Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN GWEITHREDU ESTYN

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi'n amgaeedig) sy'n rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn dilyn arolwg 2012.

                                                                                                         9.35 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Addysg (PA), a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn dilyn arolwg 2012, eisoes wedi'i ddosbarthu.

 

Rhoddodd y PA grynodeb o'r adroddiad a chadarnhaodd fod prif ganfyddiadau Adroddiad Estyn yn dangos bod yr Awdurdod wedi cyflawni 'Da' ar gyfer y tri chwestiwn allweddol a oedd yn cynnwys Pa mor dda yw deilliannau, darpariaeth ac arweinyddiaeth a rheolaeth.  Roedd yr holl ddangosyddion eraill hefyd wedi derbyn safon ‘Da’ gydag 3.1 ‘Arweinyddiaeth’ a dderbyniodd safon ‘Ardderchog’. 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Estyn wedi gwneud dau argymhelliad: -

 

-                  Argymhelliad 1: Gwella cywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3; ac

 

-                  Argymhelliad 2: Mewn perthynas â’r Rhaglen Partneriaeth ac adnabod pob gwasanaeth plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych a sefydlu system effeithiol i fesur effaith y gwasanaethau hyn i gynorthwyo’r Awdurdod a’i bartneriaid i benderfynu a yw’r gwasanaethau hyn yn cynnig gwerth am arian.

 

Roedd y cynnydd hyd yma yn erbyn y ddau argymhelliad, wedi’i nodi yn yr atodiadau i'r adroddiad.  Roedd yr Awdurdod ar hyn o bryd ar groesffordd wrth ymateb i'r argymhellion o ganlyniad i gyfuniad o'r rhaglen  effeithlonrwydd, y gwaith cydweithio rhanbarthol a chynlluniau ar gyfer asesiad Estyn yng nghyd-destun y newidiadau sydd ar y gweill yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Yn ystod y chwe mis nesaf byddai'r swyddogion yn gwerthuso'r gwaith a wnaed hyd yn hyn, asesu ei effeithiolrwydd ac adolygu ymagwedd yr Awdurdod tuag at gyflawni'r argymhellion yn ôl yr adnoddau sydd ar gael, ac eglurwyd bod rhai o'r gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc a holwyd gan Estyn yn 2012 yn awr yn ddarostyngedig i'r rhaglen arbedion effeithlonrwydd.  Amlygwyd pwysigrwydd yr angen i gydnabod y newid yn y broses arolygu gan y PA, gan gyfeirio'n benodol at rôl y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol.

 

Cafwyd cadarnhad bod gwella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ysgolion yn un o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2012-17, a thrwy fonitro cyflwyno'r Cynllun Gweithredu gallai'r Pwyllgor gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni rhan o'r uchelgais uchod.  Er mwyn lleihau unrhyw risgiau i gefnogaeth a her ysgolion yn ysgolion Sir Ddinbych, byddai swyddogion yn monitro ac asesu ansawdd y gefnogaeth ranbarthol oddi wrth GwE.  Byddai cyfle i gryfhau'r broses safoni ar gyfer Asesiadau Athrawon CA3, a dylai hyn wella ansawdd y safoni allanol, sicrhau dilyniant a chydraddoldeb Asesiadau Athrawon ar draws Gogledd Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, awgrymwyd bod yr adroddiad monitro nesaf yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar ddiwedd tymor yr haf 2014.  Cytunodd y Pwyllgor a gofynnodd i’r adroddiad gynnwys manylion am y camau a gymerwyd gan yr Awdurdod i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â gwella cywirdeb asesiadau athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3 a'u heffeithiolrwydd o ran cyrraedd y nod hwn, ynghyd â thystiolaeth bod GwE yn defnyddio Moodle i gynnal deunyddiau enghreifftiol (PDF) â lefelau yn yr holl bynciau a lefelau, a hefyd canlyniadau'r archwiliad sy’n mynd rhagddo o’r holl wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y Sir ac effeithiolrwydd y system a sefydlwyd i fesur effaith a gwerth am arian y gwasanaethau hynny ar blant a phobl ifanc y Sir.

 

Atebodd y PA i gwestiynau gan Dr Marjoram ac eglurodd y byddai manylion o'r gwelliannau i fynd i'r afael â'r diffygion yng nghywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf, a byddai hyn yn cynnwys mesuriadau ar gyfer gwella a pherfformiad ym mhob un o'r Cyfnodau Allweddol.  Rhoddodd hefyd sicrwydd na fyddai ardaloedd gwledig yn ysgwyddo baich y toriadau arfaethedig yn y gyllideb, gan fod y Cyngor yn canolbwyntio ar ddileu gwaith seilo a sicrhau y caiff y gwasanaeth gorau ei ddarparu ar gyfer yr holl drigolion ar draws y Sir.

 

Mynegodd y Cynghorydd C. Hughes y farn y dylid cyflwyno’r adroddiad mewn perthynas â'r Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella (GWE) Ysgolion Rhanbarthol yn i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.  Esboniodd y Cydlynydd Archwilio fod Grŵp y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi dyrannu mater hwn i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau i’w ystyried, a chadarnhaodd y gallai aelodau etholedig a chyfetholedig fod yn bresennol yn y cyfarfod.  Byddai hefyd croeso i aelodau nad ydynt ar y Pwyllgor fynychu.   Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD:-

 

(A) yn amodol ar y sylwadau a wnaed, bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn.

(B) bod y Pwyllgor yn parhau i fonitro gweithrediad y Cynllun Gweithredu yn rheolaidd tan arolwg nesaf Estyn o ddarpariaeth gwasanaethau addysg yr Awdurdod.

(C) bod yr adroddiad monitro nesaf yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar ddiwedd tymor yr haf 2014.

(d) bod yr adroddiad yn cynnwys manylion am y camau a gymerwyd gan yr Awdurdod i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â gwella cywirdeb asesiadau athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3 a'u heffeithiolrwydd o ran cyrraedd y nod hwn, ynghyd â thystiolaeth bod GwE yn defnyddio Moodle i gynnal deunyddiau enghreifftiol (PDF) â lefelau yn yr holl bynciau a lefelau, a

(E) bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys canlyniadau'r archwiliad sy’n mynd rhagddo o’r holl wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y Sir ac effeithiolrwydd y system a sefydlwyd i fesur effaith a gwerth am arian y gwasanaethau hynny ar blant a phobl ifanc y Sir.

 

 

Dogfennau ategol: