Eitem ar yr agenda
GWASANAETH RHANBARTHOL BWRIEDIG I GYNLLUNIO RHAG ARGYFWNG
Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) i ystyried a chynnig sylwadau ar yr achos busnes llawn ar gyfer gwasanaeth cynllunio rhanbarthol mewn argyfwng cyn ei gyflwyno i’r Cabinet gyda golwg ar sicrhau y bydd y gwasanaeth rhanbarthol arfaethedig yn darparu’r lefel ofynnol o wasanaeth ar gyfer y Cyngor a thrigolion y Sir.
11.20 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd
a Chymunedol (CC:UECh), a oedd yn cyflwyno’r achos busnes llawn dros sefydlu
Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng (GRhGRhA) ac yn ceisio
sylwadau ynglŷn â’r argymhellion perthnasol, wedi ei gylchredeg ynghyd â
phapurau’r cyfarfod.
Datganodd y Cynghorydd D.I. Smith, yr Aelod Arweiniol â chyfrifoldeb am y
Gwasanaeth, gysylltiad personol a rhagfarnus â’r eitem hon gan adael y cyfarfod
cyn i’r eitem gael ei thrafod.
Eglurodd y CC:UEChi i 6 Chyngor Gogledd Cymru ymgymryd â gwaith i werthuso
buddion sefydlu GRhGRhA. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei gyflawni ac yn amlinellu
argymhellion yr achos busnes terfynol dros sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol a
fydd yn cael ei gyflwyno ger bron y Cabinet ym mis Mawrth 2013. Roedd crynodeb o’r trefniadau presennol wedi
cael eu hamlinellu yn Atodiad 1.
Roedd Prif Weithredwyr y chwe Chyngor wedi
comisiynu gwaith i ddatblygu a phrofi achos busnes dros wasanaeth sengl, gydag
is dimau rhanbarthol, a phresenoldeb swyddog o fewn pob Awdurdod i sicrhau
arbenigedd a gwybodaeth leol a pharhad gwasanaeth lleol. Roedd y Compact rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth Leol yn argymell y dylai cynllunio rhag argyfwng fod yn wasanaeth
cydweithio rhanbarthol ac mae’r achos busnes terfynol, Atodiad 2 yr adroddiad,
wedi ei seilio ar ddadansoddiad llawn o gostau a buddion sefydlu GRhGRhA. Roedd argymhelliad i fabwysiadu Gwasanaeth
Rhanbarthol gyda: -
· Strwythur isranbarthol - dwy ganolfan yn
gyfrifol am 3 Chyngor yr un
· Y naill
ganolfan yn cael ei harwain gan Reolwr Rhanbarthol a'r llall gan Ddirprwy
· Swyddog
Cynllunio Rhag Argyfwng ym mhob Awdurdod Lleol
· polisïau,
prosesau a chynlluniau cyffredin ac adnoddau wedi eu rhannu o fewn un strwythur
rheoli.
Manylai’r adroddiad ynglŷn â chyfrifoldebau’r
swyddog lleol a swyddogion y canolfannau isranbarthol, a byddai’r GRhGRhA yn
cael ei gomisiynu gan fwrdd gweithredol o swyddogion comisiynu, fyddai a
throsolwg drosto. Roedd yr achos busnes
yn nodi y byddai’r model newydd yn cynnig rhagor o wytnwch, arbenigedd a
chysondeb amgenach, modd o rannu arfer da, a chynhwysedd a gallu gwell. Byddai’n ehangu ar y cyswllt gyda phrif
ymatebwyr eraill trwy’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth ac yn cynnig rhagor o
gynhwysedd ar gyfer gweithio gyda rheolwyr gwasanaeth ledled pob Awdurdod Lleol
i gryfhau trefniadau ymateb. Roedd y
cynigion yn awgrymu cyfanswm arbedion o hyd at £75,000 am 10% o’r gost, gydag
arbedion pellach posibl wrth fod yn dyblygu llai.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynnig
£35k o’r Gronfa Wella i roi cymorth i Ogledd Cymru reoli’r newid i fod yn
Wasanaeth Rhanbarthol, gyda Chyngor Sir y Fflint yn ymddwyn fel Awdurdod
Arweiniol ar gyfer y prosiect.
Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion
a godwyd gan Aelodau:-
- Eglurodd y CC:UECh y byddai hyblygrwydd a lefelau
cyfathrebu yn gwella wrth sefydlu GRhGRhA.
Dylai hyn wella’r trefniadau o safbwynt Sir Ddinbych, gan y byddai un
swyddog wedi ei leoli yn y Sir o dan y Gwasanaeth newydd bwriedig. O dan y drefn bresennol, roedd yr holl
swyddogion ar gyfer Sir Ddinbych wedi eu lleoli yn Sir y Fflint.
- Dywedwyd
wrth yr aelodau y cawsai unrhyw ddigwyddiad mawr ei reoli ar sail Gogledd
Cymru. Cafwyd cadarnhad fod cynlluniau
ymateb ac adfer yn eu lle ac y byddai gwasanaethau Sir Ddinbych yn rhan o’r
broses.
- Cafwyd cadarnhad gan y CC:UECh na fyddai sefydlu
GRhGRhA yn disodli’r cynlluniau adfer presennol, ond yn hytrach yn cryfhau ar y
trefniadau hynny ac yn gwella ar y gwytnwch sydd ei angen i’w rhoi ar waith.
- Eglurodd y swyddogion na fyddai sefydlu’r GRhGRhA
yn cynhyrchu arbedion sylweddol, a chadarnhau na fyddai lleihad sylweddol o ran
adnoddau staffio.
Roedd y rhesymau y seiliwyd yr argymhellion arnynt
dros sefydlu ac ymuno â GRhGRhA, rhai a fydd yn cael ei rhoi ger bron y
Cabinet, wedi cael eu hamlinellu yn yr adroddiad ynghyd ag amserlen y prosiect. Byddai gofyn i'r Cabinet ddirprwyo awdurdod
i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol, i gymeradwyo
trefniadau manwl y newid at y gwasanaeth newydd ac ymgymryd â’r holl dasgau
sy’n angenrheidiol er mwyn sefydlu’r gwasanaeth newydd.
Roedd crynodeb o’r broses ymgynghori a gynhaliwyd a manylion unrhyw
oblygiadau ariannol neu risgiau posibl wedi cael eu cynnwys yn yr
adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Simmonds, cytunodd y CC:UECh i
geisio eglurhad mewn perthynas â chynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y
Badau Achub yn rhan o’r broses
ymgynghori ar gyfer y GRhGRhA bwriedig.
O fod wedi ystyried yr adroddiad a’r achos busnes
terfynol dros sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng
bwriedig, yn amodol ar gadarnhad y bydd ymgynghori, wedi neu yn cael ei gynnal
â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ynglŷn â’r cynigion, a chyda’r
bwriad o ddarparu gwasanaeth gwytnach i drigolion Sir Ddinbych PENDERFYNODD y Pwyllgor wneud
argymhelliad i'r Cabinet:-
(a)Eu bod
yn mabwysiadu’r achos busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol i
Gynllunio Rhag Argyfwng ar y sail sydd wedi ei nodi ym mharagraff 4.13 yr
adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 14 Mawrth 2013, a
(b)bod
awdurdod i gymeradwyo trefniadau manwl y newid at y gwasanaeth newydd ac i
ymgymryd â’r holl dasgau sy’n angenrheidiol er mwyn sefydlu’r gwasanaeth newydd
yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod
Arweiniol.
RHAN II
EITHRIO’R WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol
y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym
mharagraffau 14 ac 15 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dogfennau ategol:
- Em Plan Report, Eitem 7. PDF 95 KB
- Em Plan App 1, Eitem 7. PDF 29 KB
- Em Plan App 2, Eitem 7. PDF 408 KB