Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PARATOI AR GYFER CYNNAL A CHADW YN Y GAEAF – TYMOR 2012-13

I ystyried adroddiad gang y Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith ar y Cyd (copi’n amgaeedig) a oedd yn nodi’r paratoadau ar gyfer Rhaglen Gynnal Gaeaf 2012/2013.

                                                                                                         10.10 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith, yn manylu paratoi Rhaglen Cynnal a Chadw Gaeaf 2012/2013, yn rhoi gwybodaeth ar gael llwybrau diogelach i drigolion y Sir ac ar gadw’r Sir ar agor i fusnes yn ystod tywydd drwg, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Rhoddodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith grynodeb manwl o’r adroddiad a oedd yn cynnwys materion yn ymwneud â’r meysydd allweddol a’r materion canlynol:-

 

-  Nid oedd newid wedi bod yn agwedd y Cyngor tuag at baratoi ar gyfer gwaith cynnal a chadw’r gaeaf.

-  Cadw gwasanaethau Contractwyr Amaethyddol.

-  Lefelau stociau halen yn y Depos ym Modelwyddan, Corwen a Rhuthun.

-  Trefniadau ar gyfer ail-gyflenwi tomenni a biniau halen.

-  Trefniadau rota ar gyfer darogan a goruchwylio.

- Manylion y strategaeth gyfathrebu a ddatblygwyd ar y cyd â’r Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Gwasanaethau Cwsmeriaid.

-  Trefniadau wrth gefn gyda swyddogion a staff yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad a’r Parth Cyhoeddus.

 

            Hysbysodd y swyddogion y Pwyllgor eu bod yn hyderus bod trefniadau boddhaol ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf, a bod cyllideb arwyddocaol wedi ei dyrannu i sicrhau y gallai’r gwasanaeth ymdopi â thywydd gwael. Roedd cronfa wrth gefn ar wahân hefyd ar gyfer unrhyw broblemau anodd iawn, er nad oedd hon wedi ei defnyddio mewn blynyddoedd diweddar.

 

Roedd darparu gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf yn ofyniad statudol dan Adran 41(1A) Deddf Priffyrdd 1980 fel y’i diwygiwyd gan Adran 111 Deddf Diogelwch Rheilffyrdd a Chludiant 2003. Roedd cwmpas y gofyniad i gwrdd â’r ddyletswydd wedi bod yn destun trafodaeth. Fodd bynnag, derbyniwyd bod y llwybrau graeanu a gyhoeddwyd gan y Cyngor wedi rhoi o leiaf y ddarpariaeth leiaf a ddisgwyliwyd. Byddai darpariaeth ychwanegol yn dibynnu ar argaeledd adnoddau a chynhaliwyd trafodaethau rheolaidd gyda rhanddeiliaid i ganfod yr agwedd orau i’w mabwysiadu.

           

- Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R.M. Murray, esboniwyd bod yr argymhelliad yn y cod ymarfer yn nodi na ddylai cerbydau fynd dros 30mya wrth raeanu., Cadarnhaodd bod cerbydau wedi eu calibreiddio a bod offer tracio ynddynt, a bod amrywiol osodiadau ar gyfer lledaenu mewn perthynas â lled y ffordd.   

 

- Amlinellodd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith Ddyletswydd Statudol yr Awdurdod i drin ffyrdd mabwysiedig. Esbiniwyd bod Cyfarwyddiaethau eraill, megis Dysgu Gydol Oes a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi gwneud trefniadau mewn perthynas â’u gwasanaethau a’u safleoedd hwy, ond roedd cynllun wrth gefn yn bodoli i ddelio ag argyfyngau.

- Rhoddwyd amlinelliad o lefelau stoc halen y Sir, yn unol â’r gofyniad gan Lywodraeth Cymru, gan y swyddogion. Sicrhaodd y swyddogion yr Aelodau, oni fo tywydd difrifol iawn yn arwain at brinder halen cenedlaethol, eu bod yn hyderus bod cyflenwadau digonol yn Sir Ddinbych.

- Cadarnhwyd bod dau beiriant graeanu bychan wedi eu prynu i drin ardaloedd yn y trefi.

- Rhoddwyd manylion deddfwriaeth yn ymwneud ag oriau gwaith gyrwyr, a rota gwaith gyrwyr gan y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith. Cytunwyd y gellid rhoi manylion pellach y cytundeb gyda’r Undebau ynglŷn ag oriau gyrwyr.

- Hysbyswyd yr Aelodau y gellid defnyddio contractwyr preifat i ddibenion cynnal a chadw yn y gaeaf os oedd angen.

- Cadarnhawyd na fyddai tâl i adnewyddu stociau halen mewn biniau halen ar safleoedd ysgol.

- Byddai palmentydd mewn trefi, megis mewn ardaloedd siopa, yn cael eu trin ar ôl cwblhau’r gwaith i’r prif rwydwaith, a fyddai’n derbyn blaenoriaeth.

- O ran trin ffyrdd sy’n arwain i gartrefi yr henoed, ffyrdd nad ydynt wedi eu mabwysiadu, meysydd parcio a phalmentydd mewn trefi, cadarnhaodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith y byddai staff Parth Cyhoeddus yn cael eu defnyddio i helpu gyda chlirio eira a thaenu halen a graean pan fyddant ar gael. Amlinellodd yr anawsterau a allai godi wrth ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw yn y gaeaf mewn ardaloedd y tu allan i gyfrifoldeb dirprwyedig yr Awdurdod. Cadarnhaodd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith y byddai swyddogion yn cysylltu gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod cynlluniau digonol wrth gefn i ddelio â thywydd y gaeaf o gwmpas datblygiadau tai ar gyfer grwpiau oedrannus a rhai sy’n agored i niwed.

- Byddai’r rhaglen ar gyfer graeanu a gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf ar gael ac yn cael ei chynnwys ar y wefan pan fyddai wedi ei chwblhau.

- Hysbyswyd yr aelodau, pe byddai sefyllfa’n codi lle’r oedd halen a roddwyd mewn biniau halen neu domenni yn cael ei gamddefnyddio, yna cymerid y camau priodol, megis ychwanegu lliw i gyflenwadau halen.

- Cadarnhawyd bod rhif ffôn argyfwng Sir Ddinbych ar gael.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunwyd rhoi esboniad ynglŷn â manylion y meysydd cyfrifoldeb ar gyfer cynnal a chadw yn y gaeaf mewn perthynas â’r Cyfarwyddiaethau penodol. Cadarnhaodd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Chludiant y byddai ffocws ar y blaenoriaethau yn deillio o’r rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig, ac y byddai ardaloedd eraill yn cael eu cyfeirio at yr Uwch Dîm Arwain i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau:-

 

(a)                                         Yn cytuno bod y paratoadau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf yn ddigonol ar gyfer y gaeaf a ragwelwyd,

(b)                                         Yn cadarnhau bod y trefniadau wrth gefn ar gyfer amodau mwy difrifol hefyd yn ddigonol, a

(c)                                          Yn gofyn am gael esboniad yn amlinellu manylion y meysydd cyfrifoldeb ar gyfer cynnal a chadw yn y gaeaf mewn perthynas â’r Cyfarwyddiaethau penodol.

 

 

Dogfennau ategol: