Eitem ar yr agenda
CYFLWYNO LLYWODRAETHU DA A GWELLIANT PARHAUS
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi wedi ei amgáu)
ar hunanasesu trefniadau llywodraethu a gwelliant y Cyngor ar gyfer 2013/14.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol
ynglŷn â’r adroddiad hunanasesu ar drefniadau llywodraethu a gwella'r
Cyngor ar gyfer 2013/14 wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw.
Roedd y Pwyllgor wedi
cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn flaenorol. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad hwn yn
disodli’r broses honno drwy gyfuno’r hunanasesiad llywodraethu a’r hunanasesiad
corfforaethol a wnaed yn flaenorol.
Eglurodd y Pennaeth
Archwilio Mewnol ei bod yn arfer da i ymgynghori'n eang ar yr hunanasesiad
gydag aelodau etholedig ac uwch reolwyr ac mai hyn yw cychwyn y broses
honno. Ystyrid bod datblygu 'datganiad
llywodraethu blynyddol' a oedd yn rhan o Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor yn arfer
da. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o
ddyblygu rhwng yr hunanasesiad yr oedd ei angen ar gyfer y datganiad
llywodraethu blynyddol a'r hunanasesiad corfforaethol a oedd yn canolbwyntio’n
fwy ar welliant parhaus. Mae’r dogfennau
bellach wedi cael eu cyfuno i ddarparu dull arloesol er mwyn arbed adnoddau a
darparu dull cydgysylltiedig o hunanasesu.
Roedd ymgynghori’n
digwydd gydag aelodau etholedig ac uwch reolwyr ynglŷn â fersiwn ddrafft,
a elwir yn 'Darparu llywodraethu da a gwelliant parhaus'. Fersiwn ddrafft gynnar oedd hon ac roedd
gwaith yn mynd rhagddo arni ac roedd angen trafodaeth bellach yn ei chylch, yn
enwedig gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Bydd y fersiwn derfynol yn cael ei llofnodi gan y Prif Swyddog
Gweithredol a’r Arweinydd erbyn 30 Mehefin 2014, a bydd yn cael ei chyflwyno
ger bron y Pwyllgor hwn ynghyd â'r Datganiad Cyfrifon. Roedd manylion am gyfraniad yr hunanasesu at
y Blaenoriaethau Corfforaethol, a'r broses ymgynghori, wedi cael eu hymgorffori
yn yr adroddiad.
Eglurodd y Pennaeth
Archwilio mewnol fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â
chynhyrchu Polisi Gwrth-dwyll a Llygredd a sut y byddai’n cael ei weithredu yn
y dyfodol, a fyddai'n ymgorffori newidiadau yn ymwneud â'r Ddeddf Llwgrwobrwyo.
Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wybod i’r Pwyllgor nad oedd y Polisi
Rhannu Pryderon wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol eto. Eglurodd fod Model Cyfansoddiad Cymru
Gyfan bellach wedi ei baratoi, a oedd yn
cynnwys Polisi Rhannu Pryderon, a byddai'n cael ei archwilio a’i gymharu yn
erbyn fersiwn ddrafft y Cyngor o Bolisi Rhannu Pryderon a fyddai'n cael ei
gyflwyno i'r Cyngor eleni fel rhan o'r adolygiad cyffredinol.
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd, codwyd y materion canlynol gan Mr P. Whitham a chafwyd ymateb
iddynt:-
-
Cyfeiriwyd
at Dudalen 97 yr adroddiad a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd datblygu
prosiectau allweddol yn cynnwys Gwasanaethau Caffael ac Adeiladu neu beidio.
-
Mewn
ymateb i gwestiwn gan Mr Whitham ynghylch darparu manylion ar ganllawiau’r
Cyngor ar gyfer adolygu Polisïau, eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol iddynt
fod wedi bwriadu cynnal adolygiad cyffredinol o Fframwaith Polisi’r Cyngor.
-
Cyfeiriwyd
at "adolygu'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ddwywaith y flwyddyn",
Tudalen 103 yr adroddiad, ac awgrymwyd y dylai hyn ddangos bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol wedi eu cynnwys.
-
Mynegwyd
pryder na wnaed cyfeiriad at Reoli Gwybodaeth fel maes o wendid llywodraethu
arwyddocaol, ac awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad at Hawl i Wybodaeth,
Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data ar dudalen 103 yr adroddiad. Amlygwyd hefyd yr angen am ddarparu
hyfforddiant mewn perthynas â Rheoli Gwybodaeth, a'r risgiau sy'n
gysylltiedig. Cytunodd y Pwyllgor y
dylid gofyn i Grŵp y Cadeiryddion
a’r Is-gadeiryddion edrych ar y posibilrwydd o archwilio arfer gorau wrth
ddelio â cheisiadau rhyddid gwybodaeth.
Cadarnhaodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cyfreithiol a Democrataidd bod y Rheolwr Gwybodaeth Gorfforaethol
wedi ysgrifennu at bob Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â derbyn
ceisiadau ailadroddus.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cynghorydd G.M. Kensler, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd y gellid archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu modiwlau e-ddysgu ar
gyfer Aelodau Etholedig ac y gallai hynny brofi’n fuddiol.
Cyfeiriodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru at sut mae’r adroddiad wedi cael ei
ysgrifennu ac eglurodd bod gofynion penodol gan Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) y mae’r Llywodraeth wedi eu defnyddio i
orchymyn cydymffurfiaeth a chynhwysiant o fewn y ddogfen. Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio Mewnol at
adroddiad y llynedd ac at y gwelliant o ran Adnoddau Dynol, ac yn enwedig,
Rheoli Gwybodaeth. Cyfeiriodd hefyd at
feysydd y dynodwyd bod angen eu gwella yn y Cynllun Gweithredu y gellid eu
cynnwys mewn Atodiad i fersiwn derfynol yr adroddiad.
Yn dilyn trafodaeth
bellach:
PENDERFYNWYD -
yn amodol ar y materion a godwyd gan yr Aelodau, bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys
a dull gweithredu newydd yr hunanasesiad cyfunol.
Dogfennau ategol:
- Deliver Good Gov & Improve Report, Eitem 10. PDF 74 KB
- Deliver Good Gov & Improve Appendix, Eitem 10. PDF 329 KB