Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG CAU YSGOL LLANBEDR O 31 AWST 2014 A THROSGLWYDDO'R DISGYBLION I YSGOL BORTHYN, RHUTHUN, YN DIBYNNU AR DDEWIS Y RHIENI.

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r penderfyniad a'r adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       nodi'r adroddiad penderfyniad a’r adroddiad gwrthwynebiad; ac

 

(b)       yn amodol ar ystyried yr uchod, bod y Cabinet yn  cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Llanbedr a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Borthyn, yn amodol ar ddewis y rhieni, ynghyd â ffactorau i'w hystyried cyn penderfynu ar y cynnig.

 

Eglurodd y Cynghorydd Williams y cyd-destun o adolygu ysgolion fel rhan o'r rhaglen moderneiddio addysg a’r prosesau statudol i'w dilyn.  Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ynghyd â'r dadleuon o blaid y cynnig a’r ffactorau a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.  Yn ystod y broses honno fe ofynnodd aelodau gwestiynau a gofynnwyd am sicrwydd ynghylch nifer o faterion.  Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd -

 

·        ystyriwyd Ysgol Borthyn yn gynaliadwy dros y tymor hir ac wedi’i nodi fel ysgol arall (ond yn ysgol cyfrwng Saesneg a seiliedig ar ffydd) - dim ond un ymatebydd oedd wedi cadarnhau’r ysgol fel eu  dewis cyntaf ar hyn o bryd

·        cafodd camau'r broses adolygu eu hesbonio a rhoddwyd sicrwydd bod yr holl ysgolion yn ardal Rhuthun wedi eu trin yn gyfartal gyda chanlyniadau gwahanol yn dibynnu ar amgylchiadau penodol sy'n berthnasol i bob ysgol

·        cafodd y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig ar gyfer Ysgol Llanbedr ei egluro yn ogystal â’r meini prawf a ddefnyddir i ystyriaeth, a’r angen i fynd i'r afael â lleoedd dros ben a rhesymoli ystâd ysgolion er mwyn cael gafael ar gyllid cyfalaf ac i fuddsoddi mewn ysgolion

·        hyd yn oed pan fydd capasiti llawn (54 disgybl) nid oedd yr ysgol yn cael ei ystyried yn gynaliadwy gyda darpariaeth addas amgen 2.1 milltir i ffwrdd

·        sicrhawyd fod yr holl ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o'r broses ymgynghori wedi eu cymryd i ystyriaeth ac wedi dilyn proses briodol

·        rhoddwyd ystyriaeth i lefelau cyrhaeddiad a oedd yn gyffredinol dda ar draws holl ysgolion ardal Rhuthun; credwyd na fyddai safonau’n dioddef o ganlyniad i'r cynnig a bod y Cyngor yn ymdrechu i wella’n barhaus.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn y cynnig a dywedodd fel a ganlyn -

 

·        teimlodd bod cyfeiriad (o fewn yr adroddiad penderfyniad) i'r dyraniad o £8,400 at Neuadd Bentref Llanbedr yn annheg a dylid ei dynnu’n ôl

·        roedd rhieni’n teimlo nad oeddent wedi derbyn digon o wybodaeth am ysgolion eraill i fynegi eu dewis.

·        dylid archwilio’r opsiwn o ffedereiddio’r ysgol ymhellach

·        er bod lleoedd dros ben yn Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras roedd materion diogelwch o ran rheoli traffig a fyddai'n gwaethygu pe bai disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgolion hynny

·        Pennaeth Addysg wedi sicrhau'r Corff Llywodraethol ym Mawrth 2012 nad oedd unrhyw fwriad i gau'r ysgol

·        gofynnwyd os fyddai cyfleuster gofal plant 'Munchkins' yn cael ei ddiogelu pe bai'r ysgol yn cau

·        gofynnwyd os oedd cyswllt wedi’i wneud â’r Esgobaeth am gyllid.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol -

 

·        cyfeiriwyd at ddyfarnu cyllid at Neuadd Bentref Llanbedr er mwyn ymateb i’r cwestiynau a godwyd ynghylch effaith ar y gymuned

·        darparwyd gyd-destun y drafodaeth a gafwyd gyda'r Corff Llywodraethol yn 2012 er mwyn cefnogi'r ysgol ac i roi sefydlogrwydd ar amser cyn ymrwymo’r ysgol i achos o adolygiad

·        Roedd 'Munchkins' yn fusnes preifat yn gysylltiedig â'r ysgol ac roedd gwerth y ddarpariaeth honno wedi’i gydnabod - byddai swyddogion yn gweithio gydag ysgolion eraill yn Rhuthun i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu gofal di-dor ar gyfer disgyblion

·        yn ystod y drafodaeth gyffredinol ar adolygiadau ffydd roedd yn amlwg nad oedd gan yr Esgobaeth y cyfalaf i fuddsoddi mewn ysgolion.

 

Roedd y Cynghorydd Dewi Owens yn credu bod y cynnig yn gynamserol oherwydd gall nifer y disgyblion gynyddu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Amlygodd y Cynghorydd Merfyn Parry fod rhai rhieni eisiau i'w plant dderbyn eu haddysg mewn ysgol wledig.  Dywedodd swyddogion nad oedd dewis o’r fath yn flaenoriaeth sylfaenol i’w ystyried a bod y cyngor wedi darparu cyfuniad o Ysgolion Gwledig a Thref pam fo hynny'n gynaliadwy.  Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn poeni ynglŷn â’r ansicrwydd ar gyfer disgyblion a dywedwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mehefin ynghylch cyllid cyfalaf ar gyfer canlyniad yr adolygiad, ond byddai yna dal rhai pethau anhysbys o ran yr amserlen ar gyfer ysgol newydd Rhuthun.

 

Amlygodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y ffactorau perthnasol sy’n rhaid eu hystyried wrth gymeradwyo a phenderfynu ar gynigion, ynghyd â gofynion A.53 o'r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i’r aelodau ystyried y cynnig gyda meddwl agored ac ystyried gwrthwynebiadau ochr yn ochr â dadleuon ar gyfer y cynnig.  Roedd Cabinet yn fodlon bod y ffactorau perthnasol wedi eu hystyried drwy gydol y broses a bod gofynion A.53 o’r Ddeddf wedi eu bodloni wrth benderfynu ar y cynnig.

 

Wrth symud yr argymhelliad fe dynodd y Cynghorydd Eryl Williams sylw at y penderfyniadau anodd sy'n ofynnol er mwyn symud yr agenda moderneiddio addysg a sicrhau addysg o'r safon orau yn y dyfodol.  Cefnogodd y Arweinydd yr argymhelliad gan ychwanegu bod yr adolygiad yn gyfle i reoli lleoedd gwag ac i foderneiddio ysgolion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi'r adroddiad o’r penderfyniad a’r adroddiad o’r gwrthwynebiad, ac

 

(b)       yn dilyn ystyriaeth i’r uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2014 gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni.

 

[Ni chymerodd y Cynghorydd Hugh Irving unrhyw ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd wedi bod yn bresennol trwy gydol yr achos cyfan.]

 

Yn y fan hon (10.55am) cafwyd egwyl yn y cyfarfod ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: