Eitem ar yr agenda
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16
Ystyried
adroddiad ac Atodiad Cynrinachhol gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi wedi’i
amgáu) sy'n rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer
2015/16.
Cofnodion:
Roedd adroddiad, ac atodiad cyfrinachol, gan y
Pennaeth Cyllid ac Asedau, a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r
gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, wedi ei ddosbarthu eisoes.
RHAN II
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD - dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a
ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraffau 14 a 15, Rhan 4, Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972.
Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill bod diweddariad pellach wedi'i
ddarparu i sesiwn Friffio’r Cabinet a bod pob cyfarfod cyllideb Rhyddid a
Hyblygrwydd wedi ei gwblhau. Fodd bynnag, roedd elfennau o'r Adran Amgylchedd a
Phriffyrdd wedi eu gohirio. Roedd y rhestr o gyfarfodydd wedi eu cynnwys yn
Nhabl 2 yn yr adroddiad, a byddai cam nesaf y broses yn cynnwys y tri Gweithdy
Cyllideb i Aelodau. Roedd manylion digwyddiadau, dyddiadau a statws
allweddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Ym mhob cyfarfod, roedd dadansoddiad manwl o'r gyllideb gwasanaeth wedi ei
ystyried a set o ganlyniadau wedi’u cytuno. Roedd enghraifft o'r
dadansoddiad gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n ymwneud â Gwasanaethau Oedolion a
Busnes wedi ei hamgáu fel Atodiad 1 ac Atodiad 2. O'r canlyniadau, roedd cyfres
o daflenni gwybodaeth manwl wedi eu cynhyrchu i amlygu ystod ac amseriad
arbedion posibl, yr effaith, risgiau a gofynion ymgynghori a awgrymir, gydag
enghraifft wedi'i chynnwys yn Atodiad 3. Cadarnhaodd y Cynghorydd
Thomson-Hill y byddai manylion yn ymwneud â phob un o'r gwasanaethau priodol yn
cael eu darparu yng Ngweithdai’r Gyllideb i Aelodau, a amlinellwyd manylion y
broses i'w mabwysiadu.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, eglurwyd y byddai'r wybodaeth i gael
ei chyflwyno i weithdai’r gyllideb ym mis Gorffennaf yn seiliedig ar yr
atodiadau amgaeedig, a fyddai'n rhoi manylion pob un o'r gwasanaethau
perthnasol. Byddai barn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol,
mewn perthynas â fformat a manylder y wybodaeth a gynhwysir yn yr atodiadau, yn
allweddol o ran llywio'r broses wrth iddi barhau i ddatblygu.
Darparodd y PG yr ymatebion canlynol i gwestiynau a godwyd gan Aelodau:-
-
O ran Atodiad 1 a’r ffaith fod y golofn "canran bras
yr adnoddau a ddyrennir i gydran" wedi ei gadael yn wag, roedd dau ddull
gwahanol wedi eu mabwysiadu ar gyfer y ddau ymarfer peilot. Eglurwyd nad
oedd y ffordd yr oedd y gyllideb wedi ei strwythuro bob amser wedi rhoi
adlewyrchiad clir o'r gweithgaredd a bod y farn hon wedi ei gadael i
Benaethiaid Gwasanaeth.
-
Nodwyd pryderon a fynegwyd mewn perthynas ag anghysondeb
y manylion a ddarparwyd mewn perthynas â'r ffigurau a gynhwyswyd o dan wahanol
benawdau a gwasanaethau. Teimlai Mr Whitham y dylai sylw neu eglurhad gael
ei gynnwys at ddibenion eglurder.
-
Cytunodd y PG i edrych ar y posibilrwydd o ddarparu
manylion i Weithdai’r Aelodau ar raniad grant ac incwm arall. Pwysleisiodd yr
Aelodau bwysigrwydd cael gwybod am ffynhonnell incwm ar gyfer darpariaeth gwasanaeth
a'i gynaliadwyedd.
-
Hysbyswyd yr Aelodau, er bod nifer o fodiwlau o'r system
PARIS yn gweithredu'n foddhaol, nad oedd y modiwl cyllideb wedi ei gyflwyno
eto.
-
Cyfeiriodd y Cynghorydd M.L. Holland at yr angen i
sicrhau bod unrhyw systemau newydd a gyflwynir yn cael eu defnyddio’n llawn gan
y Cyngor, cymeradwyodd y PG y farn bod adolygiad o reolaeth y Cyngor o systemau
a phrosesau TG yn cael ei wneud, o bosibl gyda throsolwg y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol.
-
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G.M.
Kensler mewn perthynas â materion Hawliau Lles, eglurodd y PG mai un o'r
canlyniadau oedd cynnal adolygiad o grantiau a delir drwy’r gyllideb Gofal
Cymdeithasol.
-
Cyfeiriodd Mr P. Whitham at reolaeth yr elfen risg o’r
posibilrwydd na fydd y Cyngor yn gallu bodloni disgwyliadau'r cyhoedd yn y
dyfodol yn wyneb y gostyngiad o ran adnoddau sydd ar gael, a'r angen i roi
gwybod i'r cyhoedd am yr amgylchiadau i liniaru unrhyw risg yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd gofynnodd y Cadeirydd bod yr Aelodau yn
cael copïau papur o'r adroddiadau sydd i'w cyflwyno i'r Gweithdai Aelodau.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.
Ailddechreuodd y Pwyllgor RHAN I ar yr adeg hon yn y cyfarfod.
RHAN I
Dogfennau ategol:
- Budget Process Report, Eitem 5. PDF 230 KB
- Budget Process App 1, Eitem 5. PDF 58 KB
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./3 yn gyfyngedig
- Budget Process App 3, Eitem 5. PDF 29 KB