arian. Bydd yr Arweinydd yn ysgrifennu at Weinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus i bledio bod swm sylweddol o'r arian sydd ar ôl yn cael ei ddyfarnu i lywodraeth leol, yn benodol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol yng ngogledd Cymru. Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r aelodau lobïo eu cynrychiolwyr Cynulliad Cymru yn yr un modd a bod cynrychiolydd gwleidyddol eu parti yn gwneud yr un peth er mwyn diogelu gwasanaethau yn y rhanbarth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12pm.

 

Dogfennau ategol: