Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SAC - 2013/14
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio (copi
wedi’i amgáu) ar asesiad blynyddol o rhagolygon y Cyngor ar gyfer gwella, a
gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad
gan y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio, ar yr asesiad blynyddol o
ragolygon y Cyngor ar gyfer gwella a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC),
wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod, ynghyd â chopi o lythyr
gwaith Archwilio Perfformiad a Ffioedd 2014/15 SAC.
Cyflwynodd Cynrychiolydd SAC (GB) yr adroddiad ac eglurodd fod yr Adroddiad
Gwella Blynyddol, Atodiad 1, yn darparu gwybodaeth am Adroddiad Gwella
Blynyddol y Cyngor. O dan y Mesur Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio
Cymru yn adolygu cynnydd y Cyngor yn flynyddol tuag at gyflawni ei amcanion a'i
ragolygon er mwyn parhau i wella yn ystod y flwyddyn i ddod.
Ar gyfer y flwyddyn 2013-14, roedd SAC wedi dod i'r casgliad:-
·
Bod Sir Ddinbych wedi gwneud cynnydd da wrth gyflawni
gwelliannau yn ei holl amcanion blaenoriaeth ar gyfer 2012-13, ond mae angen
gwelliannau pellach mewn rhai meysydd allweddol;
·
Bod adolygiadau herio gwasanaeth y Cyngor a mesurau
eraill i hunan-arfarnu ei berfformiad yn gadarn;
·
Bod cynlluniau’r Cyngor i wella, a’i drefniadau i gefnogi
gwelliant, yn dda;
·
Bod y Cyngor yn debygol o wneud trefniadau i sicrhau
gwelliant parhaus ar gyfer 2014-15.
Eglurwyd os oedd gan SAC bryderon sylweddol ynghylch y cynnydd a wnaed gan
y Cyngor, neu'r trywydd y mae’n ei ddilyn, bydd yn gwneud argymhellion ffurfiol
i newid. Nid oedd gan adroddiad Sir Ddinbych unrhyw
argymhellion ffurfiol ac roedd hyn yn adlewyrchu barn gadarnhaol SAC am gynnydd
y Cyngor.
Cafwyd cadarnhad bod rhai meysydd angen rhagor o waith ac roedd Adroddiadau
Blynyddol eleni a’r llynedd wedi gwneud rhai ‘cynigion ar gyfer gwella'. Roedd Sir
Ddinbych wedi gwneud cynnydd da gyda'r holl gynigion a wnaed yn adroddiad
20012/13, ac eleni roedd yr Arolygwyr wedi gwneud dau gynnig pellach yr oeddent
yn teimlo y byddent yn helpu'r Cyngor i barhau i symud ymlaen. Roedd y rhain
yn cynnwys:-
·
P1 - Er mwyn cyflawni ei amcan i foderneiddio
gwasanaethau, dylai'r Cyngor barhau i fynd i'r afael â gwendidau yn ei
Wasanaeth Adnoddau Dynol Corfforaethol.
·
P2 - Dylai'r Cyngor sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn
glir ar gyfer cyflawni’r amcan tai fforddiadwy.
Roedd y Cyngor wedi derbyn y cynigion ac wedi cymryd camau i fynd i'r afael
â hwy. Roedd Sir Ddinbych yn parhau i weithio drwy gynllun
gweithredu i fynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd yn y gwasanaeth AD, ac roedd
Grŵp Gorchwyl yn cael ei sefydlu i adolygu amcanion mewn perthynas â’r
mater tai fforddiadwy,
Cyfeiriodd Cynrychiolydd SAC at baragraff 30 o'r
adroddiad a oedd yn dangos bod lefel y cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir
gan ysgolion yn Sir Ddinbych wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod 2012/13 i £2.9m. Mewn ymateb i
awgrym gan y Cynghorydd M.L. Holland, cytunodd y Pwyllgor y byddai’r mater yn
ymwneud â balansau ysgolion yn cael ei gyfeirio at y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Archwilio i'w ystyried.
Cododd y Cynghorydd
M.L. Holland faterion yn ymwneud â'r adrannau canlynol yn yr adroddiad: -
17. Y rhesymau dros y cais
aflwyddiannus am gyllid Llywodraeth Cymru o’r Gronfa Llefydd Llewyrchus Llawn
Addewid i gefnogi mentrau yn y Rhyl.
45. A oedd unrhyw batrwm i'r
achosion a gofnodwyd o dipio anghyfreithlon a oedd yn uwch na'r cyfartaledd ar
gyfer Cynghorau eraill yng Nghymru.
52. Materion
cofrestru yn y Sir o ran tai fforddiadwy.
Rhoddodd Cynrychiolydd SAC grynodeb o lythyr Gwaith Archwilio Perfformiad a
Ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru, 2014/15, a darparodd ymatebion i gwestiynau
gan Mr P. Whitham mewn perthynas â gwaith archwilio perfformiad SAC 2014/15,
Llywodraethu.
Hysbyswyd yr Aelodau y byddai SAC yn cysylltu gyda'r swyddogion perthnasol
ac yna’n adrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Byddai'r gwaith
yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn a byddai'n ffurfio rhan o'r
Adroddiad Gwella Blynyddol nesaf.
Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio Mewnol at y Cynllun Archwilio a oedd yn
cynnwys gwaith sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol ysgolion a byddai'r adroddiad
hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd eglurodd y Cadeirydd fod eitem yn ymwneud
ag Adnoddau Dynol Strategol wedi ei chynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar
gyfer 3 Medi 2014, ac roedd Gweithdy wedi ei drefnu mewn perthynas â Thai
Fforddiadwy.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn
nodi cynnwys yr Adroddiad Gwella Blynyddol.
(b)
yn derbyn ac yn
nodi llythyr Gwaith Archwilio Perfformiad a Ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru,
2014/15, a
(c)
bod y mater yn
ymwneud â balansau ysgolion yn cael ei gyfeirio at y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Archwilio i'w ystyried.
Dogfennau ategol:
- WAO Ann Imp Report, Eitem 7. PDF 99 KB
- WAO Ann Imp Rep App 1, Eitem 7. PDF 1 MB
- WAO Ann Imp Rep App 2 (Fees Letter), Eitem 7. PDF 174 KB