Eitem ar yr agenda
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL – COMISIYNU A MONITRO
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a
Busnes (copi ynghlwm) a oedd yn manylu’r ddarpariaeth gofal annibynnol a
gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a sut caiff ansawdd y gofal hwnnw ei
fonitro.
10.55 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion
a Busnes, a oedd yn disgrifio graddau’r ddarpariaeth gofal allanol a gomisiynir
yng Nghyngor Sir Ddinbych a’r ffordd y caiff ansawdd y gofal hwnnw ei fonitro,
wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Cyflwynodd Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion a Busnes yr adroddiad a oedd yn asesu ansawdd a gwerth y
ddarpariaeth gofal cymdeithasol annibynnol i ddefnyddwyr gwasanaeth yn Sir
Ddinbych. Roedd yn disgrifio’r cydbwysedd rhwng y ddarpariaeth allanol a mewnol
ac roedd Atodiad 1 yn disgrifio’r ganran o ddarpariaeth gofal allanol a mewnol.
Eglurodd fod y dull o fonitro ansawdd y
gwasanaeth a ddarperir wedi newid a bod gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu
proses ranbarthol a chytuno arni. Roedd y broses a ddilynir i fonitro ansawdd
yn Sir Ddinbych wedi’i chrynhoi yn yr adroddiad a defnyddiwyd pob cyswllt â
darparwyr i lywio’r gwaith o fonitro contractau. Amlinellwyd proses ymweliadau monitro
contract a chadarnhawyd bod proses i fonitro Gofal Preswyl yn cael ei datblygu
bellach. Eglurwyd bod ymweliadau monitro contract rhagweithiol wedi’u cynllunio
i ddechrau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan
yr Aelodau, eglurwyd bod system electronig newydd o gofnodi materion ansawdd a
Chontract wedi’i gweithredu i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf un ar gael
yn hawdd i swyddogion wrth iddyn nhw gael ymholiadau.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes y byddai barn a
dewis y Defnyddwyr Gwasanaeth yn cael eu hystyried. Pe na fyddai ansawdd
safonau darpariaeth, neu ofynion rheoleiddio AGGCC, yn cael eu bodloni, byddai
gwaith partneriaeth i wella ansawdd y ddarpariaeth gwasanaeth yn cael ei
weithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru am waith partneriaeth gyda
darparwyr.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes y byddai
dichonolrwydd cartrefi gofal dan fygythiad, wrth i nifer y lleoliadau cartref
gofal leihau, gyda mwy o bobl yn dewis aros yn eu cartrefi. Roedd cau cartrefi wedi
effeithio ar faich gwaith y tîm a oedd yn monitro’r broses ac yn sicrhau
trosglwyddiadau diogel i gartrefi gofal eraill yn unol â Chanllawiau
Llywodraeth Cymru. Byddai’r Tîm Adolygu’n cael ei ddatblygu yn 2013/14 a
fyddai’n golygu bod Swyddogion Gofal Cymunedol a Swyddogion Contract yn
cydweithio i adolygu anghenion gofal a monitro darpariaeth o ansawdd i bob
categori gofal. Byddai gwaith rhanbarthol ar fanylebau gwasanaeth a chontractau
yn dal i effeithio ar y ffordd y byddai contractau’n cael eu monitro. Roedd
manylion y broses ymgynghori a fabwysiadwyd a mesurau a gyflwynwyd i leihau
unrhyw risgiau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd am y broses hunanasesu a phwysigrwydd
sicrhau gweithdrefnau monitro cadarn, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth: Busnes
a Gofalwyr (SM:BC) y prosesau monitro a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych, a oedd
yn ceisio casglu’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i asesu lefel a safon
y gwasanaethau a ddarperir, ac archwilio adroddiadau AGGCC a’r camau a gymerir
drwy’r broses adolygu contract i fynd i’r afael ag unrhyw anghysondeb a nodir.
Cadarnhawyd y byddai gwaharddiad dros dro’n cael ei osod ar bob achos newydd pe
byddai darparwyr yn methu â bodloni’r safonau gofynnol, ac y byddai defnyddwyr
gwasanaeth presennol yn cael eu hadolygu i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu
bodloni.
Mewn ymateb i
gwestiwn, rhoes y Rheolwr Gwasanaeth: Busnes a Gofalwyr fanylion yr
hyfforddiant sydd ar gael i staff yr awdurdod lleol a’r sector annibynnol.
Ymatebodd hefyd i bryderon a godwyd ac eglurodd nad oedd bob amser yn ymarferol
nac yn bosibl i’r un gofalwr roi sylw i ddefnyddiwr gwasanaeth unigol yn
rheolaidd, nac ymweld yn rheolaidd â’r defnyddiwr. Fodd bynnag, cytunodd y
Rheolwr Gwasanaeth: Busnes a Gofalwyr y byddai’n ddefnyddiol i’r holl
gynghorwyr gael gwybod sut i roi gwybod i swyddogion am unrhyw bryderon sydd
ganddynt am ansawdd a lefel y gofal a ddarparir i breswylwyr yn eu wardiau gan
unigolion neu ddarparwyr gofal.
Ar ôl trafod
ymhellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:-
(a)
yn amodol
ar yr arsylwadau uchod, yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, a
(b)
yn cefnogi’r Gwasanaeth yn ei waith partneriaeth gyda’r Darparwyr Gofal
Sector Annibynnol.
Dogfennau ategol: