Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 45/2024/1019 - 1 FFORDD WELLINGTON, Y RHYL, LL18 1AY
Ystyried cais i newid defnydd o
siop (dosbarth A1) i fwyty/siop bwyd poeth i fynd (dosbarth A3) a gosod blaen
siop newydd (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i newid defnydd o siop
(dosbarth A1) i fwyty/siop bwyd poeth i fynd (dosbarth A3) a gosod blaen siop
newydd.
Trafodaeth Gyffredinol –
Roedd y Cynghorydd Alan James yn deall fod
pryderon wedi cael eu codi mewn perthynas â’r briffordd o flaen yr uned
fanwerthu, fodd bynnag, roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers amser hir felly
roedd dirywiad yn anochel. Roedd
arferion manwerthu a’r defnydd o strydoedd mawr wedi newid dros y blynyddoedd
diwethaf ac roedd y newid defnydd yn ffordd o ailwampio a dod â’r adeilad yn ôl
i ddefnydd. Cynigodd y Cynghorydd Alan
James y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog.
Nododd y Cynghorydd Gareth Sandilands ei fod
yn ymwybodol o leoliad yr uned fanwerthu a’i fod yn bryderus am y briffordd
brysur a’r achosion o barcio anghyfreithlon a oedd yn cyfyngu gwelededd
cerbydau sy’n pasio. Nodwyd hefyd y
nifer uchel o siopau bwyd i fynd yn yr ardal hon.
Mynegodd y Cynghorydd Ellie Chard bryderon
pellach am y briffordd a lleoliad yr eiddo.
Eglurodd y Rheolwr Datblygu bod llefydd
parcio ar gael o amgylch canol y dref, a bod unrhyw achosion o barcio
anghyfreithlon yn fater i’r Heddlu.
Roedd cynnydd wedi bod yn nifer y ceisiadau i’r Tîm Cynllunio am newid
defnydd eiddo manwerthu gwag mewn canol trefi ac roedd angen cydbwysedd wrth
ystyried y ceisiadau hyn.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pryderon a godwyd
gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’r cynnydd yn y defnydd o fwyd poeth a’r
effaith ar iechyd a lles cymunedau.
Nododd y Rheolwr Datblygu na allai swyddogion fod yn bendant y byddai’r
cais penodol hwn i newid defnydd adeilad yn cael effaith negyddol sylweddol a
fyddai’n cyfiawnhau gwrthod y cais.
Nododd y Cynghorydd Andrea Tomlin bryderon
pellach mewn perthynas â’r lleoliad a’r briffordd a nododd y byddai
cymeradwyo’r cais yn gwaethygu’r problemau traffig a oedd eisoes yn bodoli.
Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
p’un a fyddai modd i’r eiddo gael ei ddefnyddio at ddefnydd amgen dan y
categori A1 presennol, er enghraifft, fel Fferyllfa, heb unrhyw amodau
cynllunio. Nododd y Rheolwr Datblygu bod
sawl opsiwn manwerthu ar gael dan y defnydd categori A1 presennol ac roedd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn gywir na fyddai angen unrhyw amodau
cynllunio. Byddai hyn yn codi’r un
pryderon mewn perthynas â cherbydau’n defnyddio’r briffordd.
Nododd y Cynghorydd Terry Mendies na ddylai’r
Pwyllgor ganolbwyntio ar y pryderon/materion posibl yn y dyfodol. Roedd hwn yn gais am newid defnydd eiddo a
dylid ei ystyried ar ei rinweddau ei hun.
EILIODD y Cynghorydd Terry Mendies y cynnig i gymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhellion y Swyddog.
Pleidlais –
O blaid – 6
Yn erbyn – 8
Ymatal – 1
PENDERFYNWYD: Peidio â
chymeradwyo’r cais cynllunio yn unol ag argymhellion y swyddog.
CYNIGODD y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid
gwrthod y cais yn sgil pryderon diogelwch ffyrdd.
EILIODD y Cynghorydd Ellie Chard y cynnig i
wrthod y cais ac ychwanegodd y posibilrwydd o niwed i iechyd y gymuned yn sgil
y cynnydd mewn defnyddiau dosbarth A3 fel rheswm dros wrthod.
Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y rhesymau a
gynigwyd dros wrthod y cais.
Pleidlais –
O blaid – 3
Yn erbyn – 9
Ymatal – 3
PENDERFYNWYD: Peidio â gwrthod
y cais cynllunio am y ddau reswm a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Andrea Tomlin
a’r Cynghorydd Ellie Chard.
CYNIGODD y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid
gwrthod y cais yn sgil pryderon diogelwch ffyrdd gan fod y safle’n agos at
gyffordd brysur, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Chris Evans.
Pleidlais –
O blaid – 11
Yn erbyn – 2
Ymatal – 2
PENDERFYNWYD: GWRTHOD y cais, yn groes i argymhellion y
Swyddog, yn sgil pryderon diogelwch ffyrdd.
Dogfennau ategol: