Eitem ar yr agenda
ASESIAD O DDIGONOLRWYDD CYFLEOEDD CHWARAE SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan Reolwr Ffordd o Fyw Egnïol (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â
drafft Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol a chynllun gweithredu.
10.40 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw
Jones, Aelod Arweiniol Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid y Rheolwr Ffyrdd o Fyw
egniol a’r Rheolwr Rhaglen Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol a chyflwynodd yr
Asesiad Digonolrwydd Chwarae drafft a’r Cynllun Gweithredu (a gylchredwyd yn
flaenorol). Roedd Llywodraeth Cymru wedi
gorchymyn bob awdurdod lleol i gyflawni asesiad a datblygu cynllun gweithredu
yn amlinellu sut roeddynt yn bwriadu darparu cyfleoedd chwarae i blant a mynd
i’r afael â’r bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth.
Roedd manylion o’r asesiad wedi
ei darparu gan gynnwys y meysydd unigol a ystyriwyd a’r ymgynghoriad
cynhwysfawr gyda’i bartneriaid mewnol ac allanol. Tynnwyd sylw aelodau at y
themâu/blaenoriaethau allweddol oedd yn deillio o’r asesiad hwnnw oedd wedi eu
cynnwys yn y cynllun gweithredu i fynd i’r afael â nhw yn ystod y cyfnod 2013 -
2014 ynghyd â chynlluniau i’r dyfodol ar gyfer 2014 a’r tu hwnt.
Yn ystod y drafodaeth, holodd aelodau a fyddai arian
ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlC) i fwrw ymlaen â’r cynllun gweithredu. Eglurodd y rheolwr Ffyrdd o Fyw Egniol (ALM)
nad oedd unrhyw awgrym wedi ei roi ynglŷn â’r tebygolrwydd y byddai arian
yn cael ei ddarparu ac roeddem yn aros am atborth yn dilyn cyflwyno'r asesiad
fis diwethaf. Mae’r cyngor eisoes wedi
ymrwymo arian o’i gyllideb ei hun i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a fanylir
yn 2013 - 2014.
Cyfeiriodd aelodau at ddarpariaeth chwarae yn eu
cymunedau eu hunain a chodwyd y materion canlynol –
·
diffyg
neu absenoldeb darpariaeth chwarae mewn rhai ardaloedd gwledig/cefn gwlad
·
anawsterau a gysylltwyd ag agor caeau chwarae ysgolion i’r gymuned ehangach
(gan gynnwys plant cyn ysgol yn methu cael mynediad i ddarpariaeth yn ystod
oriau ysgol a difrod a achoswyd i gaeau chwarae pan roeddent yn cael ei
defnyddio ar gyfer gweithgareddau penodol fel pêl-droed)
·
diffyg
cynlluniau chwarae/parth chwarae yn gweithredu ar draws y sir
·
yr angen i dargedu gwaith marchnata cynlluniau chwarae/chwaraeon er mwyn
rhoi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo digwyddiadau a chynyddu'r niferoedd oedd yn
cymryd rhan
·
annog cynghorau tref/cymuned i gyfrannu yn ariannol tuag at ddarpariaeth
chwarae/chwaraeon, a chyflwr gwael rhywfaint o offer chwarae a phwysigrwydd
cynnal a chadw.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau
at fendithion cynnal yr asesiad a oedd yn darparu darlun cliriach ar gyfer Sir
Ddinbych o safbwynt darpariaeth a dynodi meysydd i fynd i’r afael â nhw. Ymatebodd y swyddogion hefyd i sylwadau’r
aelodau fel a ganlyn –
·
roedd un o gamau’r cynllun yn ymwneud yn benodol ag ardaloedd gwledig a
darpariaeth chwarae
·
amlygwyd
yr angen am ymagwedd wedi ei chyd-drefnu rhwng addysg, hamdden a chynghorau
tref/cymuned i ddatblygu chwarae o fewn y trefi/cymunedau hynny
·
cyfeiriwyd
at ddarpariaeth chwarae/chwaraeon presennol ar draws y sir ac ymhelaethwyd ar
gynlluniau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol
·
cytunwyd y dylid targedu gwaith marchnata digwyddiadau chwarae a
chyfeiriwyd at lwyddiant a phoblogrwydd y sesiynau chwarae meddal diweddar a
hyrwyddwyd drwy’r gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd
·
roedd
cynnal a chadw offer chwarae wedi’i gynnwys yn yr archwiliad.
Roedd y pwyllgor yn cefnogi’r
asesiad a’r cynllun gweithredu ac yn awyddus i glywed ymateb LlC ynglŷn â
hynny ac a fyddai LlC yn dyfarnu arian i weithredu ar y camau a nodwyd. Roedd Aelodau hefyd yn awyddus i dderbyn y
cynllun gweithredu diwygiedig gydag amserlen ar gyfer cyflenwi camau
gweithredu. O ganlyniad -
PENDERFYNWYD –
(a) yn amodol ar y sylwadau uchod gan yr aelodau, fod y pwyllgor yn
nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynllun gweithredu yn cefnogi'r ymrwymiad i
ddatblygu chwarae yn Sir Ddinbych, ac
(b) dylid cyflwyno’r adroddiad gwybodaeth i’r pwyllgor a fydd yn
cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae a’r cynllun
gweithredu ac a oedd arian pellach yn cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru
ynghyd â chynllun gweithredu diwygiedig a fyddai’n cynnwys amserlenni a
gytunwyd arnynt ar gyfer gweithredu. [Jamie
Groves / Sian Bennett / Rhian Roberts i weithredu]
Ar yr amser hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer
lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- Play Sufficiency Assessment Report 180413 W, Eitem 6. PDF 91 KB
- Play Sufficiency Assessment Report 180413 - App 1, Eitem 6. PDF 174 KB