Eitem ar yr agenda
GWEITHGARWCH CYN AROLWG MEWN YMATEB I ADRODDIAD ESTYN AR ANSAWDD GWASANAETHAU ADDYSG YR AWDURDOD LLEOL I BLANT A PHOBL IFANC YN SIR DDINBYCH.
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau ynghylch cynnydd a wnaed
wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn dilyn arolwg 2012.
9.35 a.m. 10.10 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar y cynnydd a
wnaed wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn dilyn arolwg 2012 ers yr
adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Ionawr 2014.
Atgoffwyd yr Aelodau am ganlyniad cadarnhaol yr
arolwg gyda dim ond dau argymhelliad ar gyfer gwella ymhellach -
(1)
Gwella cywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3
(2)
Adnabod pob gwasanaeth plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych a sefydlu system
effeithiol i fesur effaith y gwasanaethau hyn i gynorthwyo’r Awdurdod a’i
bartneriaid i benderfynu a yw’r gwasanaethau hyn yn cynnig gwerth am arian.
Adroddodd
y Pennaeth Addysg am y gwaith a wnaed i fynd i'r afael â'r argymhelliad cyntaf
ac roedd yr aelodau'n falch o nodi bod y canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 a
ddilyswyd yn dangos bod yr argymhelliad hwn wedi derbyn sylw. Roedd y Dangosydd Pwnc Craidd wedi codi am y seithfed
flwyddyn yn olynol - gan godi o 75% yn 2013 i 83.3% yn 2014. Roedd yn bwysig i'r Cyngor sicrhau bod canlyniadau
disgyblion ar ddiwedd addysg gynradd ac uwchradd yn cael eu cynnal a'u gwella. Yng ngoleuni'r canlyniadau gwell cytunodd y
Pwyllgor y gellid monitro'r argymhelliad hwn yn y dyfodol drwy archwilio
canlyniadau arholiadau allanol ac asesiadau athrawon bob blwyddyn, sef rhywbeth
y mae’r Pwyllgor yn ei wneud yn yr hydref bob blwyddyn.
Eleni
byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Hydref y Pwyllgor, a
byddai cynrychiolydd o GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol) hefyd yn
bresennol i gyflwyno adroddiad blynyddol ar gynnydd.
Wrth
ymateb i faterion a godwyd gan yr Aelod Cyfetholedig Dawn Marjoram, cadarnhaodd
y Pennaeth Addysg fod ysgolion arbennig yn cael eu cefnogi yn yr un modd o ran
archwilio a systemau ar waith, ond nid yw data yn cael ei fesur yn erbyn
ysgolion prif ffrwd. Roedd yn derbyn bod anawsterau o ran y
data cymharol ac yn cydnabod bod ysgolion arbennig yn gweithio'n galed i
olrhain cynnydd disgyblion.
Derbyniodd
y Pwyllgor fod yr ail argymhelliad yn llawer mwy anodd i'w ddiffinio a’i fesur. Dywedodd y Swyddogion, mewn ymgais i fynd i'r afael â'r
argymhelliad hwn fod ymarfer mapio ar y gweill i lunio cronfa ddata o
wasanaethau i blant a phobl ifanc yn y sir ac i nodi unrhyw fylchau yn y
ddarpariaeth. Codwyd pryderon ynghylch y diffyg darpariaeth yn ardal
Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer y rhai sydd ag anghenion arbennig a chytunodd
swyddogion i ystyried y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion
arbennig yn yr ardal honno, gan gynnwys opsiynau i'w cynnwys mewn
gweithgareddau plant ac ieuenctid presennol.
Byddai
holiaduron yn cael eu cwblhau gan y sefydliadau ym mhresenoldeb swyddogion y
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a fyddai'n pwysleisio'r angen am atebion
onest am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gallai
unrhyw fylchau a nodwyd gael eu hystyried ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Wrth ymateb i gwestiynau pellach ymhelaethodd y
swyddogion ar y broses fonitro sydd ar waith, cyfranogiad sefydliadau partner
eraill o fewn y broses a'r amserlenni ar gyfer casglu a dadansoddi data. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd hyrwyddo argaeledd
gwasanaethau a chytunwyd i dderbyn adroddiad pellach ar ôl i'r gwaith mapio
gael ei gwblhau.
PENDERFYNWYD -
(a) nodi’r wybodaeth a
ddarparwyd o ran cynnydd wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn;
b) yn sgil y gwelliant a gynhaliwyd yng nghywirdeb asesiadau athrawon ar
ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, nid oedd angen adroddiadau annibynnol pellach ar y
mater hwn. Yn y dyfodol byddai’r agwedd hon yn cael
ei monitro drwy'r adroddiad blynyddol a gyflwynir i'r Pwyllgor ar ganlyniadau
arholiadau allanol ac asesiadau athrawon, ac
(c) unwaith y bydd y gwaith mapio wedi ei gwblhau, bod adroddiad pellach yn
cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn 2015 yn amlinellu canlyniadau'r
gwaith hwnnw a chynigion ar sut y gellid mesur effaith a gwerth am arian y
gwasanaethau i blant a phobl ifanc ar draws y sir.
Dogfennau ategol: