Eitem ar yr agenda
CYNHWYSEDD Y GWASANAETHAU DIOGELU OEDOLION
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar allu’r Gwasanaeth Diogelu Oedolion i ddelio gyda chynnydd posibl mewn atgyfeiriadau.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes, a
oedd yn rhoi diweddariad ynglŷn â chynhwysedd y Gwasanaeth Diogelu
Oedolion i ymdrin â chynnydd posibl mewn atgyfeiriadau, wedi cael ei gylchredeg
ynghyd â’r ddogfennaeth ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes (PGOB) yr adroddiad
gan amlygu’r newidiadau fyddai i lwyth gwaith cyffredinol Diogelu Oedolion
Diamddiffyn pe bai cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau. Sefydlwyd swydd Cymhorthydd Diogelu Oedolion
Diamddiffyn yn 2010, a chafodd hynny effaith gadarnhaol, ond yn gyffredinol
mae’r dull presennol o weithio wedi bod yn anghynaliadwy.
Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen ym mis Mai 2012
i ystyried dulliau gweithio o bob rhan o Gymru a rhannau o Loegr, argymhellion
yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn dilyn eu
harolygiad o Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych, Mawrth 2010, ac argymhellion yr
archwiliad Diogelu Oedolion Diamddiffyn, Mai 2012.
Roedd yr atodiadau a oedd
ynghlwm wrth yr adroddiad yn manylu ar ychydig o’r prif ddata sy’n ymwneud â
gwaith diogelu oedolion diamddiffyn o fewn Sir Ddinbych o fis Ionawr 2012 hyd
fis Ionawr 2013. Hefyd cafodd manylion
yn ymwneud â darparu hyfforddiant eu cynnwys ynghyd ag ystadegau dangosyddion
perfformiad, gweithdrefnau diogelu oedolion diamddiffyn, a datblygiadau ar
lefel leol a chenedlaethol. Roedd
Atodiad 7 yn manylu ar yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb a gynhaliwyd i’r model
ar gyfer rheolaeth diogelu oedolion yn y Sir i’r dyfodol.
Bu ymateb gan Swyddogion
i’r pryderon canlynol a leisiwyd gan yr Aelodau:-
- Cyhyd ag y bo’n bosibl,
roedd taflenni a ddosbarthwyd ar ran Fforwm Diogelu Oedolion Diamddiffyn
Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys rhif ffôn anghywir i drigolion Sir Ddinbych ei
ddefnyddio i adrodd am ddigwyddiadau honedig wedi cael eu galw’n ôl er mwyn
cynnwys y rhif ffôn cywir, a chafodd y rhif cywir ei restru ar eu gwefan. Cytunodd y Cydlynydd Diogelu Oedolion
Diamddiffyn i wirio a gafodd y daflen ei chynnwys yn rhan o’r pecyn Gofalwyr a
ddosbarthwyd gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC)
a darparu ateb i’r Cynghorydd J.A. Davies.
- Rhoed gwybod i’r
Aelodau fod y ddarpariaeth hyfforddi i weithwyr gofal yn cael ei monitro trwy’r
broses monitro contractau, a bod gan asiantaethau gofal gyfrifoldeb, trwy eu
prosesau sicrhau ansawdd, i sicrhau fod gweithwyr gofal yn ffit ac yn addas i
ymgymryd â’u dyletswyddau. Eglurwyd na
ellid cynnal y broses monitro staff gofal yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth
heb ganiatâd y defnyddiwr gwasanaeth.
- Mewn ymateb i awgrym
ynglŷn â p’un ai y gellid defnyddio dull gweithredu ‘siopwr cudd’ fel
teclyn i fonitro’r ddarpariaeth gofal, dywedodd y PGOB fod y Ganolfan Gofal
Cymdeithasol ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddull o'r fath fel teclyn gwerthuso
posibl.
- Roedd y broses o asesu
anghenion gofal yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau gofal i’w cyflwyno i’r
asiantaeth briodol a fyddai’n darparu
gweithiwr gofal wedi’i hyfforddi’n briodol i ymgymryd â’r dyletswyddau a
nodwyd.
- Mynegwyd pryderon bod
honiadau wedi eu gwneud fod 31% o ofalwyr cyflogedig wedi bod yn gyfrifol am
achosi camdriniaeth yn ystod 2012/13.
Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau fod adolygiadau’n cael eu cynnal yn
rheolaidd a hynny ar sail asesiad risg blynyddol.
- Cyfeiriwyd at yr angen,
i wneud cofnod o’r asesiadau sydd wedi eu cynnal ar gael er gwybodaeth, ac
eglurodd y PGOB y gellid darparu’r wybodaeth hon.
- Amlinellwyd manylion
ynglŷn â’r ddarpariaeth hyfforddi a’r broses hyfforddi gan y PGOB. Amlygodd hefyd y targedau hyfforddi
cenedlaethol ar gyfer staff gofal a oedd yn cynnwys elfen ynglŷn â
diogelu.
- Mewn ymateb i bryderon
gan y Cynghorydd E.A. Jones ynglŷn â nifer uchel yr honiadau am
gamdriniaeth sy'n cael eu tynnu'n ôl a'r posibilrwydd fod trothwyon y meini
prawf wedi cael eu gosod yn rhy uchel, cadarnhaodd y Cydlynydd Diogelu Oedolion
Diamddiffyn y byddai asesiadau risg yn cael eu cynnal yn yr amgylchiadau
hyn. Cyfeiriodd y PGOB at y broses
ymchwilio, y canllawiau cenedlaethol priodol a’r trothwyon, ac at hawl y
defnyddiwr gwasanaeth unigol i wrthod cymorth.
- Ymatebodd y PGOB i'r
pryderon a fynegwyd gan yr Aelodau a darparu manylion ynglŷn â Pholisi
Chwythu Chwiban y Cyngor a'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu i chwythwyr
chwiban. Eglurodd y CCMLl fod y Polisi’n
cael ei adolygu ac y byddai gofyn i unrhyw staff adrodd am unrhyw bryderon sydd
ganddynt ynglŷn â diogelu. Bydd drafft terfynol y Polisi Chwythu Chwiban
yn cael ei gyflwyno ger bron y Cyngor i’w gymeradwyo a’i fabwysiadu.
- Mewn ymateb i’r cwestiwn ynglŷn â
chanran y digwyddiadau honedig sy’n ymwneud â chamdriniaeth yn y sector
anableddau dysgu, cafwyd gwybod gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion Diamddiffyn
fod nifer y digwyddiadau’n dueddol o fod yn isel, ond cytunodd i ddarparu'r
wybodaeth berthnasol i’r Cynghorydd J.R. Bartley.
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd cadarnhaodd y CC:MLl y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gyda’r
Cynghorwyr J.A Davies, E.A. Jones a’r PGOB i drafod y pryderon sydd ganddynt
mewn perthynas â threfniadau monitro gofal yn y cartref. Cytunwyd y bydd adroddiad ynglŷn â
goblygiadau Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) mewn perthynas â
diogelu a diogelu oedolion diamddiffyn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf
y Pwyllgor, ac y dylai'r adroddiad hefyd gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf
ynglŷn ag ymweliadau rota a manylion ynglŷn â’r cynnydd sydd wedi ei
wneud wrth fynd i’r afael â phryderon a godwyd mewn perthynas â monitro gofal
yn y cartref.
PENDERFYNODD y Pwyllgor -
(a) dderbyn a nodi cynnwys yr adroddiad yn amodol
ar y materion a godwyd gan yr Aelodau i’w trafod yn y cyfarfod y cytunwyd ei
gynnal rhwng yr Aelodau a swyddogion,
(b) gydnabod pwysigrwydd bod â dull gweithio
corfforaethol tuag at Ddiogelu Oedolion Diamddiffyn a bod y Cyngor â
chyfrifoldeb i edrych ar hyn fel prif faes blaenoriaeth,
(c) y bydd adroddiad ynglŷn â goblygiadau Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) mewn perthynas â diogelu a diogelu
oedolion diamddiffyn yn cael ei gyflwyno ger bron y Pwyllgor yng nghyfarfod 25
Ebrill 2013, a bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf
ynglŷn ag ymweliadau rota a manylion ynglŷn â’r cynnydd sydd wedi ei
wneud wrth fynd i’r afael â phryderon a godwyd mewn perthynas â monitro gofal
yn y cartref.
Dogfennau ategol: