Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi wedi’i
amgáu) ar gasgliadau'r Gweithgor Strategaeth Priffyrdd a Strategaeth Rheoli
Asedau Priffyrdd drafft.
11.30 a.m. – 12.05 p.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
a oedd yn amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf o ran rhwydwaith ffyrdd y Sir ac yn
disgrifio sut y byddai'r cyflwr yn cael ei reoli yn y dyfodol, wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y PPGA yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ddiweddaraf o
ran y gwaith cynnal a chadw adweithiol ac ataliol ar rwydwaith ffyrdd y Sir. Yr adroddiad oedd
y cam nesaf yn dilyn trafodaeth gydag Aelodau mewn cyfarfod o’r Gweithgor
strategaeth ar 10 Hydref 2013 yn dilyn adroddiad i'r Pwyllgor Craffu Cymunedau
ym mis Gorffennaf 2013.
Amlygwyd pwysigrwydd asesu a gwerthuso’r manteision sy'n deillio o'r buddsoddiad
sylweddol i wella cyflwr y ffordd yn iawn. Roedd y ddau ddull ar
gyfer gwneud hyn yn cynnwys y data Sganiwr, a gynhyrchodd y Dangosydd
Perfformiad, a'r Dangosydd Cyflwr Ffyrdd (DCFf). Roedd manylion pob un o'r prosesau wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad.
Roedd Atodiad A yn manylu
perfformiad cyffredinol Sir Ddinbych o ran allbwn Sganiwr ac, ar gyfer
cyd-destun, yn cynnwys safle cymharol y Sir o ran y 'Grŵp Teulu'. Roedd hefyd yn
dangos gwelliant parhaus yn y DCFf, ymddangosiad gweledol y ffordd. Nododd yr Aelodau bod gwelliannau wedi'u gwneud a'u
cynnal.
Ers nodi ffyrdd fel blaenoriaeth ar gyfer 2009/10 roedd Sir Ddinbych wedi
buddsoddi dros £18miliwn ac roedd manylion y dyraniad cyllid wedi’i grynhoi yn
yr adroddiad. Eglurwyd y byddai cytundeb y Rhaglen Gyfalaf i
gynnal y rhwydwaith yn briodol yn hollbwysig, ac roedd yr adroddiad yn
archwilio senarios i reoli asedau i liniaru'r risgiau. Roedd pob
awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweithio gydag ymgynghorwyr i adeiladu ar arfer
gorau. Roedd Atodiad B yn darparu ystod o ffyrdd tebygol
a'r mwyaf darbodus i reoli'r risg. Roedd Cod Ymarfer yn
caniatáu ar gyfer amrywiad yn y gyfundrefn a byddai Sir Ddinbych angen cytuno
ar yr hyn y dylai'r drefn fod o ran rhwydwaith blaenoriaethu a sut y dylai'r Awdurdod
Priffyrdd ei reoli. Mae Atodiad
C yn rhoi enghraifft o sut y gall y rhwydwaith gael ei flaenoriaethu a
phwysleisiwyd pwysigrwydd ymgynghori.
Ers y Ddeddf Priffyrdd 1980, roedd cyfraith achosion wedi egluro rhai
pwyntiau sy’n ymwneud ag amlder archwiliadau priffyrdd, diffiniad o 'ddiffyg' a
faint o amser y gallai priffordd gael ei gadael heb ei hatgyweirio. Fodd bynnag,
roedd yna dal rywfaint o hyblygrwydd a byddai angen diffiniad o lefel LLEIAF
cynnal a chadw Sir Ddinbych. Roedd Atodiad D yn cynnig rhai cynigion fyddai
angen trafodaeth cyn cytuno ar Bolisi Cynnal a Chadw Priffyrdd.
Eglurodd swyddogion ei fod yn galonogol adrodd bod perfformiad y Sir yn
gwella, yn enwedig yn erbyn cefndir o doriadau mewn cyllid gan Lywodraeth
Cymru. Hysbyswyd yr Aelodau gyda Menter Benthyca Llywodraeth Leol (MBLlL) yn
dod i ben ym mis Mawrth, 2015 roedd yna benderfyniadau anodd angen eu gwneud o
ran buddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd yn y dyfodol. Byddai angen
gwario adnoddau prin yn ddoeth ac mewn ffordd wedi'i thargedu. Oni bai fod hyn
yn cael ei wneud byddai cyflwr y ffyrdd yn dirywio yn gyflym iawn.
Tynnwyd sylw at yr angen i archwilio dosbarthiad rhai llwybrau yn y
dyfodol. Byddai Gweithdy Aelodau yn cael ei gynnal gyda'r
bwriad o ddiffinio proses flaenoriaethu cynnal a chadw priffyrdd ac esbonio a
deall egwyddorion cynnal a chadw ffyrdd. Cadarnhaodd y PPGA y
byddai cael proses flaenoriaethu cynnal a chadw ffyrdd a ddiffiniwyd yn dda yn
lleihau'r risg o hawliadau ymgyfreitha llwyddiannus yn erbyn yr Awdurdod. Eglurodd hefyd
y dylai polisi cynnal a chadw ffyrdd strwythuredig gwell, a fyddai'n cynnwys
proses flaenoriaethu wedi’i diffinio'n glir, sylweddoli gwerth am arian o'r
buddsoddiad a lleihau gwariant diangen. Darparwyd ymatebion gan
y swyddogion i gwestiynau’r Aelodau yn ymwneud â'r cynnig a materion o fewn eu
hardaloedd eu hunain.
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor:-
(a)
yn amodol ar yr
esboniadau uchod, yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran gwella’r
rhwydwaith priffyrdd ar draws y Sir.
(b) yn derbyn yr
egwyddorion o broses flaenoriaethu cynnal a chadw priffyrdd, a
(c) chytuno y
byddai cynnal gweithdai pellach yn fuddiol gyda golwg ar ddatblygu strategaeth
glir ar gyfer rhwydwaith ffyrdd y Sir a phroses blaenoriaethu gwaith cynnal a
chadw priffyrdd wedi'i diffinio'n dda.
Dogfennau ategol: