Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWIRFODDOLI, PRENTISIAETH, PROFIAD GWAITH, GRADDEDIGION A SWYDDI HYFFORDDIANT

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Barbara Smith a Hugh Irving (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi crynodeb o’r gwaith o gydlynu ffrydiau gwaith gan gynnwys gwirfoddoli, graddedigion, prentisiaid, profiad gwaith a swyddi hyfforddiant

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Hugh Evans yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n darparu crynodeb o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn Sir Ddinbych o ran cydlynu nifer o ffrydiau gwaith gan gynnwys gwirfoddoli, swyddi graddedigion, prentisiaethau, profiad gwaith a swyddi hyfforddiant.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn mabwysiadu’r:-

(a)          Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol, Atodiad 1, ac yn

(b)          targedau ar gyfer y rhaglen gwirfoddoli a’r holl waith er mwyn datblygu lleoliadau profiad gwaith, swyddi hyfforddiant, swyddi i raddedigion a phrentisiaethau fel y nodir ym mharagraff 4.8 yr adroddiad. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, sy’n darparu crynodeb o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn Sir Ddinbych o ran cydlynu nifer o ffrydiau gwaith sy’n cynnwys gwirfoddoli, graddedigion, prentisiaeth, profiad gwaith a swyddi hyfforddiant (VGAWEI).   Roedd yn canolbwyntio ar raglen posibl o waith i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli a fydd yn dod â budd sylweddol i’r sefydliad ac yn cyfrannu at y flaenoriaeth o “ddod â’r Cyngor yn nes at y gymuned” a’r flaenoriaeth o ran adfywio.

 

Roedd arian i gefnogi datblygu VGAWEI wedi’i ddyrannu yn wreiddiol fel rhan o’r rhaglen Bwrdd Pobl a Llefydd ac mae manylion yr adnoddau a’r arian wedi’i grynhoi.  Roedd buddsoddiad a wnaethpwyd wedi rhagori ar y targedau yn y rhan fwyaf o achosion ond roedd yr arian hwn wedi dod i ben fis Medi 2013. Ond roedd yr adroddiad hwn yn cynnig parhau â’r rhaglen gan roi mwy o bwyslais ar ddatblygu cyfleodd gwirfoddoli.   Cyflawnwyd canlyniadau sylweddol o ganlyniad i fuddsoddi mewn unigolion graddedig dan hyfforddiant ac mae manylion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, gyda chyfrif llawnach yn Atodiad 2.

 

Roedd y gost o ddatblygu’r cyfleoedd yn gymharol fychan, £40k am gostau staff am 12 mis a £40k o arian cyfatebol.  Roedd y rhan fwyaf o'r cyfleodd a grëwyd wedi eu cefnogi gan gyllid allanol ac mae nifer fawr o'r bobl ifanc a fanteisiodd ar y cyfleodd hyn wedi llwyddo i gadw eu swyddi neu wedi canfod gwaith mewn sefydliad arall.   Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn awgrymu bod y cyfleodd hyn yn rhai gwerthfawr i bobl ifanc a rheolwyr a bod y cyfleodd yn gwella enw da’r Cyngor yn y gymuned. 

 

Nid yw datblygu gwirfoddoli wedi mynd rhagddo mor gyflym â datblygu cyfleodd gwaith.   Credwyd y byddai datblygu gwirfoddoli yn arwain at fanteision sylweddol i’r sefydliad ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.  Yn ôl y gwaith ymchwil ar wirfoddoli yng Nghyngor Sir Ddinbych, Atodiad 2, byddai’r sefydliad yn cael budd o roi ffocws strategol ar gyfleodd gwirfoddoli a’u cydlynu mewn modd cynaliadwy.   Datblygwyd Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol, Atodiad 1, sy’n amlinellu dull cyson o ran denu, rheoli a chadw gwirfoddolwyr.   Hefyd, mae gwasanaethau wedi cytuno i ariannu System Rheoli Gwybodaeth Gwirfoddoli sy'n darparu porth eglur ar gyfer holl gyfleodd gwirfoddoli'r sefydliad.    Bydd y system hon yn caniatáu gweithredu dull mwy effeithiol o reoli gwirfoddolwyr a darparu cyfleodd newydd.   

 

Mae’r Tîm Gweithredu Corfforaethol wedi cytuno i ariannu swydd am 12 mis o ddyraniadau ar gyfer blaenoriaethau corfforaethol a’r gronfa Gwario i Arbed oherwydd ei botensial i ychwanegu gwerth at y blaenoriaethau.   Mae pwrpas y swydd wedi’i amlinellu yn Atodiad 3 a’i grynhoi yn yr adroddiad.  Bydd arwain ar y gwaith hwn o reoli gwirfoddolwyr yn sicrhau llif o dalent ar gyfer cyfleoedd hyfforddi eraill.   Rhagwelwyd, fel rhan o’r gwaith o fabwysiadu'r strategaeth a gweithredu’r swydd hon, y bydd y canlyniadau isod yn cael eu cyflawni:-

 

-   Cynnydd o 200 yn nifer y gwirfoddolwr yn y flwyddyn gyntaf, gyda nifer y gwirfoddolwyr yn cynyddu i 2000 erbyn 2016.

-   60 lleoliad profiad gwaith

-   5 swydd dan hyfforddiant a 5 swydd hyfforddi i raddedigion

-   35-40 prentisiaeth

 

Mae gan Sir Ddinbych weledigaeth glir ynglŷn â sut y bydd buddsoddi a chreu cyfleoedd fel gwirfoddoli a swyddi hyfforddiant yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol.  Mae swm aruthrol o waith wedi ei wneud ond nid oes modd i swyddogion eraill y sefydliad ymgymryd â’r gwaith hwn.   Mae angen buddsoddiad parhaus i sicrhau bod y strategaeth gwirfoddoli a’r swyddi dan hyfforddiant yn cael eu datblygu ymhellach i gyrraedd eu potensial.

 

Mae amlinelliad o sut y bydd y rhaglen yn cyfrannu at ddatblygu’r economi lleol a darparu manteision i’r gymuned wedi’i grynhoi yn yr adroddiad, yn ogystal â'r effaith ar wasanaethau eraill sy'n cynnwys costau yn ymwneud â'r System Gwybodaeth Rheoli.  Mae manylion yn ymwneud â’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb, ymgynghoriadau, Datganiad y Prif Swyddog Cyllid a’r risgiau a chamau gweithredu i’w lleihau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, a fynegodd ei gefnogaeth ar gyfer y strategaeth, rhoddodd y CCMLl fanylion am y broses ymgynghori a chadarnhaodd bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda CGGSDd ynglŷn â’r strategaeth.  Esboniodd y credwyd y byddai system fewnol ar gyfer cydlynu a datblygu gwirfoddolwyr yn fwy manteisiol ym mhob gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cytuno i fabwysiadu:-

 

(a)          y Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol, Atodiad 1 yr adroddiad, a’r

(b)          targedau ar gyfer y rhaglen wirfoddoli a’r holl waith er mwyn datblygu lleoliadau profiad gwaith, swyddi hyfforddiant, swyddi i raddedigion a phrentisiaethau fel y nodwyd ym mharagraff 4.8 yr adroddiad. 

 

 

Dogfennau ategol: