Eitem ar yr agenda
AILDDATBLYGU CANOLFAN NOVA
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden (copi ynghlwm) sy'n
ystyried y cynigion ar gyfer ailddatblygu Canolfan Nova Prestatyn.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden, a oedd
yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i
fwrw ymlae,n ag ailddatblygu Canolfan Nova Prestatyn, wedi ei gylchredeg cyn y
cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr Gwasanaethau Hamdden Alliance
i'r cyfarfod.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint cyflwynodd y
Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden yr adroddiad. Eglurodd fod y Cabinet
wedi ystyried canfyddiadau’r adolygiad diwydrwydd dyladwy i Hamdden Clwyd Cyf
ym mis Ionawr 2014 gan ddod i'r casgliad ei fod yn ormod o risg i'r Cyngor
gymryd y cwmni drosodd. Penderfynwyd rhoi'r gorau i gyllido Hamdden Clwyd o 1
Ebrill 2014 ymlaen oherwydd pryderon ynghylch ansawdd a lefel y gwasanaeth a
ddarperir. O ganlyniad i hyn, rhoddodd y cwmni’r gorau i fasnachu ar unwaith.
Ym mis Mawrth
2014 cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet yn amlinellu’r argymhellion a oedd yn
codi o arfarniad manwl o gyflwr yr adeiladau a'r dadansoddiad manteision cost
mewn perthynas â'r gwahanol opsiynau rheoli dros dro ar gyfer y cyfleusterau;
tra bod yr achos busnes ar gyfer cynnig hamdden llawer gwell ar yr arfordir yn
cael ei ddatblygu ymhellach. Cytunodd y Cabinet i argymell bod Canolfan Nova yn
aros ar gau hyd nes y cytunir ar gynigion ailddatblygu Gwasanaethau Hamdden
Alliance ym mis Mai 2014.
Comisiynwyd ymarfer dichonolrwydd ac achos busnes
amlinellol ar gyfer ailddatblygu’r ganolfan i gael ei ystyried gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol, ac mae manylion y broses wedi ei darparu. Cyflwynwyd yr astudiaeth dichonolrwydd a’r achos busnes
amlinellol i'r Grŵp Buddsoddi Strategol a'r Cabinet ym mis Mehefin 2014 er
mwyn sicrhau cyllid i symud y prosiect yn ei flaen at y cam dylunio manwl.
Cymeradwywyd y cynnig i symud ymlaen i’r cam nesaf, gan ddyfarnu £108 mil ar
gyfer y cam dylunio manwl i gael sicrwydd cost ar gyfer y prosiect. Mewn
partneriaeth â Sir Ddinbych, cwblhaodd Gwasanaethau Hamdden Alliance pob arolwg
manwl gan ddarparu costau manwl i'r Grŵp Buddsoddi Strategol yn seiliedig
ar gymysgedd o gyfleusterau, fel y cytunwyd yn y briff dichonoldeb gwreiddiol
(gweler Atodiad 1). Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r cyfleuster yn
hunangynhaliol trwy wasanaethu ei gostau ynni ei hun.
Mae'r arolygon manwl wedi nodi nifer o faterion y
mae angen eu datrys er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr adeilad ar gyfer
cyfnod yr achos busnes, yn seiliedig ar yr incwm posibl, ac ymrwymiad ariannol
y Cyngor. Mae angen offer mecanyddol a thrydanol newydd ac mae arolwg to wedi
amlygu nifer o broblemau. Mae'r cynnydd yn y costau o’r cam amlinellol i’r cam
dylunio manwl yn cynrychioli cynnydd o 15% mewn costau datblygu cyffredinol.
Byddai modd cynnal y cynnydd o fewn yr amlen fforddiadwyedd gyffredinol dros
gyfnod yr achos busnes.
Eglurwyd bod
y datblygiad yn elfen bwysig o weledigaeth y Cyngor ar gyfer gwell hamdden a
chynnig twristiaeth ar hyd yr arfordir, fel y nodir yn y Strategaeth Uchelgais
Economaidd. Mae Cynllun MAWR 2011 - 2014 yn ceisio cyrraedd nifer o
ganlyniadau, yn arbennig o ran dymuniad y Cyngor i annog pobl Sir Ddinbych i
fyw bywydau iach.
Y costau cyn y cam dylunio manwl oedd oddeutu £3.6
miliwn. Mae’r costau diwygiedig, oherwydd y to a’r gofynion mecanyddol a
thrydanol, wedi cynyddu i £4,217,001. Mae swyddogion a thîm prosiect Hamdden
Alliance wedi bod trwy 'broses gwerth peirianneg' fanwl i adolygu'r costau a’r
fanyleb i leihau'r costau cymaint â phosibl heb beryglu’r datblygiad cyfan. Yn
yr achos busnes gwreiddiol nodwyd bod angen cyfanswm o £256,311 i wasanaethu’r
benthyca cyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer y datblygiad. O ganlyniad i'r
cynnydd yn y cyfalaf sydd ei angen ar gyfer y datblygiad, mae'r costau benthyca
darbodus wedi cynyddu i daliad blynyddol o £284,680, sy'n cynrychioli cynnydd o
£28,369 y flwyddyn. Cafodd hyn ei gyfyngu o fewn fforddiadwyedd y prosiect a’i
ystyried a’i graffu’n llawn gan y Grŵp Buddsoddi Strategol a'r Bwrdd
Cyfleusterau Arfordirol. Cadarnhaodd Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden
fod y prosiect yn awr wedi cael sicrwydd cost ac y byddai’n rhaid i Hamdden
Alliance gwrdd ag unrhyw risg yn sgil newid y cynllun.
Mae rhagolwg cyllideb wedi ei gynnwys yn Atodiad 2,
gyda sylwebaeth ariannol yn Atodiad 3 a datganiad ariannol llawn gan ein
Rheolwr Cyllid a Sicrwydd ynghlwm wrth Atodiad 4. Mae'r rhagolwg cyllideb yn
dangos colled weithredol ym mlwyddyn 1 o £68,223, colled o £6,447 yn yr ail
flwyddyn a gwarged o £11,785 yn y drydedd flwyddyn. Dros gyfnod o bum mlynedd
byddai’r Ganolfan wedi gwneud colled weithredol o £23,440, yn ychwanegol at yr
adnoddau sydd ar gael i redeg y cyfleuster, ond mae hyn yn cymryd yn ganiataol
ein bod ni’n gwireddu 70% o’r galw diddigwydd cyffredinol.
Os nad yw’r datblygiad yn mynd rhagddo, mae’r
adeilad yn debygol o aros yn ei gyflwr presennol hyd nes caiff dewisiadau
pellach eu harchwilio. Byddai'r Ganolfan yn costio oddeutu £71,000 y flwyddyn
i’w gadw ar gau. Mae hyn yn cynnwys Trethi Annomestig Cenedlaethol, costau
diogelwch, gwaith trwsio a chostau cynnal a chadw, fel y nodir yn yr opsiynau
yn Atodiad 5 (tudalen 6 o'r achos busnes). Os bydd yr eiddo yn cael ei adael yn
ei gyflwr presennol byddai'n costio oddeutu £355,000 dros y pum mlynedd nesaf.
Byddai dymchwel yr adeilad yn costio oddeutu £1 miliwn, ac mae crynodeb manwl
wedi ei gynnwys.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, eglurwyd bod yr achos busnes, Atodiad 5, wedi ei
graffu arno a'i gymeradwyo gan y Grŵp Buddsoddi Strategol. Roedd y
Grŵp yn argymell y dylai’r Cyngor fwrw ymlaen â datblygiad y Ganolfan
Nova. Ymgynghorwyd â Chyngor Tref Prestatyn, y Bwrdd Arfordirol a Grŵp
Aelodau Ardal Prestatyn drwy gydol y camau datblygu. Mynegodd yr Aelodau eu
gwerthfawrogiad o ran manylder y broses ymgynghori a gynhaliwyd. Mae’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb
ynghlwm wrth Atodiad 6.
Os caiff ei gymeradwyo,
byddai cost adeiladu'r cynllun yn sefydlog, fel y nodwyd yn y fframwaith
partner datblygu. Bydd unrhyw wyriad oddi wrth y swm cyfalaf a gytunwyd yn cael
ei dalu gan Wasanaethau Hamdden Alliance, oni bai bod y costau yn ganlyniad i
unrhyw gais arall gan y Cyngor yn ychwanegol at y cwmpas gwaith a gytunwyd
arno. Cadarnhawyd bod yr opsiynau wedi eu trafod gyda'r Grŵp Buddsoddi
Strategol, ac wrth ystyried sut y bydd y risg yn cael ei reoli, maent wedi
cytuno i argymell datblygu, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor.
Canmolodd y
Cynghorydd H.Ll. Jones y gwaith a wnaed gyda Hamdden Alliance. Eglurodd fod
Canolfan Nova yn un o dri phrosiect ailddatblygu yn yr ardal. Y prosiect cyntaf
yw’r Ganolfan Fowlio ym Mhrestatyn, sydd wedi ei gwblhau’n ddiweddara, a’r
trydydd prosiect yw prosiect yr Heulfan, y Rhyl. Cyfeiriodd y Cynghorydd H.H.
Evans at y broses graffu fanwl a gynhaliwyd wrth ddatblygu'r prosiect, a oedd
wedi ystyried pob agwedd posibl ar y cynllun. Roedd yn teimlo bod Sir Ddinbych
wedi arwain y ffordd yng Nghymru drwy hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau
hamdden, a allai yn ei dro leihau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
Cyfeiriodd y
Cynghorydd C.H. Williams at y posibilrwydd o golli cae chwarae Ysgol Gynradd
Llandrillo. Dywedodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden bod y
strategaeth hamdden yn glir ynghylch pentrefi bychain ac ardaloedd gwledig yn
elwa o fuddsoddiad. Esboniodd, oherwydd ffigyrau poblogaeth a'r anhawster wrth
gynyddu hyfywedd masnachol, y byddai’n rhaid ariannu rhai ardaloedd o'r Sir gan
feysydd gwasanaeth lle mae disgwyliadau wedi eu rhagori.
Yn dilyn y drafodaeth a ddilynwyd, darparodd y Pennaeth Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan
yr Aelodau:-
-
Byddai deiliad prydles Parc Hwyl Traeth y Ffrith yn cael
ei gynnwys yn y trafodaethau sy'n ymwneud â datblygu’r Ganolfan Nova a
datblygu’r tir rhwng y Ffrith a’r Ganolfan Fowlio.
-
Cyfeiriwyd at y cynnydd posibl mewn cyflogaeth yn yr
ardal a’r hwb i'r economi leol a'r diwydiant twristiaeth ar draws yr ardal
arfordirol.
-
Darparwyd manylion ynglŷn â'r amserlen adeiladu.
-
Amlygwyd pwysigrwydd gwasanaethau hamdden i'r Rhaglen
Gofal Cymdeithasol.
-
O ran darparu sleid ddŵr yng Nghanolfan Nova, yn
ystod arfarniad y cynnig hamdden a phan ystyriwyd y cyfleusterau posibl ar hyd
yr arfordir, cytunwyd y byddai’n well lleoli gweithgareddau dŵr hwyliog yn
y Rhyl, gyda'r cyfleuster ym Mhrestatyn yn canolbwyntio mwy ar nofio
ffurfiol.
-
Darparodd Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden
fanylion y fframwaith a’r contract gyda Hamdden Alliance. Cadarnhaodd fod Sir
Ddinbych wedi elwa ar fframwaith proffesiynol o wasanaethau sy'n rhoi gwybod
i'r Cyngor am y gwasanaethau sydd ar gael a gofynion y farchnad.
-
Darparodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden
amlinelliad o'r consesiynau a gynigir o ran yr unedau manwerthu. Eglurodd mai'r nod oedd marchnata Canolfan Nova fel cyrchfan ar gyfer
ymwelwyr i Brestatyn a'r ardal arfordirol. Cadarnhawyd bod
penderfynu ar y dewis gorau posibl o ran y cynnig bwyd a diod, trwy'r
cyfleuster bwyty, yn hanfodol i lwyddiant y Ganolfan.
-
Nid yw gwasanaeth dwyieithog wedi ei ddarparu yn
flaenorol gan fod y cyfleuster wedi ei weithredu gan gwmni annibynnol hyd
braich. Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth yn y dyfodol wedi cael sylw.
Cadarnhaodd Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y byddai staff Cymraeg yn
cael eu cyflogi lle bynnag y bo’n bosibl. Fodd bynnag, mae'r angen i benodi
staff achrededig cyfyngu hyn.
-
Mewn ymateb i gais gan yr Aelodau, cadarnhaodd y Pennaeth
Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y gellir darparu gwerthusiad blynyddol ar
gynnydd y Ganolfan Nova, yn erbyn y Cynllun Gwella a bennwyd ar gyfer y
Strategaeth Hamdden.
-
Mae’r angen i ddefnyddio gweithwyr a chyflenwyr lleol lle
bo modd wedi ei nodi yn fframwaith y contract gyda Hamdden Alliance.
-
Darparodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden
fanylion y mesurau amddiffyn rhag llifogydd a stormydd ar gyfer yr adeilad, a
oedd yn cynnwys gwelliannau i'r promenâd a’r morglawdd.
Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelodau i Bennaeth Cyfathrebu, Marchnata a
Hamdden, ei staff a Gwasanaethau Hamdden Alliance, am y gwaith ardderchog a
wnaed mewn perthynas â'r prosiect yn ystod y graddfeydd amser cyfyngedig.
Yn dilyn trafodaeth bellach ac o'i roi i bleidlais, cytunwyd â’r
argymhelliad yn yr adroddiad:-
38 o blaid ac 1 yn ymatal.
PENDERFYNWYD
- bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig £4.217 miliwn i adnewyddu Canolfan Nova
Prestatyn.
Dogfennau ategol:
- Nova Report, Eitem 6. PDF 102 KB
- Nova App 1, Eitem 6. PDF 289 KB
- Nova App 2, Eitem 6. PDF 38 KB
- Nova App 3, Eitem 6. PDF 86 KB
- Nova App 4, Eitem 6. PDF 81 KB
- Nova App 5, Eitem 6. PDF 5 MB
- Nova App 6, Eitem 6. PDF 158 KB