Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2015/16 - 2016/17 (CAM 2)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac
Asedau (copi amgaeedig) yn argymell y dylid cyflwyno arbedion y gyllideb i'r
Cyngor i'w gymeradwyo.
Penderfyniad:
{0><}0{>PENDERFYNWYD bod
y Cabinet, ar ôl ystyried y trafodaethau yn y gweithdai cyllideb niferus i’r
holl aelodau er mwyn cyflawni’r arbedion o £17.1m sydd ei angen, yn argymell
bod yr arbedion a restrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn cael eu cymryd i holl
aelodau'r Cyngor i'w cymeradwyo.<0}
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn argymell cyflwyno Cam 2 yr arbedion yn y gyllideb ger bron y
Cyngor i'w cymeradwyo. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa gyfredol y
gyllideb ac yn manylu ar y cynigion diweddaraf i ganfod arbedion sy’n dod i gyfanswm
o £3.6 miliwn yn 2015/16 ac £1.8 miliwn yn 2016/17.
Tynnodd yr Arweinydd sylw at y gwaith caled y mae
Aelodau Arweiniol a Phenaethiaid Gwasanaeth wedi ei wneud i ddynodi dewisiadau
i'w hystyried ac i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o oblygiadau'r
cynigion. Tra oedd yn cydnabod bod angen
gwneud penderfyniadau anodd nododd ei fod yn fodlon bod y broses o bennu
cyllideb wedi bod yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw a diolchodd i’r holl
aelodau am eu cyfranogiad. Atgoffwyd yr
aelodau gan y Cynghorydd Thompson-Hill am y broses gynhwysfawr i ddynodi'r
arbedion y mae eu hangen i gyflawni cyllideb gytbwys dros y ddwy flynedd
nesaf. Cafwyd diweddariad ganddo hefyd
ynglŷn â’r ymarfer a wnaed i ymgysylltu â'r cyhoedd a elwid yn 'Torri’r
Brethyn’ a dywedodd y byddai adborth yn cael ei adrodd ger bron y Cyngor llawn
ochr yn ochr ag argymhellion y gyllideb a'r asesiadau effaith llawn.
Amlinellodd Aelodau'r Cabinet y cynigion cyllidol
sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol o fewn eu portffolios eu hunain y
manylir arnynt yn Atodiad 1, gan egluro’r rhesymeg sydd wrth wraidd yr
argymhellion hynny a'r goblygiadau dilynol sy’n deillio ohonynt. Tra oedd yr aelodau’n rhoi ystyriaeth i'r
arbedion cyllidol manteisiodd rhai ohonynt ar y cyfle i holi cwestiynau a
cheisio sicrwydd ynglŷn â chynigion penodol er mwyn bodloni eu hunain
mai’r rhain oedd y dewisiadau gorau i'w hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn eu
cymeradwyo.
Roedd prif agweddau’r drafodaeth yn canolbwyntio
ar y meysydd gwasanaeth canlynol -
Cyllidebau Dirprwyedig
Ysgolion - Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams bod y diogelwch o 1% yn y
gyllideb yn cael ei gynnal drwy fuddsoddi yn y Cynllun Corfforaethol. O ran y gostyngiad i adlewyrchu'r lleihad yn
nifer y disgyblion eglurodd beth yw swyddogaeth y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn
hynny o beth.
Cefnogaeth Addysgol - O ran cael gwared ar y grant gwisg ysgol
dewisol ar gyfer Blynyddoedd 8-11 roedd eglurhad llawn wedi cael ei ddarparu yn
ystod Sesiwn Briffio'r Cyngor ac nid oes disgwyl y bydd plant na allant
fforddio gwisg ysgol yn gorfod gwneud heb wisg ysgol.
Gwasanaethau Gwella Ysgolion
- Trafodwyd effaith dod
â’r cytundeb gwasanaeth cerddoriaeth i ben a nodwyd na fyddai gwersi
cerddoriaeth ar gyfer disgyblion unigol yn cael eu heffeithio. O adolygu’r maes hwn, gwelwyd nad oedd y
ddarpariaeth cyllid cerddoriaeth yn cael ei defnyddio ym mhob ysgol. Roedd modd i ysgolion gymryd cyfrifoldeb am y
gwasanaeth cerddoriaeth ac roedd rhai eisoes yn ymchwilio i’r posibilrwydd
hwnnw.
Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd - Gofynnwyd am
sicrwydd na fyddai plant ag anableddau o dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno
cyfraniadau gan rieni am y gwasanaethau a ddarperir. Dywedwyd wrth y Cabinet na ddylai cyflwyno cyfradd
wastad fechan gael nemor ddim effaith, o gofio fod gan rieni fynediad o hyd at
ystod o fuddion eraill.
Gwasanaethau Oedolion a
Busnes - Gofynnwyd am
sicrwydd na fyddai cynigion i allanoli’r cartrefi gofal y mae’r cyngor yn eu
rhedeg yn niweidiol i'w trigolion. Trafododd yr Aelodau gyfeiriadau diweddar yn
y wasg at safonau gwael mewn cartrefi gofal preifat a thynnodd y Cynghorydd
Bobby Feely sylw at fesurau sydd yn eu lle er mwyn monitro safonau a darparu
trosolwg mwy cyffredinol o ansawdd a safon y gofal mewn cartrefi gofal
preifat. Dywedodd hefyd mai dim ond tri
o'r cartrefi gofal yn y sir sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor gan ddarparu
sicrwydd pendant y byddai'r ddarpariaeth gywir ar gael i bob preswylydd yr
effeithir arnynt gan y cynigion ac na fyddai unrhyw wasanaeth yn cau oni bai y
canfyddid darpariaeth amgen i gwrdd ag anghenion yr unigolion. Hefyd trafododd yr Aelodau rinweddau
cynlluniau tai gofal ychwanegol fel darpariaeth amgen a chafwyd diweddariad
ynglŷn â’r cynnydd a wnaed gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o
ran gofal a gofal cymdeithasol
integredig.
Priffyrdd a'r Amgylchedd
(Cymhorthdal Cludiant Cyhoeddus) - Cydnabu'r Cynghorydd David Smith bryderon
ynglŷn ag effaith gostwng / cael gwared ar y cymhorthdal
cludiant cyhoeddus, yn enwedig ar drigolion gwledig. Dywedodd y byddai canfyddiadau'r ymgynghoriad
ynglŷn â chludiant cyhoeddus yn llywio'r broses resymoli ac y byddai’r
wybodaeth honno ar gael i'w hystyried cyn cyfarfod llawn nesaf y Cyngor.
Priffyrdd a'r Amgylchedd (Cynnal
a Chadw Tiroedd) - Trafododd
y Cabinet effaith lleihau'r gyllideb cynnal a chadw tiroedd ar ymddangosiad
gweledol, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol a oedd yn dibynnu'n fawr ar
dwristiaeth. Cydnabuwyd bod
arddangosfeydd blodau ac ati yn cael eu cefnogi’n sylweddol mewn rhai ardaloedd
ond nid mewn ardaloedd eraill. Roedd y
camau i liniaru’r cynnig yn cynnwys gofyn am nawdd ar gyfer cylchfannau ac
arddangosfeydd penodol ac roedd yr aelodau’n gobeithio y gellid canfod
ffynonellau cyllid allanol i gynnal safonau.
Cynllunio a Diogelu'r
Cyhoedd - Trafododd yr
Aelodau’r cynnig i atal neu leihau cyllid teledu cylch caeedig gan dynnu sylw
at bwysigrwydd y gwasanaeth wrth atal troseddu a sicrhau erlyniadau. Pwysleisiwyd yr angen i wneud ymdrech fawr i
archwilio opsiynau eraill i geisio sicrhau dyfodol y gwasanaeth. Cadarnhawyd bod arbedion wedi cael eu
clustnodi ar gyfer 2016/17 a oedd yn gadael deuddeg mis i weithio gyda phartïon
sydd â diddordeb ac i edrych ar opsiynau posibl i gyflawni’r Gwasanaeth Teledu
Cylch Caeedig yn Y Rhyl, ym Mhrestatyn ac yn Rhuddlan. Fodd
bynnag, pe na bai’r ymdrechion hynny’n llwyddiannus byddai'r gwasanaeth yn dod
i ben. Nodwyd nad oedd darpariaethau
teledu cylch caeedig mewn ardaloedd eraill yn cael eu hariannu gan y Cyngor
Sir.
Tai a Datblygu Cymunedol - Amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams
bwysigrwydd y Cynlluniau Tref ac Ardal a gofynnodd am ailgyflwyno’r dyraniadau
yn y gyllideb pe deuai cyllid allanol ar gael.
Cadarnhaodd yr Arweinydd ei ymrwymiad i'r Cynlluniau a chydnabod yr
angen i fod yn ymwybodol o'r potensial ar gyfer cyllid o’r fferm wynt a chyllid
Ewropeaidd ac ymateb i’r cyfleoedd hynny. Ychwanegodd hyd yn oed os yw'r cynnig
i gael gwared ar y gyllideb refeniw yn cael ei gymeradwyo, roedd oddeutu £850k
o danwariant o ddyraniadau blaenorol yn cael eu cadw ac ar gael ar gyfer
prosiectau priodol ar gyfer gweddill tymor y Cyngor.
Cyfathrebu, Marchnata a
Hamdden - Amlygwyd
pwysigrwydd diwylliant a mynegwyd pryderon dros roi’r gorau i gynnal
arddangosfeydd celfyddydol mewn orielau.
Y gobaith oedd y gellid canfod ffyrdd amgen i annog diwylliant a'r
celfyddydau yn y sir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Amlygwyd pwysigrwydd y Scala a Chanolfan
Grefft Rhuthun hefyd er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn swyddogaethau statudol. Rhoddodd y Cynghorydd Huw Jones sicrwydd bod
y Scala a Chanolfan Grefft Rhuthun wedi cael eu trin yn deg ac mai graddfa
symudol a ddefnyddiwyd wrth ostwng eu cymhorthdal.
Cyllid ac Asedau - Mewn ymateb i gwestiynau cydnabu’r
Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’n
wasanaeth sy'n perfformio'n dda ond yng ngoleuni newidiadau i'w weithrediad a'r
effaith bosibl ar lefelau staffio mae partneriaeth fasnachol wedi cael ei
hargymell. Mae adroddiad cyfrinachol i’w
ystyried yn ddiweddarach ar y rhaglen sy’n darparu manylion pellach ynglŷn
â’r cynnig.
Amlygodd y Cynghorydd Jason McLellan, Cadeirydd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ei bryderon ynglŷn â’r broses o
bennu’r gyllideb, gan ddefnyddio'r adolygiad o’r Gwasanaeth Hawliau Lles fel
enghraifft. Bydd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn gwneud gwaith pellach er mwyn profi a cheisio sicrwydd
ynglŷn â’r broses o bennu’r gyllideb.
Ymatebodd yr Arweinydd, yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau a'r
Prif Weithredwr i’r pryderon a godwyd gan ddarparu sicrwydd ynghylch tryloywder
a chadernid y broses o bennu’r gyllideb. Nodwyd swyddogaeth y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn cymryd trosolwg o’r broses o bennu’r gyllideb.
Darparodd y Prif Weithredwr gyd-destun ynglŷn
â graddfa'r toriadau yn y gyllideb sy'n wynebu llywodraeth leol a rhai o
benawdau’r ymarfer a gynhaliwyd i ymgysylltu â'r cyhoedd. Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd y berthynas
â chynghorau tref/cymuned a phartneriaid eraill er mwyn ceisio sicrhau
darpariaeth amgen ar gyfer swyddogaethau na fydd y Cyngor bellach yn ymgymryd â
hwynt. Gofynnodd y Cabinet i’r broses
gynhwysfawr o bennu’r gyllideb ac i ymwneud pob aelod â’r broses honno gael eu
hadlewyrchu yn y penderfyniad. Talodd yr
aelodau deyrnged i waith caled y swyddogion wrth liniaru effeithiau'r toriadau
ac i’r creadigrwydd a ddangoswyd yn moderneiddio ac yn addasu gwasanaethau mewn
amgylchiadau anodd. O ganlyniad -
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet, ar ôl ystyried y trafodaethau a fu mewn nifer o weithdai i aelodau
ynglŷn â chyflawni arbedion o £17.1 miliwn yn y gyllideb, yn argymell bod
yr arbedion a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael eu cyflwyno ger bron
holl aelodau’r Cyngor i'w cymeradwyo.
Ar y pwynt hwn
(12.05pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- BUDGET REPORT W, Eitem 5. PDF 90 KB
- BUDGET REPORT - APP 1, Eitem 5. PDF 46 KB
- BUDGET REPORT - APP 2, Eitem 5. PDF 182 KB
- BUDGET REPORT - APP 3, Eitem 5. PDF 29 KB
- BUDGET REPORT - APP 4, Eitem 5. PDF 54 KB