Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2013/14
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Rhaglenni Corfforaethol (copi ynghlwm) ynglŷn ag
Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2013/14.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad y Rheolwr Rhaglen Gorfforaethol, ar Adolygiad Perfformiad Blynyddol y
Cyngor ar gyfer 2013/14, wedi ei gylchredeg cyn y cyfarfod.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd B.A. Smith a’r Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i
berfformiad erbyn 31 Hydref ac felly bod angen penderfyniad i gymeradwyo'r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol 2013-14 drafft, Atodiad I.
Roedd Cynllun Corfforaethol 2012/17 y Cyngor yn
nodi cyfeiriad strategol y Cyngor a’i flaenoriaethau dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae manylion bwriad y Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau wedi eu nodi yn y
Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol ac yn Nogfen Darparu Blynyddol y Cynllun
Corfforaethol, ac mae cyfres o Gytundebau Canlyniad wedi eu cytuno arnynt gyda
Llywodraeth Cymru.
Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn darparu gwerthusiad ôl-syllol o
lwyddiant y Cyngor wrth gyflawni yn erbyn y cynlluniau yma yn ystod 2013-14, ac
yn dangos p’un ai yw’r Cyngor wedi llwyddo i gyflawni ei rwymedigaeth gogyfer â
gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn llwyddiannus ai peidio.
Mae’r Tîm Gwella Corfforaethol wedi datblygu’r
adroddiad mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y Cyngor. Mae’r wybodaeth
perfformiad yn y ddogfen wedi ei darparu gan wasanaethau a’i thynnu o system
rheoli perfformiad Verto. Ymgynghorwyd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Cabinet
a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad cyn cyflwyno’r adroddiad ger bron y Cyngor
Sir i’w gymeradwyo.
Mae’r risg o gael adroddiadau negyddol sylweddol
gan reolyddion allanol wedi ei nodi yn y Gofrestr Risg Corfforaethol. Byddai
methu cyhoeddi’r Adolygiad Blynyddol erbyn y dyddiad terfyn o 31 Hydref yn
debygol o arwain at argymhellion statudol gan Swyddfa Archwilio Cymru, gyda
goblygiadau sylweddol ar gyfer enw da’r Cyngor.
Roedd y Cynllun Corfforaethol a’r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol yn elfennau allweddol o Raglen Cymru ar gyfer Gwella
(2010), a oedd yn cael ei gefnogi gan ofynion statudol Deddf Llywodraeth Leol
1999 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Cyfeiriodd y Cynghorydd E.A. Jones at Safle
Strategol Allweddol Bodelwyddan a gofynnodd am sicrwydd y byddai dyraniad o 26
hectar o dir cyflogaeth yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cyflogaeth, ac nid
yn cael ei gadw i’w werthu neu i adeiladu tai arno yn y dyfodol. Eglurodd y
Cynghorydd B.A. Smith fod y tir dan sylw wedi ei ddynodi fel tir cyflogaeth yn
y Cynllun Datblygu Lleol, a oedd wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor, ac y byddai'n
rhaid i'r Cyngor gymeradwyo unrhyw newid.
Cadarnhaodd y Cynghorydd H.H. Evans fod
trafodaethau ar y gweill rhwng swyddogion a datblygwyr hyd nes caiff Cais
Cynllunio mewn perthynas â'r safle Bodelwyddan ei gyflwyno. Eglurodd fod cyllid
gan y Bwrdd Uchelgais, sy’n canolbwyntio ar safleoedd cyflogaeth, wedi ei
ddyrannu i ymchwilio i feysydd allweddol ar draws y Sir. Awgrymodd y Cynghorydd
E.W. Williams y gallai’r tir cyflogaeth fod yn fater i'w ystyried gan Grŵp
Gweithredu’r Cynllun Datblygu Lleol.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod y tir cyflogaeth ym
Modelwyddan wedi ei nodi'n glir yn y Cynllun Datblygu Lleol, ac y byddai'n cael
ei nodi yn y Cais Cynllunio perthnasol. Fodd bynnag, awgrymodd fod y tir
cyflogaeth, a'r gwaith priodol sydd i’w wneud, yn fater i'w ystyried o bosibl
gan y Pwyllgor Archwilio.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Sesiwn Friffio
Cyngor, lle awgrymwyd y byddai Sir Ddinbych yn parhau i ymrwymo i gyflawni'r
Cynllun Corfforaethol ac y byddai hyn yn cael ei ddatblygu os caiff ei
gadarnhau. Esboniodd fod yn rhaid i’r Cyngor dderbyn a chymeradwyo Adolygiad
Perfformiad Blynyddol 2013-14, a ystyriwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor
Archwilio. Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai penderfyniadau ynglŷn â’r
gyllideb yn effeithio ar berfformiad ac y byddai'r rhain yn gofyn am ymarfer
mapio yn erbyn materion perfformiad. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau bod y
meysydd sy'n profi gostyngiad mewn lefelau perfformiad, o ganlyniad i doriadau
yn y gyllideb, yn cael eu nodi'n glir, ac y byddai'r Cynllun Gwella yn cael ei
adolygu i adlewyrchu penderfyniadau o'r fath.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J.A.
Davies, cadarnhaodd y Cynghorydd B.A. Smith fod darparu cyrbau isel wedi ei
nodi fel blaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol, i'w weithredu dros gyfnod o
bum mlynedd. Eglurodd y Cynghorydd D.I. Smith fod arolwg yn ymwneud â chyrbau
isel yn cael ei gynnal ac y byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd i'r Grwpiau
Ardal yr Aelodau perthnasol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd H.H. Evans at y Seilwaith
Cludiant a chadarnhaodd fod agweddau ar yr Uchelgais Economaidd a Chymunedol
wedi ei dynnu'n ôl oherwydd diffyg adnoddau, gyda'r ffocws rŵan ar feysydd
o effaith. Esboniodd fod TAITH wedi ei ganoli a bod penderfyniadau sy'n ymwneud
â datblygu seilwaith bellach yn fater i Lywodraeth Cymru.
Cytunodd y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio i
adolygu cywirdeb byrfoddau a ddefnyddir yn fersiwn Gymraeg y ddogfen Adolygiad
Perfformiad Blynyddol.
Yn dilyn trafodaeth bellach, ac o'i roi i bleidlais, cytunwyd â’r
argymhelliad yn yr adroddiad:-
34 o blaid ac 1 yn erbyn.
PENDERFYNWYD - bod y Cyngor yn
cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013-14 drafft er mwyn ei gyfieithu
a’i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2014.
Dogfennau ategol: