Eitem ar yr agenda
UNO GWIRFODDOL RHWNG CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY A CHYNGOR SIR DDINBYCH – DATGAN DIDDORDEB
Ystyried
adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) i ddarparu diweddariad
ynglŷn â’r gwaith a wnaed ar gyfer yr opsiwn uno gwirfoddol ers cyfarfod y
Cyngor ar 9 Medi 2014, ac i argymell bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r
Datganiad Diddordeb sydd ynghlwm i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Tachwedd 2014.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) wedi ei
ddosbarthu cyn y cyfarfod, a oedd yn darparu diweddariad ynglŷn â’r gwaith
a wnaed ar gyfer yr opsiwn uno gwirfoddol ers cyfarfod y Cyngor ar 9 Medi 2014,
ac a oedd yn argymell bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad Diddordeb
sydd ynghlwm, Atodiad 2, i Lywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd Tachwedd 2014.
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a rhoddodd grynodeb manwl o'r
meysydd allweddol canlynol o'r cyflwyniad PowerPoint a ddosbarthwyd gyda'r
adroddiad:-
-
Sefyllfa Cyngor Sir Ddinbych
-
Cynnydd ers 9 Medi, 2014.
-
Manylion yn ymwneud â'r Datganiad
Diddordeb.
-
Datganiad Diddordeb: Yr Achos
dros Uno (1) a (2).
-
Opsiynau ar gyfer cysoni'r Dreth Gyngor.
-
Cyflogau a Graddio Staff.
-
Manteision Uno Gwirfoddol.
-
Risgiau a Chasgliadau.
-
Map Ffordd i Uno Gwirfoddol a'r
Camau Nesaf.
-
Argymhellion.
Roedd crynodeb o ddatblygiadau pwysig ers cyfarfod y Cyngor ym mis Medi
wedi ei ddarparu ac roedd yn cynnwys:-
·
Roedd Cyngor Conwy wedi pasio cynnig tebyg, gan gytuno i
ymchwilio i'r opsiwn o uno yn wirfoddol gyda Sir Ddinbych, ar 18 Medi 2014.
·
Roedd LlC wedi cyhoeddi ei 'Brosbectws' ar gyfer uno
gwirfoddol: “Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru Gyflwyno Cynigion
ar gyfer Uno Gwirfoddol"
·
Cytunodd Sir Ddinbych a Chonwy i gomisiynu CIPFA i gynnal
ymarfer arbedion a chostau, Atodiad 1, ac i fynd ymlaen i ddrafftio Datganiad
Diddordeb ar y cyd ar gyfer Aelodau'r ddau gyngor i’w ystyried yn eu
cyfarfodydd cyngor ar 17 Tachwedd.
·
Roedd Arweinyddion Grŵp yn Sir Ddinbych a grŵp
trawsbleidiol yng Nghonwy wedi eu sefydlu i oruchwylio datblygiadau’r uno.
·
Bu trafodaethau gyda swyddogion LlC a chyfarfod lefel
uchel gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar 12 Tachwedd 2014.
Darparodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r
adroddiad gan CIPFA, Atodiad 1, ar Oblygiadau Strategol Uno Cynnar Gwirfoddol
rhwng Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad yn cynghori ar y materion canlynol:-
-
Costau tebygol uno gwirfoddol;
-
Unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â bod yn
fabwysiadwr neu arloeswr cynnar;
-
Manteision ariannol parhaus tebygol a ddaw drwy uno;
-
Manteision ac anfanteision uno gwirfoddol cynnar.
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod y Datganiad Diddordeb yn nodi'r Achos
dros uno gwirfoddol, ond nid hwn oedd yr Achos Busnes ar gyfer uno. Ymatebodd i
bryderon a fynegwyd gan rai Aelodau a chynghorodd i beidio ag ymrwymo i uno
gwirfoddol hyd nes y bydd Achos Busnes llawn wedi ei ddatblygu a’i ystyried yn
ofalus, ac yn dilyn hynny gallai Datganiad o Fwriad gael ei gyflwyno. Amlygodd y Prif
Weithredwr y pedwar rheswm pwysig dros gyflwyno Datganiad Diddordeb a mynd
ymlaen i ddatblygu Achos Busnes llawn. Roedd y rhain yn
cynnwys:-
(i)
Tebygrwydd rhwng ardaloedd yr Awdurdodau Lleol ac
Awdurdodau Lleol (Datganiad Diddordeb yn manylu yn Atodiad 2).
(ii)
Yr ymarfer costau ac arbedion gan CIPFA (manylion yn
Atodiad 1).
(iii)
Annog cymorth cynnar gan LlC.
(iv)
Manteision Uno Gwirfoddol dros Uno Gorfodol.
Ar 18 Medi cyhoeddodd LlC ei "Brosbectws" ar gyfer uno
gwirfoddol: “Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gyflwyno cynigion
ar gyfer uno gwirfoddol". Roedd y ddogfen braidd yn amwys am y cymorth
ariannol sydd ar gael ar gyfer uno gwirfoddol. Fodd bynnag, nododd yn galonogol:-
“Rydym yn bwriadu
sicrhau bod adnoddau ar gael, a’r rheini’n adnoddau penodol sydd ar wahân i’r
Grant Cynnal Refeniw, i roi cymorth i uno’n wirfoddol.” T3.
Yn llai calonogol roedd yn
nodi " O ystyried y pwysau ariannol difrifol yr ydym yn eu hwynebu, mae'n
afrealistig disgwyl i Lywodraeth Cymru roi chwistrelliadau mawr o arian i
gynorthwyo proses o uno." T5.
Ers cyhoeddi roedd
trafodaethau wedi digwydd gydag uwch swyddogion LlC am y cynigion, ac roedd
cydnabyddiaeth LlC o'r materion cost a galluoedd sy'n gysylltiedig â'r uno wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
Eglurodd y Cynghorydd H. H.
Evans, ar 12 Tachwedd fod Arweinyddion a Phrif Weithredwyr Sir Ddinbych a
Chonwy wedi cyfarfod gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y cyfarfod wedi
bod yn rhagweithiol gyda chydnabyddiaeth y byddai costau, ac roedd ymrwymiad ar
lafar y gallai cefnogaeth sylweddol fod ar gael. Teimlai fod y
cyflwyniad gan y Prif Weithredwr wedi darparu eglurder ynghylch y broses uno
arfaethedig.
Os oedd uno Awdurdodau Lleol yn anorfod, yna byddai gwirfoddoli i uno’n
gynt yn hytrach nag aros i gael eu huno yn nes ymlaen yn fanteisiol am nifer o
resymau:-
·
Cefnogaeth ychwanegol gan LlC: 'Prosbectws +'
·
Cyfnod byrrach o falltod cynllunio ac ansicrwydd
·
Rhyddhau arbedion effeithlonrwydd yn gynharach ac
integreiddio prosesau cynllunio
·
Mae’n gosod tôn a diwylliant cadarnhaol ar gyfer y cyngor
newydd
·
Un set yn llai o etholiadau
·
Synnwyr clir o gyfeiriad i staff.
Roedd crynodeb o'r risgiau wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â
manylion pethau a fyddai’n selio’r fargen o bosibl a oedd yn cynnwys: -
·
Ariannu costau’r uno
·
·
Cytundeb ar wneud penderfyniadau gan ‘Awdurdod Cysgodol’
·
Cysoni Treth y Cyngor
Roedd y risgiau eraill yn cynnwys: -
·
Effaith ar berfformiad a safonau
·
Trefniadau pensiwn
·
Ewyllys gwleidyddol i yrru'r arbedion
·
Potensial ar gyfer anghytundeb difrifol rhwng
partïon allweddol
·
Cefnogaeth genedlaethol ansicr ar ôl Mai 2016
·
Cysoni gwahanol lefelau gwasanaeth
·
Llawer nad ydym wedi’i nodi eto.
Eglurwyd gan y Prif Weithredwr bod achos cryf dros gyflwyno'r Datganiad
Diddordeb ac, os caiff ei dderbyn gan LlC, i ddechrau gweithio ar Achos Busnes
llawn. Fodd bynnag, roedd yna nifer o risgiau sy'n
gysylltiedig â symud ymlaen â'r broses uno wirfoddol, y mwyaf arwyddocaol yw’r
pethau a fyddai’n selio’r fargen o bosibl yn adran 6 o'r adroddiad hwn. Cadarnhaodd y
byddai angen datrys y rhain yn ystod y broses Achos Busnes llawn.
Ymatebodd y Prif Weithredwr i bryderon a fynegwyd gan yr Aelodau a
chadarnhaodd na fyddai cyflwyno Datganiad Diddordeb yn ymrwymo'r Cyngor i symud
ymlaen i uno ac nid oedd unrhyw oblygiadau cost. Byddai bwrw ymlaen y tu
hwnt i'r pwynt hwnnw yn gam mawr, ac mae Atodiad 1 yn amlygu'r costau a
manteision ariannol. Ar y cam hwn, byddai angen bod yn ofalus wrth
ystyried yr holl ffigurau o ystyried yr amserlenni sydd ar gael i'w cynhyrchu. Byddai’n briodol
ceisio cymeradwyaeth y Cyngor llawn gan y byddai goblygiadau'r cynigion yn
effeithio ar bob Aelod Etholedig ac ar ddyfodol y Cyngor. Sicrhaodd y Prif
Weithredwr yr Aelodau na fyddai'n gallu argymell bod y broses uno yn mynd
rhagddi oni bai bod yr Achos Busnes llawn, y gellid ei hasesu a'i hadolygu ar
bob cam, yn gadarn ac o sylfaen gadarn.
Tynnwyd sylw at yr angen i ystyried y goblygiadau i aelodau o staff, gyda'r
awgrym y gallai morâl isel o bosibl arwain at safon wael o berfformiad. Cytunodd y Prif
Weithredwr â'r farn y byddai'n bwysig rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf lawn i’r
staff a'r Undebau priodol, a chyfeiriodd yn y cyflwyniad at ddarparu ymdeimlad
clir o gyfeiriad ar gyfer staff.
Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan
Aelodau:-
-
Eglurwyd y byddai materion yn ymwneud â
chytundebau Cynllun Ariannu Preifat Awdurdodau perthnasol, ynghyd â chronfeydd
wrth gefn, contractau ac achosion cyfreithiol yn cael eu harchwilio yn fanwl
mewn modd systematig.
-
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd Achos
Busnes cadarn a hyfyw os yw'r broses uno i symud ymlaen. Cyfeiriwyd at y
pedwar peth a allai selio’r fargen a amlinellir yn y cyflwyniad a chadarnhawyd
oni bai bod manylion clir mewn perthynas â darpariaeth ariannu na fyddai'n
gallu argymell neu gefnogi uno.
-
Nid oedd LlC wedi rhoi manylion am y cymorth ariannol
sydd ar gael, ond roedd wedi rhoi sicrwydd bod staff ac adnoddau ariannol wedi
eu nodi i gynorthwyo â'r broses uno. Byddai'r goblygiadau
cost yn rhai untro tra byddai arbedion yn barhaus.
-
Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn ag unrhyw newid yn y
dyfodol o gyfarwyddyd gan y Llywodraeth mewn perthynas ag Ad-drefnu Llywodraeth
Leol, cyfeiriwyd at bwysigrwydd edrych ar yr amgylchedd presennol a'r opsiynau
eraill sydd ar gael yn ystod yr hinsawdd ariannol yn y presennol a'r dyfodol. Teimlai'r Prif
Weithredwr y byddai Awdurdod mwy o faint mewn sefyllfa well i fynd i'r afael
â'r hinsawdd ariannol a'i oblygiadau tymor hir.
-
Darparwyd amlinelliad o'r terfynau amser, ynghyd â manylion
am sefydlu'r fframwaith cyfreithiol priodol.
-
Mewn ymateb i gyfeiriad at ansicrwydd gwleidyddol
yn y dyfodol o ran Ad-drefnu Llywodraeth Leol, eglurodd y Prif Weithredwr nad
oedd yn ymwybodol fod unrhyw blaid wleidyddol wedi mynegi gwrthwynebiad, a phe
bai Sir Ddinbych a Chonwy yn symud ymlaen ar y cam hwn, yna byddai'r fframwaith
deddfwriaethol yn cael ei sefydlu i fynd rhagddo yn y dyfodol.
-
Cymeradwyodd y Prif Weithredwr y farn a fynegwyd ynghylch
yr angen i gyfleu’r manteision i breswylwyr yn yr Achos Busnes llawn, a
chytunodd i fynd i'r afael â'r mater hwn.
-
Mynegwyd pryderon bod rhai o'r ardaloedd a chymunedau
gwledig yn Sir Ddinbych wedi eu dieithrio yn y gorffennol o dan Awdurdodau
blaenorol mwy o faint, ac y gallai'r parau arfaethedig gael eu newid. Eglurodd y Prif
Weithredwr na allai'r ffiniau presennol gael eu rhannu ac ni ellid llunio parau
a fyddai’n arwain at Awdurdodau ynysig sengl, felly yn ddaearyddol paru Sir
Ddinbych a Chonwy fyddai'r unig ddewis ymarferol realistig a byddai hyn yn
dylanwadu ac yn siapio tynged Awdurdodau eraill.
-
Byddai materion megis enw a lleoliad pencadlys yr
Awdurdod newydd yn faterion i'w trafod gan yr Awdurdod newydd.
Yn dilyn trafodaeth bellach ac o'i roi i bleidlais, cytunwyd â’r
argymhelliad yn yr adroddiad:-
30 pleidlais o blaid, 5 yn erbyn a 0 yn ymatal.
PENDERFYNWYD - bod y Cyngor yn: -
(a)
cytuno i
gyflwyno’r Datganiad Diddordeb sydd ynghlwm (Atodiad 2 yn yr adroddiad) i
Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Tachwedd 2014, ac
(b)
yn amodol ar ymateb
Llywodraeth Cymru i'r Datganiad Diddordeb, a ddisgwylir erbyn 5 Ionawr, 2015,
cychwyn y broses o baratoi'r Achos Busnes llawn ar gyfer uno, i'w gyflwyno i'r
Cyngor llawn ym mis Mehefin / Gorffennaf 2015.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.15 p.m.
Dogfennau ategol:
- Merger Report 17.11.2014, Eitem 4. PDF 115 KB
- Merger Appendix 17.11.2014, Eitem 4. PDF 301 KB
- Merger App 1, Eitem 4. PDF 353 KB
- Merger App 2, Eitem 4. PDF 82 KB