Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD GWELLIANT BLYNYDDOL: CYNGOR SIR DDINBYCH

I ystyried Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar y Cyngor a dynodi unrhyw weithrediadau angenrheidiol.

                                                                                                     10.45 – 11.15

 

Cofnodion:

Roedd copi o Adroddiad Gwelliant Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Sir Ddinbych wedi’i gylchredeg gyda’r papurau cyn y cyfarfod.    Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Gwelliant Corfforaethol yr adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth  am yr Adroddiad Gwelliant Blynyddol diweddaraf ar gyfer Sir Ddinbych a hwn oedd yr adroddiad rheolaethol allanol allweddol oedd yn cael ei dderbyn yn y Cyngor bob blwyddyn.

 

Bob blwyddyn, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn adrodd ynghylch pa mor dda y mae Cynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub a Pharciau Cenedlaethol Cymru’n cynllunio ar gyfer gwelliant a darparu eu gwasanaethau.  Gan ddefnyddio gwaith yr arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, yn ogystal â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darlun o welliant dros y flwyddyn ddiwethaf.   Mae tair prif ran yr adroddiad yn cynnwys darpariaeth a hunanwerthuso gwasanaethau Sir Ddinbych mewn perthynas â 2011-12, a’r trefniadau cynllunio ar gyfer gwelliant 2012-13. Yn gyffredinol, casglodd yr Archwilydd Cyffredinol bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da yn gweithredu eu rhaglen welliant a ni wnaeth unrhyw argymhellion newydd eleni.   Ond roedd cwmpas i wella ansawdd rhai mesurau perfformiad a'r dystiolaeth y mae'r Cyngor yn ei defnyddio i benderfynu ar ei effeithlonrwydd.  Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi’r cynnydd y mae’r Cyngor yn ei wneud i fynd i’r afael â’r argymhellion a’r cynigion i wella a wnaed mewn adroddiadau blaenorol.

Hysbyswyd y Pwyllgor bod copi drafft o’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol wedi’i gyflwyno a’i drafod gyda’r Prif Weithredwr a bod adborth wedi’i ddarparu cyn i’r adroddiad gael ei orffen yn derfynol.   Byddai’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 22 Mai 2013, ac i’r Cyngor ar 4 Mehefin 2013.

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint  (copi wedi’i gylchredeg yn y cyfarfod) darparodd y Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru grynodeb manwl o’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol oedd yn cynnwys Cyfranwyr Asesu Perfformiad 2011-12, Canfyddiadau, Casgliadau, Canfyddiadau Perfformiad, Canfyddiadau Gwella Perfformiad a Chasgliadau Cyffredinol Asesu Perfformiad.    Amlygodd y Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru'r prif feysydd canlynol yn yr adroddiad:-

 

·                     Perfformiad wedi parhau i wella yn y rhan fwyaf o agweddau o waith y Cyngor i addasu darpariaeth gwasanaeth i ddelio â newid demograffig.

·                     Uchelgais y Cyngor wedi’i phwysleisio drwy osod targedau heriol.

·                     Estyn wedi penderfynu bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau addysg o ansawdd da i blant a phobl ifanc, gyda rhagolygon da ar gyfer gwella ymhellach

·                     Rhaglen y Cyngor i wella ffyrdd wedi gwneud cynnydd.

·                     Trefniadau rheoli perfformiad corfforaethol wedi bod yn ddigonol.  Ond, roedd cwmpas i wella ansawdd ychydig o’r dystiolaeth er mwyn pennu ei effeithiolrwydd.

·                     Y Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth ddarparu rhaglen welliant.

·                     Roedd y trefniadau i gefnogi gwelliant yn dda gyda chysylltiadau da rhwng Cynllun Ariannol Tymor Canolog y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol.

 

Ar sail y canfyddiadau a’r casgliadau hyn ni wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol unrhyw argymhellion newydd eleni.   

 

Cynghorodd y Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru bod cynnydd y Cyngor wrth ddarparu tai cyngor o Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn dyddiad terfyn Llywodraeth Cymru wedi’i hadrodd yn dda yn fewnol, ond ddim yn allanol.   Ychydig o adrodd a fu am berfformiad gwaith ar y cyd hefyd.   Byddai mwy o adrodd am berfformiad yr ardal, yn enwedig y gwersi a ddysgwyd, yn gymorth i awdurdodau eraill wrth ystyried dechrau trefniadau ar y cyd. Un maes lle yr oedd Sir Ddinbych ar ei hôl hi o gymharu â rhai awdurdodau lleol eraill oedd derbyn taliadau uniongyrchol, ond roedd y Cyngor yn ceisio gwella eu perfformiad yn y maes hwn.

 

Eglurodd Rheolwr y Tîm Gwelliant Corfforaethol nad oedd yr holl ddangosyddion cenedlaethol wedi’u hadrodd gan eu bod wedi canolbwyntio’n benodol ar ddangosyddion oedd yn berthnasol i flaenoriaethau’r Cyngor a’r rhai oedd yn mesur beth oedd y trigolion am ei gael.  Ond, derbyniodd nad oeddent wedi defnyddio’r mesurau priodol yn rhai o’r meysydd ond teimlai y byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd yn delio â’r mater ac amlinellodd y gwaith oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad:-

 

PENDERFYNWYD - derbyn Adroddiad Gwelliant Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru a nodi sylwadau ac arsylwadau’r Archwilydd Cyffredinol.  

 

 

Dogfennau ategol: