Eitem ar yr agenda
PROTOCOL AR GYFER AELODAU SY’N GYNRYCHIOLWYR AR GYRFF ALLANOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi'n
amgaeedig) am Aelodau sy’n cynrychioli’r cyngor ar gyrff allanol.
Cofnodion:
Dosbarthwyd
copi o adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Eglurodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai Aelodau fod ar nifer eang o
gyrff allanol a oedd yn cynnwys sefydliadau cymunedol, ymddiriedolaethau
elusennol, clybiau chwaraeon a hamdden, cwmnïau a chymdeithasau tai. Gallai
Aelod gael ei benodi i eistedd ar y cyrff hyn gan y Cyngor neu mewn achosion
eraill, gallent gael eu penodi’n annibynnol heb unrhyw ymwneud gan y Cyngor.
Roedd Aelodau a
benodid i eistedd ar gyrff allanol gan y Cyngor yn cael eu trin yn wahanol o
dan y Cod Ymddygiad i’r rhai a benodid yn annibynnol heb unrhyw ymwneud gan y
Cyngor i’r graddau yr oedd datgan cysylltiad dan sylw, gan gyfeirio’n benodol
at y diffiniad o gysylltiadau sy’n rhagfarnu ac eithriadau. Gallai unrhyw Aelod
a benodid i gorff allanol gan y Cyngor elwa ar indemniti gan y Cyngor mewn rhai
amgylchiadau, ac ni fyddai hyn yn berthnasol i Aelod a benodid yn annibynnol
heb ymwneud gan y Cyngor. Gallai presenoldeb Aelodau mewn cyfarfod o gorff
allanol, pe bai wedi ei benodi gan y Cyngor, gael ei gydnabod fel presenoldeb
gan Aelod i bwrpas Deddf Llywodraeth Leol 1972, wrth benderfynu a fyddai Aelod
yn cael ei ddiarddel oherwydd diffyg presenoldeb. Teimlai Mr P. Whitham na
fyddai Aelod wedi ei benodi gan yr ALl, neu’n annibynnol, i gorff allan yn cael
ei ystyried gan y Cyngor yn lle hyn.
Byddai rôl Aelod mewn perthynas â chorff allanol yn amrywio yn dibynnu
ar y corff. Byddai rhai Aelodau’n dod yn gyfarwyddwyr cwmnïau, yn
ymddiriedolwyr i ymddiriedolaethau elusennol, yn aelodau o bwyllgorau rheoli
gyda’r gallu i wneud penderfyniadau neu byddent yn gallu bod yn arsylwyr neu
gynrychiolwyr heb unrhyw allu i wneud penderfyniadau. Roedd gwahanol
rwymedigaethau cyfreithiol yn perthyn i’r gwahanol rolau a gallent fod â
gwahanol lefelau o indemniti.
Roedd gan Aelodau rôl bwysig o ran cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol
a gallai’r Cyngor elwa fel a ganlyn o ymwneud Aelodau:-
·
Darparu
gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd, na fyddai ar gael fel arall.
·
Sicrhau
atebolrwydd lleol neu gyfreithlondeb democrataidd wrth benodi cynrychiolydd
etholedig.
·
Sicrhau
y gellir cynnal perthynas dda â’r corff.
·
Darparu
prosiect partneriaeth sy’n galw am fewnbwn gan gyrff neu grwpiau cymunedol
eraill.
·
Diogelu
buddsoddiad neu ased y Cyngor, h.y. os yw’r Cyngor yn darparu grant neu arian i
ddarparu gwasanaeth.
·
Denu
cyllid allanol na fyddai ar gael i’r Cyngor ar ei ben ei hun.
Er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o’r Cyngor ar gyrff allanol yn dal yn
berthnasol ac yn sicrhau’r manteision a amlinellwyd, dylai’r rhai a benodir
ddarparu gwybodaeth ac adroddiadau’n achlysurol i’r Cyngor ar weithgareddau’r
sefydliad. Byddai hefyd yn bwysig sicrhau bod y Cyngor yn ymwybodol o’r defnydd
a gâi ei wneud o’r cyllid yr oeddent wedi ei ddarparu.
Roedd nifer o ddulliau o adrodd yn ôl wedi eu hamlinellu. Roedd rhai
Aelodau’n adrodd yn ôl trwy nodiadau briffio rheolaidd a chylchlythyrau
Aelodau, roedd eraill yn adrodd yn ôl yn fwy ffurfiol naill ai trwy adroddiadau
i’r Cabinet, y Pwyllgor Archwilio, y Cyngor neu’r Cyngor Anffurfiol. Roedd yr
adroddiad yn awgrymu na fyddai’n addas mabwysiadu un dull i bawb, gan fod rhai
cyrff allanol yn cael effaith fwy sylweddol ar y Cyngor nag eraill. Mewn ymateb
i gwestiynau gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, eglurodd Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd mewn achosion lle’r oedd mwy nag un Aelod wedi ei
benodi i gorff allanol, y gellid dod i gytundeb bod un Aelod yn adrodd yn ôl
i’r Cyngor, ac y gellid anfon copïau o gofnodion cyfarfodydd y corff allanol
trwy e-bost.
Roedd rhestr o Aelodau a benodwyd ar gyrff allanol wedi ei chynnwys yn
Atodiad 1. Roedd rhai cyrff allanol yn cael mwy o effaith ar gymunedau a
blaenoriaethau’r Cyngor nag eraill, gyda rhai’n derbyn cymorth ariannol
sylweddol gan y Cyngor ac eraill yn cael llai neu ddim o gwbl. Wrth ystyried
gofynion adrodd eglurwyd y gallai Aelodau ystyried y fforwm a’r amlder mwyaf
addas ar gyfer adroddiadau.
Roedd arferion ALl eraill yn amrywio. Nid oedd gan nifer o ALl unrhyw
fecanwaith ffurfiol i Aelodau adrodd ar eu gweithgareddau, tra bod eraill yn
gofyn i Aelodau gwblhau adroddiadau templed proforma a gâi eu dosbarthu er
gwybodaeth i gyd Gynghorwyr neu eu gosod mewn un lleoliad yr oedd gan
Gynghorwyr fynediad iddo. Mewn rhai achosion roedd ALl yn categoreiddio cyrff
allanol y penodwyd Aelodau iddynt ac roedd ganddynt wahanol ofynion adrodd yn
dibynnu ar y categori yr oedd y corff allanol wedi ei osod ynddo.
Roedd enghreifftiau o gategorïau a ddefnyddiwyd mewn mannau eraill yn
cynnwys:-
·
Cyrff
sy’n gosod praesept y mae’r Cyngor yn ei gasglu
·
Cyrff y
mae’r Cyngor yn talu tanysgrifiad i fod yn aelod ohono
·
Cyrff
sy’n derbyn grant neu gymorth ariannol arall gan y Cyngor
·
Yr holl
gyrff allanol eraill
Gallai cynrychiolwyr ar gyrff allanol orfod cwblhau adroddiadau proforma
blynyddol a allai fod yn destun adroddiad corfforaethol i’r Cabinet pan mae'n
ystyried penodiadau i gyrff allanol. Os oedd gan y Cyngor fwy nag un
cynrychiolydd ar gorff, gellid paratoi un adroddiad y cytunwyd arno. Gallai ALl
ofyn am adroddiadau ychwanegol, manylach ar gyfer rhai cyrff neu gategorïau o
gyrff a nodi fforwm ar gyfer yr adroddiadau hynny i gyfarfodydd o’r Cyngor.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland, cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd fod yn rhaid i ALl gael trefniadau i Aelodau
gyflwyno Adroddiadau Blynyddol ar eu gweithgareddau, ond nid oedd yn fandadol
i’r adroddiadau hynny gael eu cwblhau. Roedd adroddiad proforma wedi ei
ddarparu ar gyfer yr adroddiadau hynny a gellid dosbarthu adroddiad blynyddol
ar broforma cyrff allanol gydag Adroddiadau Blynyddol Cynghorwyr er mwyn gallu
eu cwblhau’r un pryd. Cadarnhaodd Mr P. Whitham y byddai’n anfon awgrymiadau
ymlaen i ystyried eu cynnwys yn y proforma.
Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd nad oedd
cynrychiolwyr ar gyrff allanol yn cael eu penodi o anghenraid i weithredu er
budd y Cyngor yn unig. Byddai gan Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwyr ddyletswyddau
cyfreithiol i’r cyrff hynny y penodwyd hwy’n aelodau ohonynt. Gallai Aelodau a
benodid i’r cyrff hynny gael eu hymrwymo gan rwymedigaethau cyfrinachedd i’r
corff allanol perthynol, a allai arwain at beidio â chynnwys rhai agweddau o
fusnes y corff mewn adroddiad.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd fanylion y Mesur Llywodraeth Leol Drafft, a oedd yn nodi bod gan
ALl ddyletswydd i gynnwys proses graffu ar gyrff dynodedig yn eu trefniadau
gweithredol, ac amlinellodd y broses ymgynghori ar gyfer nodi cyrff
dynodedig.
Cyfeiriodd Mr P. Whitham at gategoreiddio adroddiadau a’r persbectif o
safbwynt risg llywodraethu a allai gynnwys materion yn ymwneud ag agweddau
ariannol ac enw da’r Awdurdod. Cyfeiriodd hefyd at berthnasedd pecyn cymorth y
bartneriaeth a llywodraethu partneriaeth yn gyffredinol.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y materion a amlinellwyd yn yr adroddiad
a nodi eu dewisiadau er mwyn ymgynghori’n llawnach â’r holl Aelodau etholedig.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd cytunwyd gofyn i Bennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democratiadd gategoreiddio’r Cyrff Allanol perthynas a chyflwyno
adroddiad pellach yng nghyfarfod fis Ionawr, 2014 o’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:-
(a)
derbyn a nodi
cynnwys adroddiadau Aelodau ar eu gweithgareddau gyda chyrff allanol, a
(b)
Gofyn i Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd baratoi
adroddiad pellach, yn categoreiddio’r Cyrff Allanol perthynol, i’w gyflwyno yng
nghyfarfod fis Ionawr, 2014 o’r Pwyllgor.
(GW i weithredu)
Dogfennau ategol:
- Outside Bodies Report, Eitem 6. PDF 81 KB
- OB App 1, Eitem 6. PDF 923 KB
- OB App 2, Eitem 6. PDF 30 KB