Eitem ar yr agenda
YSGOL UWCHRADD GATHOLIG Y BENDIGAID EDWARD JONES - DIWEDDARIAD
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth yr Adain Archwilio Mewnol, sy'n darparu manylion gwaith
dilynol yr Adain Archwilio Mewnol yn Ysgol y Bendigaid Edward Jones yn dilyn yr
adroddiad cychwynnol ym mis Hydref 2013 a’r adroddiad dilynol cyntaf ym mis
Mehefin 2014 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (HIA), a oedd yn darparu
manylion gwaith dilynol yr Adain Archwilio Mewnol ar Ysgol y Bendigaid Edward
Jones yn dilyn ei adroddiad cychwynnol ym mis Hydref 2013, a’r adroddiad
dilynol cyntaf ym mis Mehefin 2014, wedi ei ddosbarthu eisoes.
Roedd adroddiad ar Ysgol Bendigaid Edward Jones ym mis Hydref 2013, yn rhoi
sgôr sicrwydd 'canolig', yn cynnwys cynllun gweithredu gyda 13 o feysydd ar
gyfer gwella. Fodd bynnag, mynegodd y Pwyllgor bryder y dylai’r
ysgol ymdrin â’r pwysau ariannol a gofynnwyd am adroddiad dilynol.
Eglurodd yr HIA bod yr adroddiad dilynol i'r Pwyllgor hwn ym mis Gorffennaf
2014 yn dangos cynnydd da ar y cyfan gyda'r Cynllun Gweithredu, ond mynegodd y
Pwyllgor ei bryderon ynghylch diffyg cynllun adfer ariannol ar y cam hwnnw, a
gofynnwyd am adroddiad pellach.
Mae'r Cynllun Gweithredu dilynol, Atodiad 1, yn dangos bod yr ysgol wedi
gwneud cynnydd pellach wrth gyflwyno gwelliannau ac wedi cytuno ar ei gynllun
adfer ariannol.
Croesawodd y Cadeirydd Mr Dominic Tobin, y Pennaeth, a Ms Sonia Weaver,
Rheolwr Busnes a Chyllid, i’r cyfarfod. Ymatebodd gynrychiolwyr
yr ysgol i gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor, a darparu'r ymatebion canlynol
ynglŷn â sut byddai’r Ysgol yn diwallu ei gyllideb yn 2016/17.
-
Roedd y newidiadau yn fformiwla cyllid yr ysgol yn awr yn
ymddangos yn dryloyw a theg.
-
Roedd sefyllfa gyfredol yr ysgol wedi codi o ganlyniad i
wariant sylweddol yn flaenorol.
-
Teimlwyd gyda’r gwaith cynllunio a’r cynllun trefnu a
fabwysiadwyd gellid ymdrin â'r sefyllfa'n gyfan gwbl o fewn cyfnod o ddwy i
dair blynedd.
-
Y prif ffactor oedd yn cael ei drafod ar hyn o bryd
oedd gostyngiad yn y niferoedd mewn pum
mlynedd. Darparwyd manylion niferoedd ar gyfer
blynyddoedd 7 ac 11, ynghyd â’r effaith ar ddarpariaeth cyllid, yr effaith ar statws
cyfredol yr ysgol a'r gwaith a wneir ar hyn o bryd i ymdrin â'r sefyllfa.
-
Darparwyd sicrwydd bod strwythur trefn yr ysgol a’r
strwythur staffio yn awr yn fwy effeithlon, ac y byddai addysg o ansawdd uchel
yn cael ei ddarparu i'r disgyblion yn yr ysgol.
-
Roedd hyder yn yr ysgol yn awr y byddai niferoedd
blwyddyn 7 yn gwella, a darparwyd amlinelliad ar gyfer dyfodol hirdymor yr
ysgol, gan gynnwys darpariaeth cyllid.
-
Darparwyd manylion ynglŷn â'r gwaith i hyrwyddo
dyfodol yr ysgol yn dilyn cyhoeddusrwydd ynglŷn ag ymgyrch ar gyfer ysgol
ffydd newydd.
-
Darparwyd amlinelliad o’r gwaith a wnaed o ran datrys
materion staff o safbwynt contractau ar gyfer y Pwyllgor.
-
Roedd Llywodraethwyr yr ysgol wedi derbyn mwy o rôl o ran
gweithrediad yr ysgol ac wedi'u hystyried yn ffrind beirniadol oedd yn fodlon
cyflwyno cwestiynau a chynnig her bositif. Hysbyswyd yr Aelodau
bod nifer y cyfarfodydd Cyllid Llywodraethwyr wedi cynyddu, ac y cymerir camau
ar hyn o bryd i lenwi sedd wag Llywodraethwr AALl ar y Corff Llywodraethu.
-
Byddai’r Pennaeth yn dechrau trafod gyda staff a
Llywodraethwyr yn ystod y tymor hwn i drafod strwythur Cyfrifoldebau Addysgu a
Dysgu yn yr ysgol.
Mewn ymateb
i bryderon a godwyd bod cronfeydd wrth gefn arian dros ben a gadwyd gan yr
ysgol, a monitro terfynau amser mewn perthynas â’r Cynllun Adfer yn faterion
i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio a’r Pwyllgorau
Archwilio perthnasol eu hystyried, eglurodd yr HIA y cytunwyd y byddai'r Adain
Archwilio Mewnol yn cyflawni archwiliad o reolaeth ariannol ysgolion, a
chytunodd y Pwyllgor i adolygu’r mater ar ôl derbyn yr adroddiad.
Nododd Aelodau’r Pwyllgor y cynnydd a wnaed yn yr ysgol yn ystod y cyfnod
byr o amser ers penodi Mr Tobin fel Pennaeth. Yn dilyn trafodaeth
bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
Yn derbyn
adroddiad dilynol yr Adain Archwilio Mewnol ac yn nodi’r cynnydd a wnaed, ac
(b)
Yn gofyn bod adroddiad
yr Adain Archwilio Mewnol ar reolaeth ariannol ysgolion yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar ôl ei gwblhau.
(IB i Weithredu)
Dogfennau ategol: