Eitem ar yr agenda
ADOLYGU GWASANAETHAU DYDD
Ystyried
adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy’n darparu trosolwg o’r cynigion i
ailfodelu gwasanaethau dydd pobl hŷn.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr
adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn darparu trosolwg o’r
cynigion i ailfodelu gofal dydd ar gyfer pobl hŷn. Mae’r cynigion yn ymwneud yn bennaf â’r
newidiadau i ogledd Sir Ddinbych, fodd bynnag mae’r egwyddorion strategol
ategol ar gyfer hyrwyddo annibyniaeth pobl trwy ail-alluogi a’r defnydd o
adnoddau cymunedol yn berthnasol i’r sir gyfan.
Mae rhesymeg y cynigion wedi ei darparu ac mae’r maes gwasanaeth wedi ei
adnabod fel maes ar gyfer toriadau cyllidebol yn y cynllun ariannol tymor canolig.
Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y
dylid addasu Datganiad y Prif Swyddog Cyllid i ddweud “Mae’r adroddiad yn
awgrymu y bydd arbedion yn codi yn sgil yr arolwg ac y byddai’r rhain yn cael
eu hail-fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol. Bydd y cynigion hefyd yn rhyddhau
gofod yn un o’n hadeiladau y gallwn ei ddefnyddio er dibenion eraill".
Mae Atodiad 1 a 2
yn cynnwys manylion rhai o’r ymgynghoriadau sydd wedi eu cynnal ac elfennau o’r
model sydd wedi eu newid i adlewyrchu rhai o’r materion a godwyd. Mae’r adroddiad yn argymell ym mharagraffau
4.10 a 4.13 y dylid cymeradwyo gweithredu’r model newydd.
Cafwyd crynodeb o’r adroddiad, a oedd yn cynnwys:-
-
Yn 2012 nododd Llywodraeth Cymru'r angen i
wasanaethau cymdeithasol Cymru ymateb i’r newid cynyddol yn nisgwyliadau
cymdeithasol, i’r newid demograffig ac i’r sefyllfa anodd o ran caffael
adnoddau.
-
Ym
mis Ionawr 2013 cyflwynwyd Bill Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) i
Lywodraeth Cymru.
-
Y
sail ar gyfer creu model Sir Ddinbych ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion.
-
Ar y
cyfan, mae ar bobl eisiau cadw eu hannibyniaeth a'u cysylltiadau yn eu cymuned
yn hytrach na mynychu canolfan arbennig ar gyfer pobl hŷn.
-
Ceir
hefyd nifer o wasanaethau cymunedol datblygedig yn cynnig gwasanaethau i bobl o
bob oed.
-
Y
ffaith y dylai pobl gael mynediad at adnoddau cymunedol, dull sy’n gyson â Bill
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
-
Mae
strategaeth ail-alluogi Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus iawn gan alluogi
pobl i adennill sgiliau a hyder er mwyn byw’n annibynnol.
-
Mae
Llys Nant a Hafan Deg yn ganolfannau dydd traddodiadol sy’n darparu gwasanaeth
gwych a gwerthfawr i’r rheiny sy’n mynd yno.
-
Mae
nifer y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau yn y lleiafrif o gymharu â chyfanswm
poblogaeth pobl hŷn yr ardal. Mae tystiolaeth
o hyn yn Atodiad 3. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynychu’r canolfannau hyn ddwy
neu dair gwaith yr wythnos ac mae manylion ynglŷn â hynny yn Atodiad 4.
Tynnwyd sylw’r
Aelodau at y cynnig diwygiedig canlynol:-
·
Symud
gwasanaethau presennol Prestatyn o Lys Nant i Nant y Môr - Bydd hyn yn rhoi
cyfle i bobl ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol ehangach gyda thrigolion Nant
y Môr a chymryd rhan mewn mwy o weithgareddau sy’n cael eu cynnig yn y
cyfleuster Gofal Ychwanegol. Bydd defnyddwyr gwasanaeth presennol a newydd
gydag anghenion cymwys yn cael eu cefnogi 3 diwrnod yr wythnos trwy weithgaredd
“galw i mewn” sy’n helpu’r bobl i gymdeithasu. Byddan nhw’n derbyn cefnogaeth
ar y ddau ddiwrnod arall i leihau’r ymdeimlad o unigedd.
·
Yn y
tymor canolig/ tymor hir, edrych ar symud darpariaeth gofal dydd y Rhyl i Orwel
Newydd - Fodd bynnag, byddem yn sicrhau bod unrhyw gynllun yn adnabod pwrpas
addas a chynaliadwy ar gyfer adeilad Hafan Deg. Mae hyn yn cynnwys datblygu
cyfleusterau yn y ganolfan i'n cynorthwyo i ddatblygu ein dull ail-alluogi h.y.
sefydlu cegin ‘gartref’, yn ogystal ag edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r
adeilad ar gyfer ystod o weithgareddau cymdeithasol a chefnogi ar gyfer pobl
hŷn sy’n byw yn War Memorial Court a’r ardal.
·
Ein cam cyntaf fyddai cynnig darpariaeth gofal dydd 3 diwrnod yn Hafan Deg,
gyda dau ddiwrnod yn canolbwyntio ar ail-alluogi. Y cynnig gwreiddiol oedd dod
â phob gweithgaredd gofal dydd traddodiadol i ben ar y safle. Fodd bynnag, diwygiwyd hyn yn sgil pryderon defnyddwyr
gwasanaeth, eu gofalwyr ac Aelodau Lleol. Mae’r cynnig yn dal i ganiatáu'r
gwasanaeth i gefnogi ail-alluogi a chynaladwyedd.
·
Gan
gymryd y bydd cynigion yr adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo, bydd cynllun prosiect
manwl yn cael ei ddatblygu ar gyfer trefniadau presennol Hafan Deg a Llys Nant.
Bydd y ddau gynllun yn adlewyrchu'r angen i reoli'r newidiadau'n sensitif trwy
ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a'u gofalwyr. Mae prif gerrig milltir y ddwy
ganolfan wedi eu cynnwys yn Atodiad 5, ac mae’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb
wedi ei gynnwys yn Atodiad 6.
Mae’r adroddiad
yn crynhoi sut fydd y penderfyniad yn cyfrannu at y Blaenoriaethau
Corfforaethol, cost ac effaith y penderfyniad ar wasanaethau, casgliadau’r
Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a’r ymgynghoriadau sydd wedi eu cynnal.
Pwysleisiodd y
Cyng. Jeanette Chamberlain-Jones gwerth cyfleusterau gofal dydd i bobl hŷn
yr ardal a dywedodd bod angen ystyried y gwasanaethau a ddarperir yn y
Canolfannau hyn.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-
(a)
derbyn yr adroddiad ac yn nodi sylwadau’r
Aelodau; ac yn
(b)
cymeradwyo gweithredu’r model newydd fel y
nodir ym mharagraffau 4.10 a 4.13 yr adroddiad.
Dogfennau ategol: