Eitem ar yr agenda
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CA4
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Effeithiolrwydd Perfformiad Ysgol: Uwchradd (copi
amgaeedig) sy’n manylu ar berfformiad canlyniadau arholiadau allanol ysgolion
Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.
10.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Swyddog Effeithiolrwydd Perfformiad Ysgol: Uwchradd (SEPO: S), a
oedd yn manylu ar berfformiad canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir
Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod.
Darparodd y SEPO:S grynodeb o'r adroddiad a
oedd yn dadansoddi canlyniadau yn erbyn gwybodaeth a pherfformiad a feincnodwyd
yn erbyn Awdurdodau Lleol eraill (ALl) ac yn darparu gwybodaeth ynglŷn â
pherfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych. Roedd y rhan fwyaf o'r
dangosyddion allweddol yn CA4 ar gyfer cymwysterau allanol wedi gwella. Fodd bynnag, mae'r
trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg wedi gostwng ychydig
oedd wedi effeithio ar y Dangosydd Pwnc Craidd (DPC). Roedd Safleoedd Asesiadau
ac Arholiadau ar gyfer 2011/13 wedi eu cynnwys yn yr adroddiad
Eglurodd mai un o'r dangosyddion perfformiad
allweddol ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 oedd y Trothwy Lefel 2 gan gynnwys
Saesneg, Cymraeg a Mathemateg ac roedd data a gwybodaeth briodol wedi eu
cynnwys yn Atodiad 1. Roedd manylion yr ystadegau Trothwy Lefel 2 yn ymwneud ag
ysgolion unigol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â chanlyniadau dros dro
Lefel 2 ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych.
Roedd manylion y Bandiau Uwchradd wedi cael eu
darparu a chadarnhaodd y SEPO:S nad oedd unrhyw ysgolion Sir Ddinbych ym
mandiau is 4 a 5 yn 2013. Roedd sgôr bandio gyfartalog yr ALl yn rhoi Sir
Ddinbych y pumed yng Nghymru yn 2013 i lawr o ail yn 2012. Y dangosydd
perfformiad ar gyfer ôl-16 oedd Trothwy Lefel 3, a oedd wedi parhau'n
ddigyfnewid ar 96.8% am y tair blynedd diwethaf, yn uwch na chyfartaledd Cymru
o 96.5% ac yn rhoi Sir Ddinbych y nawfed yng Nghymru. Roedd canlyniadau
Lefel A wedi gwella yn ysgolion uwchradd Sir Ddinbych fel y manylir yn Atodiad
2 i'r adroddiad.
Roedd nifer disgyblion Sir
Ddinbych a oedd wedi’u cofrestru ar gyfer cymwysterau ôl-16 wedi cynyddu yn
2013 i 463 o’u cymharu â 439 yn 2012. Roedd y gwelliant yng nghanlyniadau CA4 a
gwaith partneriaeth ôl-16 wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Roedd myfyrwyr
Chweched y Rhyl wedi cyflawni 94% ar gyfer Trothwy Lefel 3 o’u cymharu â 97% o
ddisgyblion o ysgolion uwchradd Sir Ddinbych. Fodd bynnag, nid oedd y canlyniadau hyn wedi cyfrannu at
ddangosyddion yr ALl.
Darparwyd yr ymatebion canlynol gan y swyddogion i gwestiynau a materion a
godwyd gan Aelodau:-
-
Ymatebodd y SEPO:S a’r
PA i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G. Sandilands ac esboniodd y rhesymau
dros y dirywiad mewn cyrhaeddiad yn Ysgol Uwchradd Prestatyn. Cadarnhawyd bod
gostyngiad wedi’i ragweld, a bod cymorth ychwanegol wedi ei ddarparu i'r ysgol
i liniaru'r risg. Fodd bynnag, roedd y dirywiad wedi bod yn fwy na'r
disgwyl. Serch hynny roedd y swyddogion yn hyderus y byddai
gwelliannau o ran canlyniadau yn cael eu cyflawni drwy weithio'n agos gyda'r
Pennaeth.
-
Hysbyswyd yr Aelodau bod y dull Her Llundain yn cael ei
ddefnyddio o fewn ysgolion y sir fel ag yr oedd ymgynghorwyr, gyda'r bwriad o
weithio gyda Phenaethiaid a Phenaethiaid Adrannau i gyflawni gwelliannau
cyflym.
-
Cyfeiriodd y
Cynghorydd D. Owens at y gwelliannau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Eglurodd y PA fod yr Ysgol wedi bod yn
uchelgeisiol a bod llawer o'r llwyddiant a gyflawnwyd wedi deillio o
arweinyddiaeth y Pennaeth a gwaith effeithiol yr Ysgolion Cynradd yn ardal y
Rhyl.
-
Esboniodd SEPO:S bod y
problemau a gafwyd yn St Ffraid, Dinbych, gan arwain at ostyngiad o 7%, wedi
deillio o faterion yn ymwneud â mathemateg:. Cyfeiriodd at y gwaith
cymwys a wnaed gan y Pennaeth Dros Dro a'r gefnogaeth a ddarparwyd ar gyfer yr
ysgol, yn enwedig yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
-
Mynegodd y Cynghorydd
C. Hughes bryder am yr ystadegau meincnodi mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd
Dinbych. Eglurodd y PA bod meysydd sy'n peri pryder yn Ysgol Uwchradd Dinbych yn
ymwneud â materion cwricwlwm hanesyddol. Cadarnhawyd bod y Pennaeth wedi gweithio'n agos gyda
Phenaethiaid yr ysgolion cynradd porthi i gymryd y camau priodol i wella
safonau a'r dangosyddion perthnasol.
-
Cyfeiriodd Dr D.
Marjoram at y gwaith da sy'n cael ei wneud yn yr ysgolion arbennig o ran
canlyniadau arholiadau a chymwysterau a gyflawnwyd. Fodd bynnag, mynegodd
bryder nad oedd gan Lywodraeth Cymru (LlC) unrhyw fethodoleg ar gyfer graddio
ysgolion arbennig.
-
Mewn
ymateb i faterion a godwyd gan yr Aelodau, gofynnodd y Pwyllgor am ddata, ar
ffurf adroddiad gwybodaeth, ar ganlyniadau arholiadau ac asesiadau athrawon ar
ddisgyblion sy'n mynychu Ysgolion Arbennig y Sir, disgyblion ag anghenion dysgu
ychwanegol sy’n mynychu addysg prif ffrwd, disgyblion a addysgir yn y cartref,
plant/ pobl ifanc a leolir y tu allan i'r Sir, a'r rhai sy'n mynychu ysgolion
arbenigol y tu allan i'r Sir.
Ymatebodd y
Cynghorydd E.W. Williams i gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands a rhoi
manylion am y ddarpariaeth cyllid arfaethedig ar gyfer gwasanaethau addysg yng
ngoleuni'r toriadau yn y gyllideb.
Cyfeiriodd at y ddarpariaeth
yn y gyllideb i ddiogelu gwelliant tymor hir mewn ysgolion a thynnodd sylw at y
pwysigrwydd a’r angen i fonitro a chynnal perfformiad yn ysgolion Sir Ddinbych.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl:
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor:-
(a) yn
amodol ar sylwadau'r Aelodau, yn derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.
(b) gofyn
am ddata, ar ffurf adroddiad gwybodaeth, ar ganlyniadau arholiadau ac asesiadau
athrawon ar ddisgyblion sy'n mynychu Ysgolion Arbennig y Sir, disgyblion ag anghenion
dysgu ychwanegol sy’n mynychu addysg prif ffrwd, disgyblion a addysgir yn y
cartref, plant/ pobl ifanc a leolir y tu allan i'r Sir, a'r rhai sy'n mynychu
ysgolion arbenigol y tu allan i'r Sir a
(c) llongyfarch
staff addysg a disgyblion ar y canlyniadau a gyflawnwyd.
Dogfennau ategol:
- KS4 Exam Results Report, Eitem 6. PDF 148 KB
- KS4 Exam Results App 1, Eitem 6. PDF 37 KB
- KS4 Exam Results App 2, Eitem 6. PDF 14 KB