Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SWYDDOGAETH HYRWYDDWYR

I ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeedig) yn ceisio barn y pwyllgor ar y swyddogaethau gwahanol sydd wedi eu hawgrymu i’w hymgymryd gan y Pencampwyr Aelodau.

10.05 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad (a rannwyd o’r blaen) yn gofyn am sylwadau’r pwyllgor ynghylch y gwahanol swyddogaethau a awgrymwyd y dylai Hyrwyddwyr Aelod eu hysgwyddo ac ynghylch y broses o benodi aelodau ar gyfer y swyddogaethau hynny.  Roedd disgrifiadau o swyddogaethau presennol Hyrwyddwyr yn cael eu nodi yn y cyfansoddiad (Atodiad 1); arolwg o benodi Hyrwyddwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru (Atodiad 2) ynghyd â Phortffolios Aelodau Arweiniol (Atodiad 3) wedi’u hatodi wrth adroddiad.

 

Yn ogystal â’r pedwar swyddogaeth ar gyfer Hyrwyddwr sydd eisoes wedi’u nodi yn y cyfansoddiad, manylodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ar feysydd eraill yr oedd Aelodau wedi’u cyflwyno i’w hystyried - Hyrwyddwr Pobl Ifanc, Hyrwyddwr Gofalwyr Ifanc a Hyrwyddwr Archwilio ynghyd â rhai a gafodd eu hawgrymu gan gyrff allanol - Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a Hyrwyddwr Tlodi.  Nodwyd y byddai enwebiadau am swyddogaeth Hyrwyddwr Digartrefedd yn cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf o’r Cyngor Llawn.

 

Trafododd yr aelodau ganfyddiadau arolwg awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a oedd yn dangos amrywiaeth eang yn y nifer a natur Hyrwyddwyr a manylodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, er mwyn cymharu, ar yr hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol a’r rhesymau dros hynny .  Roedd penodi Hyrwyddwyr hefyd yn amrywio rhwng cynghorau a gofynnwyd i’r aelodau ystyried y dull mwyaf priodol ar gyfer Sir Ddinbych.  Yn y gorffennol roedd yr Hyrwyddwr Archwilio’n cael ei b / phenodi gan y Grŵp Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio.  Cytunodd y pwyllgor i ganolbwyntio ar ofynion Sir Ddinbych am Hyrwyddwyr penodol, os o gwbl, a nodi o’r cychwyn y gellid adolygu unrhyw benderfyniadau’n ôl y gofyn.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch penodi pobl leyg fel Hyrwyddwyr, soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd am anawsterau ac ymarferoldeb trefniant felly yn enwedig o ran atebolrwydd a bod y ceisiadau i ystyried Hyrwyddwyr i’r Lluoedd Arfog a Thlodi wedi gofyn yn benodol am enwebu cynghorwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau’r Aelodau Cabinet a oedd yn bresennol a dywedodd y Cynghorydd Barbara Smith nad oedd o’r farn, yn gyffredinol, fod rhinwedd mewn penodi Hyrwyddwyr ar gyfer meysydd ble mae gan Aelodau Arweiniol gyfrifoldeb.  Manylodd ar y swm sylweddol o waith sy’n cael ei wneud ynghylch diwygio lles ac nad oedd yn ystyried y byddai penodi Hyrwyddwr Tlodi’n ychwanegu gwerth at y broses honno.  Fodd bynnag, roedd yn cefnogi rôl Hyrwyddwr Pobl Hŷn a soniodd am fanteision a llwyddiannau’r penodiad hwnnw.  Cytunodd y Cynghorydd Hugh Irving gyda’r sylwadau hynny a soniodd am ei gyfranogaeth ef ei hunan ynghylch diwygio lles fel rhan o’i bortffolio.  Ychwanegodd ei gefnogaeth i Hyrwyddwr Digartrefedd o gofio gymaint o broblemau sydd angen sylw.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Ray Bartley at ei rôl fel Hyrwyddwr Anableddau Dysgu gan amlygu’r gwaith da a’r llwyddiannau yn y maes hwnnw yn y blynyddoedd diweddar a thalodd deyrnged hefyd i’r cyn Gynghorydd Christine Evans yn ei rôl fel Hyrwyddwr Digartrefedd.  Cynigiodd fod y Cyngor Llawn yn penodi Hyrwyddwr Digartrefedd cyn gynted â phosibl. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gofynnir am fynegiant o ddiddordeb ac y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn gyda’r bwriad o benodi Hyrwyddwr Digartrefedd.

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gwestiynau’r aelodau ynghylch beth ddylai fod yn cael eu hystyried wrth benodi Hyrwyddwyr ar gyfer meysydd penodol.  O ran llywodraethu, roedd y pwyllgor o’r farn fod angen bod yn glir a sicrhau na fyddai dryswch na dyblygu swyddogaethau.  Teimlai y gall penodi Hyrwyddwyr heb fod yr angen am hynny wedi’i ddiffinio’n glir ddibrisio’r rôl ac mai ychydig iawn o werth gai ei ychwanegu i’r broses.  Pwysleisiodd y pwyllgor hefyd fod dyletswydd ar bob cynghorydd i hyrwyddo materion mor bwysig ac na ddylai hynny gael ei lastwreiddio trwy drosglwyddo cyfrifoldeb penodol i un unigolyn. Gan gofio hynny, cytunwyd, os oes yna Aelod Arweiniol ar hyn o bryd gyda chyfrifoldeb am faes penodol, fel arfer, nid oes angen penodi Hyrwyddwr.  O ran meysydd sy’n disgyn y tu allan i gylch gorchwyl penodol a gwasanaethau trawsbynciol, neu lle mae angen mawr ac amlwg, roedd yr aelodau o farn y gallai fod yn fanteisiol penodi Hyrwyddwyr ac ail gadarnhaodd y pwyllgor eu cefnogaeth i’r pedwar Hyrwyddwr presennol sy’n cael eu nodi ar hyn o bryd yn y cyfansoddiad, sef dros Bobl Hŷn, Digartrefedd, Gofalwyr ac Anableddau Dysgu.  O ran Hyrwyddwyr dros Dlodi a’r Lluoedd Arfog, roedd yr aelodau’n fodlon fod trefniadau cadarn eisoes yn bodoli i dalu sylw i’r meysydd hynny yn y gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud i ddiwygio lles a thrwy gymeradwyo’r Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       peidio ag argymell swyddogaethau ychwanegol ar gyfer Hyrwyddwr i’r Cyngor Llawn ar hyn o bryd;

 

(b)       bod y Cyngor Llawn yn cadarnhau’r dull mwyaf priodol o benodi Hyrwyddwyr, ac

 

 (c)       argymell i’r Cyngor Llawn benodi Hyrwyddwr Digartrefedd gynted â bo modd

 

 

Dogfennau ategol: